Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Allt Goch

ALLT GOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 671813
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 54.2

Cefndir Hanesyddol

Er ei bod yn bosibl yn hanesyddol fod rhan o’r ardal hon wedi’i lleoli o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir, mae’n debyg bod y llethrau serth iawn lle y’i lleolir bob amser wedi rheoli’r defnydd a wneir ohoni fel coetir. Yn sicr ym 1791 mae’r ardal yn llawn coed, fel y dangosir ar y map cynharaf o’r ardal (LlGC Castell Powis 164). Mae’r darn o goetir ym 1791 yn debyg i’r un a welir heddiw. Dengys mapiau hanesyddol nad yw wedi newid ryw lawer yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, er bod y Comisiwn Coedwigaeth wedi ailblannu rhai clystyrau o goetir llydanddail â chonifferau. Mae tystiolaeth o weithgarwch cloddio am blwm i’w chael yn y coetir drwyddo draw, ond lleolir y prif lefelydd y tu allan i’r ardal hon i’r de. Mae’n amlwg bod gwaith rheoli gofalus gan ystad Castell Powys, ac yn fwy diweddar gan y Comisiwn Coedwigaeth, wedi diogelu’r coetir hwn rhag cael ei anrheithio gan y diwydiant cloddio plwm, ac wedi atal y coed rhag cael eu cymynu fesul tipyn gan ffermwyr-denantiaid ac unigolion eraill.

Allt Goch

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Llethr serth iawn, yn drwch o goed a leolir rhwng 60m a 220m. Mae’r coetir yn gymysgedd o goed caled a chonifferau. O fewn y coetir ceir tystiolaeth o domenni sbwriel, siafftiau a mynedfeydd y diwydiant cloddio plwm.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir tir amaeth amgaeëdig is i’r de a thir amaeth amgaeëdig uwch i’r gogledd.

Map ardal Allt Goch

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221