![](../../shim.gif) |
![Cwmerfyn](webphotos/cwmerfyn.jpg)
CWMERFYN
CYFEIRNOD GRID: SN 692827
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 96.8
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Mae’n debyg bod
y patrwm o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu siâp
yn hen iawn. Wedi’i harosod ar y dirwedd amaethyddol hon mae tystiolaeth
o’r diwydiant cloddio metel. Mae Cwmerfyn yn hen fwynglawdd, ac
fe’i sefydlwyd ymhell cyn lefelydd mwyngloddiau Myddelton a Bushell
yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Bu’n segur o 1795 hyd 1810, ond
fe’i datblygwyd gryn dipyn yn y 1840au a’r 1850au gan Matthew
Francis. Caeodd o’r diwedd ym 1877 (Bick 1988, 6-8). Lleolir mwynglawdd
Bwlch neu Fwlch Cwmerfin o fewn yr ardal hon hefyd. Nid yw’r mwynglawdd
hwn mor hen â Chwmerfyn, ond cofnodir ei fod yn gweithio yn negawd
cyntaf y 18fed ganrif. Yn y 19eg ganrif bu Cwmni Unedig Bwlch yn ei weithio
gyda mwynglawdd Pwllrhenaid, ond roedd y cynhyrchiant yn siomedig a chaeodd
y mwynglawdd o’r diwedd ym 1884 (Bick 1983, 38-42). Datblygodd anheddiad
bach i wasanaethu’r mwyngloddiau, adeiladwyd bythynnod, ac adeiladwyd
dau gapel ym 1866 a 1868 (Percival 1988, 517). Ers i’r mwyngloddiau
gau mae nifer yr aneddiadau wedi gostwng yn araf.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal dirwedd gymhleth hon yn ymestyn dros lawr a llethrau
isaf dyffryn uchaf un o ragnentydd Nant Silo ar uchder o rhwng 200m a
300m. I’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain mae llethrau’r
dyffryn yn codi’n serth i dros 400m. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig,
olion diwydiannol, tai a chaeau bach, afreolaidd eu siâp ydyw. Cloddiau
ac arnynt wrychoedd ac ambell wal sych yw’r mathau mwyaf cyffredin
o ffiniau. Mae’r gwrychoedd wedi’u hesgeuluso ar dir uwch
ac fel arfer maent wedi tyfu’n wyllt, ac ni allant gadw stoc ar
lefelau is. Mae’r waliau sych mewn cyflwr gwael. Mae ffensys gwifrau
wedi’u hychwanegu at bob ffin. Tir pori wedi’i wella yw’r
tir amaeth ar y cyfan, er y ceir darnau brwynog o dir ar lawr y dyffryn,
a rhedyn a thir pori garw ar rai llethrau serth. Ceir clystyrau bach o
goetir collddail. Mae bythynnod a ffermydd anghyfannedd yn tystio i’r
gostyngiad yn y boblogaeth. Bu’r mwyngloddiau metel yn destun rhaglen
o welliannau amgylcheddol. Er gwaethaf hynny, olion diwydiannol yw elfen
amlycaf y dirwedd. Mae’r rhain yn cynnwys tomenni, siafftiau, mwyngloddiau
brig, tramffordd a gwahanol adeiladau adfeiliedig.
Mae’n debyg bod ffermdai’r ardal hon yn dyddio yn bennaf
o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, er bod elfennau rhai tai yn awgrymu
eu bod yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, neu o gyfnod cynharach.
Maent wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd fel arfer wedi’u rendro,
mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol
nodweddiadol, sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt
canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws
ac un uwch ei ben. Mae gan y mwyafrif nodweddion brodorol cryf megis bondo
isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach ac un simnai sy’n
fwy na’r llall. Mae un ffermdy wedi’i adeiladu o frics ac
mae’n debyg ei fod yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r
ffermdai a’r ffermydd yn fach ac fel arfer mae ganddynt resi bach
o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig sy’n dyddio o’r
19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol modern bach. Lleolir pedair rhes
fach o fythynnod/tai gweithwyr brodorol deulawr sydd wedi’u hadeiladu
o gerrig wedi’u rendro/paentio gerllaw lôn. Ceir ychydig o
dai gweithwyr eraill yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal a rhai
tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif, gan gynnwys dau dþ ynni
isel.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sy’n sefyll
ac olion y diwydiant cloddio metel a dim byd arall bron. Fodd bynnag,
mae cyfeiriad dogfennol at dwmpath clustog neu gwningar yn dyddio o’r
Cyfnod Canoloesol neu ddechrau’r Cyfnod Modern yn darparu rhywfaint
o ddyfnder amser i’r dirwedd.
Mae hon yn ardal nodedig iawn a chanddi ffiniau pendant. Ar bob ochr
mae’r tir yn codi’n serth at dir agored neu led-amgaeëdig,
neu at goedwigoedd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |