Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Daren

DAREN

CYFEIRNOD GRID: SN 681829
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 428.6

Cefndir Hanesyddol

Nid yw hanes cynnar yr ardal hon yn hysbys. Ni orweddai o fewn maenor fynachaidd, fel y gwnâi’r rhan fwyaf o’r tir cyfagos. Erbyn y 18fed ganrif o leiaf, a chryn dipyn yn gynharach na hynny yn ôl pob tebyg, roedd llawer o’r tir wedi dod i feddiant ystadau Gogerddan, Castell Powys a Court Grange. Mae’n debyg, am nifer o ganrifoedd, fod yr ardal hon wedi’i nodweddu gan dir pori agored, garw, er efallai bod Fferm Daren yn hen iawn. Mae mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gogerddan 68, 67; Castell Powys 164; Scott Archer 20; Cyf 37, 64; R.M. 108) yn dangos yr ardal hon i gyd bron fel tir agored. Y prif eithriad yw Fferm Daren, ond hyd yn oed yma lleolir yr annedd mewn llain fawr o ffridd agored. Mae map 1788 yn un diddorol (LlGC R.M. 108), ac arno mae esgair agored yr ardal hon wedi’i hanodi â llaw ddiweddarach, sy’n ei rhannu’n gyfres o gaeau mawr, rheolaidd a ffermydd newydd. Nid yw’n sicr pryd y newidiwyd y map fel hyn, ond roedd wedi digwydd erbyn arolwg degwm 1845 pan oedd yr ardal gyfan wedi’i hamgáu a nifer o ffermydd newydd wedi’u sefydlu. Mae olion y diwydiant cloddio metel (plwm yn bennaf) yn elfennau pwysig yn y dirwedd hon. Mae Daren yn fwynglawdd hen iawn, a sefydlwyd yn ystod y Cyfnod Rhufeinig o bosibl. Buwyd yn ei weithio yn y 17eg ganrif, ac er i gynhyrchiant ddod i ben am ganrif bron, fe’i hailagorwyd a buwyd yn ei weithio yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Lleolir mwyngloddiau Cwm Daren a Thwll y Mwyn yn yr ardal hon hefyd. Er nad ydynt cyn hyned â Daren, buwyd yn eu gweithio o’r 17eg ganrif a dim ond yn y 1920au y daeth cynhyrchiant i ben yn yr ail (Bick 1988, 10-16). Sefydlwyd anheddiad bach Daren i wasanaethu’r mwyngloddiau plwm yn y 19eg ganrif.

Daren

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cwmpasu uchelfannau a llethrau dwy esgair gron: sef Daren a Banc Cwmerfyn. 342m yw’r man uchaf, ac mae’r llethrau yn y pen gorllewinol yn disgyn i tua 100m. Ceir brigiadau creigiog ar y copaon. Ar wahân i lethrau serth iawn, a orchuddir gan dir pori garw neu redyn, a rhai pantiau mawnaidd a brwynog, tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd. Ceir planhigfeydd o goedwigoedd a chlystyrau bach o goetir collddail ar lethrau serth iawn, ond fel arall tirwedd heb goed ydyw yn y bôn. Mae’r ardal wedi’i rhannu’n gyfres o gaeau mawr gan gloddiau o bridd a cherrig. Arferai fod gwrychoedd ar y cloddiau hyn, ond ac eithrio ar y lefelau isaf a gerllaw ffermydd mae’r gwrychoedd i gyd wedi diflannu, a lle y maent wedi goroesi maent wedi tyfu’n wyllt ac wedi’u hesgeuluso. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu’r ffiniau cadw stoc, ac mae’r ardal wedi’i rhannu’n gaeau mawr iawn. Yr olwg gyffredinol yw un o dirwedd agored o dir pori wedi’i wella.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd mynydd gwasgaredig. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol a defnyddiwyd llechi (llechi gogledd Cymru yn ôl pob tebyg) ar gyfer y toeau. Fel arfer mae’r waliau wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar dai ac maent yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae’r ffermdai/tai hþn y mae bron pob un ohonynt yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nifer o ffermdai newydd/wedi’u hailadeiladu wedi disodli adeiladau hþn. Fel arfer cyfyngir adeiladau allan ffermydd sydd wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach. Nid yw rhai ffermydd yn gweithio bellach ac ni ddefnyddir yr adeiladau allan neu maent wedi’u dymchwel. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Mae olion ffermydd neu fythynnod, yng nghanol caeau wedi’u rhannu gan waliau cerrig gwael eu cyflwr wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd. Lleolir grðp o dai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif ym Manc-y-Daren, sydd hefyd yn cynnwys teras byr, tai ar wahân, a nifer o anheddau anghyfannedd/adfeiliedig. Mae tystiolaeth o’r cyn-ddiwydiant cloddio metel yn elfen amlwg yn y dirwedd, ac mae tomenni, siafftiau, mwyngloddiau brig a nodweddion eraill yn dilyn yr wythïen o blwm o’i huchafbwynt yn y Daren.

Daren

Olion y diwydiant cloddio am fetel yw prif elfen y cofnod archeolegol. Mae’r lefelydd yn torri ar draws bryngaer Daren sy’n dyddio o’r Oes Haearn, sy’n elfen bwysig yn y dirwedd. Mae’n amlwg oherwydd ei lleoliad ar gopa esgair sy’n 290m o uchder. Mae tri maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu rhagor o ddyfnder amser i’r dirwedd. Mae enw lle yn nodi lleoliad posibl maen hir arall.

Mae hon yn dirwedd nodedig y ceir ardaloedd â nodweddion eithaf gwahanol ar bob tu iddi. I’r dwyrain ceir tir agored a choedwigoedd, tra ceir tir amgaeëdig mewn mannau eraill, sydd weithiau yn cynnwys lefelydd mwyngloddiau metel.

Daren

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221