![Ban Llety Ifan Hen](webphotos/banclletyifanhen.jpg)
BANC LLETY IFAN HEN
CYFEIRNOD GRID: SN 693850
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 88.6
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, pan ymddengys
y câi ei defnyddio fel tir pori ucheldirol lle y safai hafod (Williams
1990, 57). Mae ei hanes diweddarach yn ansicr, ond pan ddiddymwyd yr abaty
ymddengys iddi fynd yn rhan o ystad Gogerddan. Ffridd agored heb unrhyw
aneddiadau ydoedd tan y 1840au, ac ar ôl hynny fe’i rhannwyd
yn gaeau mawr. Dechreuwyd cloddio am fetel yn yr ardal yn 1840au pan agorwyd
mwynglawdd Llety Ifan Hen, a barhaodd i weithio tan 1911 (Bick 1988, 32).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal fach hon yn cynnwys y rhan honno o
esgair greigiog sy’n gorwedd rhwng tir uchel, agored i’r dwyrain
a thir amgaeëdig is i’r gorllewin. Mae’r ardal yn codi
i 300m lle y mae ar ei huchaf, ac mae’r llethrau yn disgyn i 200m.
Mae hen gaeau mawr a nodir gan gloddiau pridd a cherrig bellach yn ddiangen,
ac mae’r ardal yn y bôn yn cynnwys tir agored unwaith eto
wedi’i rannu gan ambell ffens wifrau. Tir pori wedi’i wella
a geir gan fwyaf, er bod darnau o dir garw a rhedyn, yn arbennig ar lethrau
serth. Tirwedd heb goed ydyw. Mae olion y diwydiant cloddio metel yn nodweddion
tirwedd amlwg, ac maent yn cynnwys pwll olwyn, tþ injan, traphont
a nodweddion eraill. Yn rhedeg ar draws llethrau gogleddol yr ardal hon
ceir ffrydiau a wasanaethai’r diwydiant cloddio metel (Tucker 1976).
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys bryngaer
yn dyddio o’r Oes Haearn sydd mewn cyflwr da - sef Pen-y-Castell
- a dau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae aneddiadau anghyfannedd
yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol ar gyrion yr ardal yn tystio
i dirwedd gyfannedd yn y gorffennol cymharol ddiweddar.
Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau eithaf pendant,
ac mae’n gorwedd rhwng tir agored i’r dwyrain, coedwigoedd
i’r de-ddwyrain a thir amgaeëdig is i’r gogledd-orllewin,
i’r gorllewin ac i’r de-orllewin.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |