![](../../shim.gif) |
![NANTYRARIAN](webphotos/nantyrarian.jpg)
NANTYRARIAN
CYFEIRNOD GRID: SN 693813
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 320.0
Cefndir Hanesyddol
Gorweddai rhan ddwyreiniol yr ardal hon, i’r dwyrain
o bentref Goginan, o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir.
Daliad bugeiliol pwysig ydoedd: cofnodir 300 o ddefaid, 128 o wartheg
a 26 o gesig yma ym 1291 (Williams 1990, 40). Mesurodd Lewis Morris faint
‘Arglwyddiaeth Nantyrarian’, a rannai’r un ffiniau â’r
faenor yn ôl pob tebyg. Cloddio am fetel a lleoliad mwynau arian
oedd diddordeb pennaf Morris, ond dengys ei fap dyddiedig 1744 dirwedd
o ffermydd gwasgaredig. Erbyn y 18fed ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r
eiddo yn yr ardal yn nwylo ystadau Gogerddan a Chastell Powys. Dengys
mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Castell Powys 164;
LlGC Cyf 37, 57-60) ffermydd Ty’n-y-pwll, Nantyrarian, Cwmbrwyno,
Abernant-yr-arian a Blaendyffryn mewn tirwedd o gaeau bach ar loriau dyffrynnoedd
- tirwedd debyg iawn i’r un a welir heddiw. Mae’n debyg erbyn
diwedd yr Oesoedd Canol, neu ynghynt efallai, fod Maenor Nantyrarian wedi’i
rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn unigol.
Felly gall y ffermydd a gofnodwyd gan Morris ac a ddangosir ar y mapiau
ystad fod yn hen iawn, a hefyd eu systemau caeau cysylltiedig. Bu cloddio
am fetel yn elfen bwysig yn adeiledd economaidd yr ardal ers cryn amser.
Mae’n bosibl bod arteffactau Rhufeinig y tybir eu bod yn dod o lefelydd
dystio i hynafiaeth mwynglawdd Goginan (Bick 1983, 35-38; Hughes 1988).
Yn ddiau buwyd yn gweithio Goginan o’r 1560au hyd yr 20fed ganrif.
Mae mwyngloddiau eraill yn yr ardal yn cynnwys mwynglawdd Gorllewin Goginan
a mwynglawdd Ty’n-y-Pwll. Oherwydd eu cyflenwadau helaeth o fwyn
a’r ffaith eu bod wedi para mor hir mae mwyngloddiau Goginan wedi
cael cryn effaith ar y dirwedd hanesyddol. Yn ogystal â lefelydd
mae’r mwyngloddiau, tai gweithwyr, capeli ac adeiladau eraill yn
Hen Goginan, Goginan a Chwmbrwyno yn tystio i’r cyfoeth a grëwyd
gan y diwydiant. Cynyddodd y penderfyniad i adeiladu ffordd dyrpeg trwy’r
ardal - ffordd yr A44 bellach - botensial masnachol yr ardal ymhellach,
ac arweiniodd at newid canolbwynt y patrwm anheddu o fewn yr ardal o Hen
Goginan ar lawr y dyffryn i Goginan ar y ffordd newydd, a phenderfynodd
leoliad cymuned fwyngloddio Cwmbrwyno.
![NANTYRARIAN](webphotos/nantyrarian2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymhleth hon wedi’i chanoli
ar ddyffrynnoedd gwastad, bras Afonydd Arian, Melindwr a Brwyno. Mae llethrau
a orchuddir gan goed trwchus yn codi’n serth, mor uchel â
300m, o loriau dyffrynnoedd ar uchder o ryw 100m. Ni chynhwysir y llethrau
coediog yn yr ardal hon, ond cynhwysir y llethrau is lle y maent yn foel,
i fyny at uchder o ryw 200m. Tir pori wedi’i wella yw’r tir
amaeth i gyd bron, ac ychydig iawn o dir pori garw sydd. Mae caeau bach,
afreolaidd eu siâp yn gorwedd ar draws llawr y dyffryn ac i fyny’r
llethrau is. Cloddiau ac arnynt wrychoedd sy’n ffurfio ffiniau’r
system gaeau hon. Mae’r gwrychoedd gerllaw ffyrdd mewn cyflwr da
ac maent yn cael eu cadw a’u cynnal yn dda, ond mewn mannau eraill
maent mewn cyflwr gwael, ac weithiau maent wedi tyfu’n wyllt neu
wedi’u hesgeuluso, ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu atynt.
Ym mhen dwyreiniol ac ym mhen gorllewinol yr ardal ceir coed gwrychoedd
nodedig, ac mae’r rhain ynghyd ag ambell glwstwr o goed llydanddail,
a’r llethrau sydd wedi’u plannu â choed trwchus yn rhoi
golwg goediog i rai lleoliadau.
Uwchben y patrwm anheddu hynafol o ffermydd gwasgaredig
mae cymunedau mwyngloddio yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg
ganrif a datblygiadau modern. Mae’r adeiladau, yn amaethyddol ac
yn ddiwydiannol, wedi’u hadeiladau yn draddodiadol o gerrig (cerrig
moel, cerrig wedi’u rendro â sment neu gerrig wedi’u
paentio) a chanddynt doeau o lechi gogledd Cymru. Goginan yw’r mwyaf
o’r aneddiadau diwydiannol, er nad yw’n fwy na phentref o
hyd, ac mae’n cynnwys terasau o dai gweithwyr (terasau a adeiladwyd
mewn un cyfnod i’r pwrpas yn ogystal â therasau a adeiladwyd
mewn mwy nag un cyfnod) yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir tai gweithwyr ar wahân a
thai gweithwyr pâr mewn arddull debyg, tai Sioraidd mwy o faint
neu dai mwy o faint yn yr arddull Sioraidd - tai rheolwyr neu berchenogion
mwyngloddiau yn ôl pob tebyg-, tafarn yn yr arddull Sioraidd a nifer
o gapeli yn dyddio o’r 19eg ganrif ac eglwys, nas defnyddir bellach.
Mae’r pentref cyfan wedi’i wasgaru ar hyd y ffordd dyrpeg
ac i lawr y llethr ohoni (y briffordd bresennol). Ar y llethrau islaw
craidd y pentref hyn ceir tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed
ganrif a’r 21eg ganrif. Ar y llethr gyferbyn, ceir tai ar wahân
a thai pâr sy’n fwy o faint na’r tai a geir yn Goginan,
er eu bod mewn arddull debyg ac yn dyddio o’r un cyfnod, fwy neu
lai. Ceir rhai tai gweithwyr llai o faint yma hefyd. Ceir tai gweithwyr
hefyd yng Nghwmbrwyno yn ogystal â fila gothig yn dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif. Mae’r ffermydd o faint cymysg, ond maent yn tueddu
i fod o faint bach i ganolig. Mae’r ffermdai yn yr arddull frodorol
Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd
y 19eg ganrif. Fel arfer mae ganddynt ddau lawr, ac maent wedi’u
hadeiladu o gerrig wedi’u rendro â sment. Mae adeiladau allan
wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu
lai ac fel arfer maent yn cynnwys dwy neu dair rhes fach. Ar rai ffermydd
mae’r adeiladau allan ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef.
Ceir adeiladau amaethyddol modern ar ffermydd gweithredol, ac fel arfer
nid ydynt yn fawr. Wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd ceir tai a
byngalos modern, sy’n ffurfio clystyrau ger Hen Goginan a Goginan.
Tomenni ysbwriel yw olion amlycaf y diwydiant cloddio
plwm. Bu tomenni ysbwriel mwynglawdd Goginan yn destun rhaglen o welliannau
amgylcheddol ac nid oes fawr ddim diddordeb wedi goroesi o’r tomenni
ysbwriel hyn ac unrhyw elfennau eraill o’r safle ar wahân
i blân ar oleddf.
Mae’r rhan fwyaf o archeoleg gofnodedig yr ardal
hon yn cynnwys olion y diwydiant cloddio metel ac adeiladau ôl-Ganoloesol
sydd wedi goroesi megis capeli, anheddau ac ysgol. Fodd bynnag, mae darganfyddiadau
Neolithig, dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd, maen hir posibl
yn dyddio o’r Oes Efydd a bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn
yn darparu dyfnder amser ar gyfer y dirwedd.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ar bob ochr ac
eithrio tua’r pen dwyreiniol lle y mae tir amgaeëdig is o amgylch
Capel Bangor yn ymdoddi iddi. Ar bob ochr arall yn ffinio â’r
ardal hon ceir llethrau coediog iawn neu rostir uchel.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |