![Cwm Magor](webphotos/cwmmagor.jpg)
CWM-MAGOR
CYFEIRNOD GRID: SN 689757
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 76.7
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes anheddu’r dyffryn
cul, pengaead ac anghysbell hwn sydd â llethrau serth iawn cyn canol
y 18fed ganrif. Fferm ar ystad Nanteos a gâi ei gosod i denant oedd
Cwm-magor, ac fe’i dangosir ar fap o’r ystad dyddiedig 1764-5
(LlGC Nanteos 349) fel daliad sy’n debyg iawn o ran ei gymeriad
i’r un a welir heddiw – sef fferm anghysbell â chaeau
bach ar lawr y dyffryn, a thir agored yn dechrau ar y llethrau isaf ac
yn parhau i fyny llethrau’r dyffryn at dir uwch. Erbyn 1819 roedd
Blaen cwm-magor a Chwm-magor wedi dod i feddiant ystad Trawscoed. Dengys
mapiau o’r ystad yn dyddio o’r cyfnod hwn (LlGC Trawscoed
Cyf 1, 16 a 41) fferm Blaen cwm-magor fel y mae heddiw a chanddi gaeau
bach ar lawr y dyffryn. Mae’n ddiddorol nodi bod y map o Gwm-magor
yn dangos lleiniau o dir âr agored ar rai o’r llethrau isaf.
Oherwydd y topograffi mae’n debyg bod llawr ffrwythlon y dyffryn
wedi’i ffermio a’i amgáu ar raddfa fwy dwys ers y Cyfnod
Canoloesol o leiaf, na thir garw llethrau serth y dyffryn na wneid fawr
ddim defnydd ohono.
![Cwm Magor](webphotos/cwmmagor2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Yn draddodiadol yr unig ffordd i mewn i’r dyffryn
pengaead, cul hwn oedd o’r pen de-orllewinol agored, ond mewn cyfnodau
mwy diweddar torrwyd llwybrau i mewn i’r llethr gogleddol a’r
pen gogledd-ddwyreiniol. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn ddyffryn
cymharol anghysbell. Mae llawr y dyffryn tua 120m o uchder; mae’r
llethrau’n codi i dros 300m. Mae tair fferm wedi’u gwasgaru
ar hyd y dyffryn. Ar lawr y dyffryn a’r llethrau isaf, gerllaw pob
fferm, ceir caeau bach, afreolaidd eu siâp. Eto i gyd ar lawr y
dyffryn a’r llethrau isaf ond ymhellach i ffwrdd o’r anheddau,
mae caeau sydd ychydig yn fwy o faint ac ychydig yn fwy rheolaidd yn nodi
episod neu episodau diweddarach o amgáu. Rhennir y caeau gan gloddiau
ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr eithaf da, ond
mae rhai wedi’u hesgeuluso ac, mewn rhai achosion, maent yn dechrau
tyfu’n wyllt. Mae ffensys gwifrau wedi’u rhoi yn lle rhai
gwrychoedd. Tua’r pen de-orllewinol, ar lannau Nant Magor ceir clystyrau
bach o goetir collddail. Mae bron pob cae yn cynnwys tir pori wedi’i
wella.
Ymddengys fod y tai yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol
nodweddiadol yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd – sef
simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr
ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Maent
wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u rendro a cheir llechi ar
y toeau. Mae rhesi bach o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig
ac adeiladau amaethyddol modern bach yn gysylltiedig â’r ffermydd.
Mae i’r ardal gymeriad tirwedd hon ffiniau eithaf
pendant. Ceir tir agored ar lethrau serth i’r gogledd, i’r
dwyrain ac i’r gorllewin, ond i’r de-orllewin mae’r
ardal hon yn ymdoddi i dir amgaeëdig ardaloedd cymeriad sy’n
debyg o ran eu golwg.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |