![Banc Trawsnant](webphotos/banctrawsnant.jpg)
BANC TRAWSNANT
CYFEIRNOD GRID: SN 710827
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 139.6
Cefndir Hanesyddol
Gorweddai’r ardal fach hon o ucheldir o fewn Gwestfa Cwm Rheidol
yng Nghwmwd Perfedd. Mae’n debyg iawn bod ei chymeriad agored yn
golygu yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Fe’i defnyddid fel ffridd
a thir pori tymhorol, swyddogaeth sydd wedi para i raddau helaeth hyd
heddiw. Bu dyddodion mwynau metel gerllaw ffin ddeheuol yr ardal yn cael
eu gweithio o’r 18fed ganrif. Tresmasodd lefelydd o fwynglawdd Pwllrhenaid
ar yr ardal hon o Gwmerfyn, tra roedd mwynglawdd Ceunant i gyd wedi’i
leoli y tu mewn iddi. Bu dyddiau gorau mwynglawdd Ceunant yn y 18fed ganrif,
ond parhaodd i weithio i mewn i’r 19eg ganrif (Bick 1983, 39-43).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Erbyn hyn mae planhigfa fawr o goed coniffer yn gwahanu’r llain
fach hon o ucheldir a lleiniau helaethach o dir. Mae’n cynnwys rhostir
tonnog, sydd weithiau yn greigiog, sy’n amrywio o ran uchder o 250m
ar y llethrau isaf i dros 400m ar y copaon. Tirwedd o dir pori garw a
phantiau mawnaidd heb unrhyw goed ydyw. Mae ffensys gwifrau yn ei rhannu’n
gaeau mawr, ond nid yw’r rhain yn amharu ar ei chymeriad sydd yn
y bôn yn un agored. Nid oes unrhyw aneddiadau. Mae olion mwynglawdd
metel Ceunant, a’r ffrydiau sy’n rhedeg o’r cronfeydd
dðr i’r gogledd, ar draws tir uchel, a wasanaethai fwyngloddiau
wedi’u lleoli i’r gorllewin yn haeddu sylw yn y dirwedd hon
sydd fel arall yn eithaf diflas.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion yn gysylltiedig â’r
diwydiant cloddio metel neu weithgarwch chwarelu, anheddiad anghyfannedd
a adeiladwyd cyn y 19eg ganrif a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae coedwigoedd ucheldirol yn diffinio’r ardal hon i’r gogledd,
i’r dwyrain ac i’r de. I’r gorllewin ceir cymuned fwyngloddio
Cwmerfyn ac esgair amgaeëdig is.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |