Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLWYN-CRYCHYDDOD

LLWYN-CRYCHYDDOD

CYFEIRNOD GRID: SN 668772
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 61.6

Cefndir Hanesyddol

Ymddengys i’r ardal fach hon, nad yw’n cynnwys unrhyw aneddiadau, gael ei thrawsnewid ar ddechrau’r 19eg ganrif, pan wnaed y map ystad ar raddfa fawr cyntaf (LlGC Cyf 45, 33), o fod yn ardal o ffridd agored i dirwedd o gaeau rheolaidd eu siâp o faint canolig. Dengys y map o’r ystad fod y tir yn nherfyn deheuol yr ardal hon wedi’i amgáu erbyn 1819, a bod y gweddill yn dir agored. Erbyn arolwg degwm y 1840au roedd yr ardal gyfan wedi’i rhannu’n gaeau. Nid yw’r ardal hon wedi newid fawr ddim ers hynny.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal fach sy’n cynnwys copa esgair gron a llethr dyffryn sy’n wynebu’r de yn amrywio o ran uchder o 150m i 240m. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Mae cloddiau yn rhannu’r ardal yn system gaeau o gaeau rheolaidd o faint canolig. Arferai fod gwrychoedd ar y cloddiau hyn, ond erbyn hyn mae’r gwrychoedd hyn naill wedi’u hesgeuluso neu nid ydynt yn bodoli mwyach. Rhennir y caeau bellach gan ffensys gwifren. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal, heb fawr ddim tir garw.

Nid oes i’r ardal ffiniau arbennig o bendant am fod unedau cyfagos i’r de ac i’r dwyrain yn edrych yn debyg, ond eu bod wedi datblygu mewn ffordd wahanol. I’r gogledd, mae coetir yn ffurfio ffin bendant i’r ardal hon.

MAP LLWYN-CRYCHYDDOD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221