Afon Leri
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Afon Leri yn cynnwys llawr
dyffryn afon fach a’i lethrau is. Tirwedd amaethyddol o
ffermydd wedi’u hadeiladu o garreg, a chaeau a rennir yn
wrychoedd a waliau sych ydyw yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys
olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r
19eg ganrif. |
|
Allt
Goch
Llethr serth wedi’i orchuddio â choetir yw prif elfen
Allt Goch. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond ceir olion mwyngloddiau
metel o fewn y coetir. |
|
Allt
y Gwreiddyn
Mae Allt y Gwreiddyn yn llethr serth wedi’i orchuddio â
choed trwchus. Ceir ychydig o leiniau agored o dir pori o fewn
y coedwigoedd, ond dim aneddiadau. |
|
Banc
Bwlch Roser
Mae Banc Bwlch Roser yn esgair o dir wedi’i wella gan mwyaf
a leolir rhwng rhostir uchel, agored a thir amaeth amgaeëdig,
is. Mae’n cynnwys dwy fferm anghyfannedd ac olion mwyngloddiau
metel. |
|
Banc
Bwa-Drain
Mae esgair uchel o rostir agored a fferm wynt ac olion mwyngloddiau
plwm yn dyddio o’r 19eg ganrif yn nodweddu ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Banc Bwa-Drain. |
|
Banc Ceunant
Mae system gaeau reolaidd o gloddiau ac arnynt wrychoedd yn nodweddu
esgair Banc Ceunant. Fe’i lleolir rhwng tir amaeth is a
rhostir uwch. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
Banc
Llety Ifan Hen
Wedi’i lleoli rhwng rhostir uwch a thir amaeth amgaeëdig
is, mae esgair uchel Banc Llety Ifan Hen yn cynnwys caeau mawr
o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren. Nid
oes unrhyw aneddiadau, ond mae olion hen fwyngloddiau plwm yn
amlwg. |
|
Banc
Llechwedd-Ddu
Mae rhostir agored a phocedi o dir pori wedi’i wella a
rennir gan ffensys gwifrau yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol Banc Llechwedd-ddu. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
Banc
Trawsnant
Tir pori garw ac olion gweithgarwch cloddio am blwm yw prif nodweddion
y boced fach hon o rostir a elwir yn Fanc Trawsnant. Erbyn hyn
ceir planhigfeydd o goed coniffer o bob tu iddi bron. |
|
Banc
Troedrhiwseiri
Mae Banc Troedrhiwseiri yn cynnwys esgair o dir pori wedi’i
wella a rennir gan gloddiau a ffensys gwifren. Nid oes unrhyw
aneddiadau. |
|
Bont
Goch
Mae Bont-goch yn ardal dirwedd gymhleth sy’n cynnwys pentref
cnewyllol llac o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r
20fed ganrif, ffermydd bach, gwasgaredig, a chaeau mawr o dir
pori wedi’i wella a thir pori garw. Mae olion y diwydiant
cloddio plwm yn amlwg. |
|
Bryngwyn
Mae Bryngwyn yn dirwedd o ffermydd a thai gwasgaredig, wedi’u
lleoli o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp, ac ambell
glwstwr o goetir collddail a chonifferaidd. At ei gilydd mae’r
adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
|
|
Bwlchcrwys
Er yr ymddengys fod tirwedd Bwlchcrwys yn cynnwys tir pori wedi’i
wella, agored a ffermydd gwasgaredig gan mwyaf, o edrych arni’n
fanylach gwelir ffensys gwifren a hen gloddiau terfyn. Tirwedd
fryniog ydyw heb fawr ddim coed ar wahân i blanhigfeydd
bach o goed coniffer a’r coed hynny sy’n tyfu gerllaw
anheddau. |
|
Capel
Bangor
Lleolir pentref diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif yng
nghanol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Capel Bangor. Mae’r
adeiladau yng nghraidd y pentref yn cynnwys bythynnod a thai gweithwyr
bach, a cheir ‘filas’ mwy o faint yn dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif ar ei gyrion. Mae’r datblygiad diwydiannol
hwn yn gorwedd ar dirwedd o gaeau wedi’u hamgáu gan
wrychoedd ar gloddiau a ffermydd gwasgaredig. |
|
Cefn
Bangor & Cefn Fuches
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cefn Bangor a Chefn Fuches
yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau a rennir gan gloddiau.
Ceir gwrychoedd ar rai cloddiau, ond erbyn hyn ffensys gwifren
yw’r prif fath o ffin. Mae adeiladau’r ffermydd yn
dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf a cheir rhai anheddau modern. |
|
Cnwch
Coch
Dechreuodd Cnwch Coch fel anheddiad sgwatwyr ar ddiwedd y 18fed
ganrif. Mae hyn yn esbonio’r nifer o fythynnod brodorol,
bach yn y pentref clystyrog llac. O bob tu i’r pentref ceir
tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan wrychoedd
ar gloddiau. |
|
Coed
Gruffydd
Mae ffermydd gwasgaredig, caeau bach, afreolaidd eu siâp
a chlystyrau o goetir collddail a chonifferaidd ar lawr a llethrau
is dyffryn ucheldirol Afon Stewi yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol Coed Gruffydd. |
|
Cwm Magor
Mae ychydig o ffermydd bach, gwasgaredig a chaeau o dir pori
wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd o fewn dyffryn
ucheldirol, cul â llethrau serth yn nodweddu ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Cwm-Magor. |
|
Cwm
Erfyn
Mae Cwmerfyn yn dirwedd gymhleth a leolir ym mlaen dyffryn ucheldirol
â llethrau serth. Mae ei phrif elfennau yn cynnwys olion
gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif
a’r 19eg ganrif, tai gweithwyr a ffermydd gwasgaredig. Mae’r
rhain yn sefyll mewn tirwedd o gaeau afreolaidd eu siâp
o dir pori wedi’i wella. |
|
Cwmnewidion
Ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llawr dyffryn serth, caeau
bach o dir pori wedi’i wella ac olion sylweddol o fwyngloddiau
metel yn dyddio o’r 19eg ganrif yw prif elfennau tirwedd
hanesyddol Cwmnewidion. |
|
Cwm
Rheidol
Mae olion y diwydiant cloddio metel, tai gweithwyr gwasgaredig
yn dyddio o’r 19eg ganrif, ffermydd gwasgaredig a chynllun
hydrodrydanol yn dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgu
i mewn i lawr cul dyffryn Afon Rheidol a’i lethrau is, serth
yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm Rheidol. |
|
Cwmsymlog
Olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed
ganrif a’r 19eg ganrif yn gorwedd ar draws llawr a llethrau
is dyffryn ucheldirol â llethrau serth yw elfennau amlycaf
ardal tirwedd hanesyddol Cwmsymlog. Mae adeiladau diwydiannol
adfeiliedig, tomenni ysbwriel, tai gweithwyr, adeiladau domestig
eraill a chapel i gyd yn elfennau pwysig yn y dirwedd. |
|
Cynnull
Ffermydd gwasgaredig, a chaeau afreolaidd eu siâp a rennir
gan gloddiau a chloddiau cerrig y ceir gwrychoedd arnynt weithiau
yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cynnull. |
|
Daren
Mae ffermydd gwasgaredig, clwstwr bach o fythynnod gweithwyr
yn dyddio o’r 19eg ganrif, olion gweithgarwch cloddio am
fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a
chaeau o dir pori wedi’i wella yn nodweddu tirwedd Daren. |
|
Grogwynion
and Gwaithcoch
Mae dyffryn Afon Ystwyth o fewn ardal tirwedd hanesyddol Grogwynion
a Gwaithgoch yn gul ac yn serth. Mae llawr y dyffryn heb ei amgáu
ac fe’i defnyddir fel tir pori gwlyb, garw. Lleolir dwy
fferm ar y llethrau is, ond olion mwyngloddiau metel yn dyddio
o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yw elfennau amlycaf
yr ardal hon. |
|
Hen
Gaer
System gaeau reolaidd o dir pori wedi’i wella a rennir
gan gloddiau â gwrychoedd, a phlanhigfeydd o goed collddail
a choed coniffer yw prif elfennau tirwedd Hen Gaer. Nid oes unrhyw
aneddiadau. Mae’r fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn
a roddodd i’r ardal ei henw yn bwysig. |
|
Llanafan
Lleolir pentref llinellol bach yn dyddio o’r 19eg ganrif,
yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif yng nghanol ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Llanafan. Ceir caeau bach o dir pori o gwmpas
y pentref. |
|
Llanfihangel
y Creuddyn
Lleolir pentref Llanfihangel-y-Creuddyn yng nghanol yr ardal
gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Pentref cnewyllol, bach ydyw
ac iddo eglwys Ganoloesol yn ei ganol yn ogystal â nifer
o dai a adeilawyd cyn y 19eg ganrif, sy’n anarferol yn achos
y rhanbarth hwn. |
|
Llawr
y Cwm Bach
Yn ymestyn ar draws llawr a llethrau is dyffryn ucheldirol, mae
Llawr-y-Cwm-Bach yn cynnwys nifer o aneddiadau anghyfannedd, fferm
ucheldirol, olion gweithgarwch cloddio am fetel a thir pori garw
a phocedi o dir pori wedi’i wella. |
|
Llety Synod
& Frongoch
Mae Llety Synod a Frongoch yn cynnwys tirwedd fryniog, rhwng
220m a 340m, o ffermydd gwasgaredig ac olion y diwydiant cloddio
am fetel. Mae’r olion diwydiannol hyn yn elfen gref yn y
dirwedd hanesyddol ac yn Frongoch maent yn cynnwys y casgliad
gorau yn ôl pob tebyg o adeiladau mwynglawdd yn dyddio o’r
19eg ganrif yng Nghymru. |
|
Llwyn-Crychyddod
Mae Llwyn-Crychyddod yn ardal tirwedd hanesyddol fach sy’n
cynnwys caeau rheolaidd eu siâp a sefydlwyd ar ddiwedd y
18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
Rhan
Isaf Cwm Rheidol
Ffermiau ar wasgar a chaeau bach afreolaidd o borfa amgen ar
y llawr fflat a'r llethrau isaf o'r Rheidiol sydd yma. Yn bresennol
hefyd mae lynoedd mewn hen chwareli grafel ac olion cloddio metel.
|
|
Maen Arthur
Yn ei hanfod mae Maen Arthur yn dirwedd amaethyddol o ffermydd
gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori.
Lleolir olion mwyngloddiau metel bach yn dyddio o’r 19eg
ganrif yn yr ardal hon, yn ogystal â New Row, sef rhes o
fythynnod gweithwyr. |
|
Moelgolomen
Mae cwpl o ffermydd ucheldirol a bythynnod/tyddynnod anghyfannedd
a leolir o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori
yn nodweddu tirwedd Moelgolomen. Ceir olion gweithgarwch cloddio
am fetel yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon. |
|
Mynydd
March
Planhigfeydd helaeth o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed
ganrif yw prif elfennau tirwedd Mynydd March. Fe’u plannwyd
dros rostir agored lle y nodwyd olion nifer o fythynnod anghyfannedd,
hen fwyngloddiau metel, caer o’r Oes Haearn a meini hirion
o’r Oes Efydd. |
|
Nantyrarian
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Nantyrarian yn cynnwys
tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach yn ymestyn
ar draws llawr a llethrau is dyffryn serth. Wedi’u harosod
ar y dirwedd hon mae mwyngloddiau mwyn a chymunedau mwyngloddio
yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif . Mae’r
aneddiadau mwyngloddio yn elfennau pwysig yn y dirwedd. |
|
Pantyhaidd
Mae planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif
yn diffinio ac yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pant-y-Haidd.
Sefydlwyd y planhigfeydd dros rostir agored a lled-agored. Lleolir
bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn y planhigfeydd.
|
|
Pengrogwynion
& Brynafan
Bythynnod/tyddynnod mewn tirwedd o dir pori wedi’i wella
a thir pori garw, a leolir ar esgair uchel uwchlaw dyffryn Afon
Ystwyth, yw rhai o brif elfennau tirwedd hanesyddol Pengrogwynion
a Brynafan. Dechreuodd y patrwm anheddu fel aneddiadau sgwatwyr
ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. |
|
Penrhyn-Coch
Mae Penrhyn-coch yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth.
Yn gorwedd ar y patrwm sylfaenol o hen ffermydd gwasgaredig wedi’u
lleoli mewn caeau bach a rennir gan gloddiau a gwrychoedd ceir
dau anheddiad diwydiannol yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r
19eg ganrif - sef Penrhyn-coch a Phen-bont Rhydybeddau - a thai
modern helaeth ym Mhenrhyn-coch.
|
|
Pen-
Rhiw-Newydd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pen-rhiw-newydd ar
esgair gron o dir pori wedi’i wella a rannwyd yn gaeau gan
gloddiau ac ambell wal sych. Lleolir dau bentrefan yn dyddio o’r
19eg ganrif - sef Pen-rhiw-newydd a Salem - ar yr esgair. |
|
Pontarfynach
Yn ei hanfod pentref yw Pontarfynach a ddatblygodd yn y 19eg
ganrif a’r 20fed ganrif i wasanaethu’r diwydiant twristiaeth.
Mae wedi’i ganoli ar bont enwog ‘Devil’s Bridge’
ac adeilad trawiadol Gwesty’r Hafod Arms gerllaw. |
|
Coetir
Cwm Rheidol
Mae clystyrau helaeth o hen goetir collddail a rhai planhigfeydd
o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif ar lethrau serch
yn darparu prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coetir
Cwm Rheidol. Lleolir olion y diwydiant cloddio plwm o fewn y coetir. |
|
Rhosgoch
Caeau bach a rennir gan wrychoedd ar gloddiau, ffermydd gwasgaredig
a chlystyrau o goetir collddail yw prif elfennau tirwedd hanesyddol
Rhosgoch. |
|
Rhosrhydd
Mae Rhos Rhydd yn esgair o dir pori wedi’i wella a amgaeir
gan rai ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau, er y ceir
ychydig o goetir ar rai o lethrau’r esgair. Lleolir bryngaer
yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn yr ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol hon. |
|
Rhos-y- gell
Cyn i sgwatwyr ymsefydlu yma ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r
19eg ganrif roedd Rhos-y-Gell yn rhostir agored. Mae llawer o’r
bythynnod a’r tyddynnod niferus a sefydlwyd wedi goroesi,
ond mae rhai yn anghyfannedd. Fe’u lleolir mewn tirwedd
o dir pori garw. |
|
Rhydperinion
Mae tyddynnod a bythynnod o fewn tirwedd o dir pori wedi’i
wella a rennir gan gloddiau ag ambell wrych yn nodweddu tirwedd
hanesyddol Rhydpererinion. |
|
Talyfan
Mae tir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren
ar fryn crwn yn nodweddu tirwedd Tal y Fan. Nid oes unrhyw aneddiadau
ond mae dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn yn elfennau
pwysig yn y dirwedd. Ceir coetir collddail a phlanhigfeydd o goed
coniffer ar lethrau’r bryn.
|
|
Tanyffordd
Tirwedd amaethyddol o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig yw Tanyffordd
yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys pentrefan llinellol Pisgah
yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
|
|
The Hill
Mae caeau rheolaidd o dir pori a rennir gan gloddiau â
gwrychoedd yn un o brif elfennau The Hill. Ceir anheddiad llinellol
bach yma, a ddechreuodd o bosibl fel anheddiad sgwatwyr, ac sy’n
cynnwys bythynnod yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai modern.
|
|
Trawscoed
Mae Trawscoed yn dirwedd ystad; yn ei chanol lleolir plasty Trawscoed,
gerddi a pharcdir. Yn ystod yr 20fed ganrif addasodd sefydliadau’r
llywodraeth lawer o’r parcdir (er na newidiwyd ei gymeriad
yn ei hanfod), ac adeiladwyd swyddfeydd ac adeiladau amaethyddol
mawr yn ogystal â rhai tai modern.
|
|
Ty'n-y-Castell
Caeau bach o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd,
ychydig o goetir collddail, a ffermydd a bythynnod gwasgaredig
yw rhai o brif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ty’n-y-Castell. |
|
Waun Wyddyl
Mae Waun Wyddyl yn fryn agored o dir pori wedi’i wella
a rennir gan ffensys gwifrau lle yr adeiladwyd fferm wynt ar ddiwedd
yr 20fed ganrif. Mae bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a
nifer o henebion angladdol a defodol posibl yn dyddio o’r
Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. |
|
Wenallt
Adeiladwyd llawer o’r adeiladau yn nhirwedd y Wenallt gan
ystad Trawscoed neu dylanwadwyd arnynt ganddi, ac maent yn cynnwys
tþ Sioraidd a fferm y Wenallt a adeiladwyd ar gyfer yr ystad.
Nodweddir y dirwedd amaethyddol gan gaeau o dir pori wedi’i
wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Mae coetir a choed
a blannwyd yn rhoi naws parcdir i rannau o’r dirwedd. |
|
Ysgubornewydd
Lleolir ardal dirwedd Ysgubornewydd ar fryniau crwn ac mae’n
cynnwys caeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau
â gwrychoedd. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd, ond mae
caer yn dyddio o’r Oes Haearn a chrug crwn yn dyddio o’r
Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. |
|
Ystumtuen
Mae Ystumtuen yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth lle
y ceir olion y diwydiant cloddio plwm yn gymysg â daliadau
amaethyddol. Ceir nifer weddol fawr o aneddiadau ar gyfer ardal
wledig, ond mae llawer o safleoedd tai anghyfannedd yn tystio
i dirwedd a oedd yn llawer mwy poblog yn y 19eg ganrif.
|
|