Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

RHOS-Y-GELL

RHOS-Y-GELL

CYFEIRNOD GRID: SN 735757
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 221.6

Cefndir Hanesyddol

Yn hanesyddol, gorweddai o leiaf ran ddwyreiniol yr ardal hon, os nad yr ardal gyfan, o fewn maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Prynodd ystad Trawscoed faenorau Ystrad Fflur ym 1630. Trwy broses gyfnewid, daeth tiroedd y cyn-faenorau yn yr ardal hon yn rhan o ystad yr Hafod ar ddiwedd y 18fed ganrif. Sicrhaodd ansawdd gwael iawn y tir yn yr ardal hon iddo aros yn agored tan y cyfnod cymharol fodern. Dengys arolwg degwm 1847 (Llanfihangel-y-Creuddyn) fod yr ardal yn un gyfannedd a gynhwysai ddyrnaid o fythynnod a chaeau bach. Dengys map o ystad yr Hafod dyddiedig 1834 fythynnod ar hyd terfynau dwyreiniol yr ardal hon. Mae Morgan (1997, 213) yn nodi mai aneddiadau sgwatwyr oedd y bythynnod hyn ac nid oes unrhyw reswm dros amau hynny. Mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu ac i’r tir gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Adeiladwyd ysgoldy yma ym 1852 a chapel ym 1872.

RHOS-Y-GELL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Nodweddir y dyffryn llydan, agored hwn - bwlch gwynt rhwng dyffrynnoedd Afonydd Ystwyth a Rheidol sydd wedi torri’n ddwfn i mewn i’r graig - sy’n gorwedd rhwng 230m a 270m gan batrwm anheddu gwasgaredig a thir pori o ansawdd gwael. Mae’n ardal ar wahân i’r ardaloedd o dir pori wedi’i wella sydd o’i hamgylch, ac mae’n cynnwys system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp yn cynnwys tir pori garw, pantiau mawnaidd a thir brwynog ac ychydig o leiniau gwasgaredig o dir pori wedi’i wella. Erbyn hyn mae’r system gaeau yn mynd yn ddiangen; erbyn hyn mae bron pob un o’r hen ffiniau caeau a ffurfir gan gloddiau isel wedi’u hesgeuluso. Mae’r gwrychoedd yn tyfu’n wyllt ac yn segur. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn ffurfio’r prif ffiniau cadw stoc, sydd fel arfer yn dilyn ffiniau hanesyddol. Plannwyd coed ffawydd fel atalfeydd gwynt, a cheir planhigfeydd bach o goed coniffer.

Nodweddir y patrwm anheddu gan fythynnod, tyddynnod a ffermydd bach gwasgaredig - 100-200m oddi wrth ei gilydd. Carreg yw’r deunydd adeiladu traddodiadol. Mae’r carreg wedi’i gadael yn foel ar rai o’r ffermdai a rhai adeiladau allan fferm ac fel arfer maent wedi’i rendro â sment ar anheddau llai o faint. Llechi yw’r deunydd toi cyffredinol. Mae’r ffermdai yn fach ac yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef adeiladau deulawr, simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan y mwyafrif nodweddion Sioraidd cryf yn hytrach nag elfennau brodorol. Mae adeiladau allan y ffermydd hyn yn fach iawn ac maent yn aml ond yn cynnwys un rhes ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Mae adeiladau amaethyddol modern lle y maent i’w cael yn fach hefyd. Mae bythynnod niferus yr ardal hon yn draddodiadol yn adeiladau unllawr, unllawr a hanner neu deulawr bach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Estynnwyd a moderneiddiwyd llawer ohonynt, neu fe’u hailadeiladwyd yn ddiweddar. Mae nifer fawr o fythynnod a ffermydd anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bythynnod a thyddynnod anghyfannedd gan mwyaf, ond ceir mwynglawdd metel a melin hefyd, a darperir dyfnder amser i’r dirwedd gan grug crwn posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.


Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gorllewin ac i’r de ceir ardaloedd o ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tir pori wedi’i wella ac olion gweithgarwch cloddio am blwm. Ceir tir agored i’r dwyrain a Phontarfynach i’r gogledd-ddwyrain. Lleolir dyffryn serth, coediog Afon Rheidol i’r gogledd.

MAP RHOS-Y-GELL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221