|
RHAN ISAF CWM RHEIDOL
CYFEIRNOD GRID: SN 672788
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 268.1
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon.
Erbyn y 18fed ganrif gorweddai o leiaf ran o’r ardal o fewn ystad
Nanteos. Dengys mapiau o’r ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 16,
17, 18) fod patrwm anheddu gwasgaredig a system o gaeau bach afreolaidd
eu siâp wedi’u sefydlu. Mae’n debyg bod y patrwm anheddu
yn eithaf hen, a’i fod yn dyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol o
leiaf. Nid yw’n hysbys sut y datblygodd y system gaeau. Mae’n
debyg mai’r diwydiant cloddio metel a arweiniodd at sefydlu anheddiad
cnewyllol llac bach Aberffrwd. Adeiladwyd capel yma ym 1756, ac ystafell
ysgol yn fuan ar ôl hynny (Percival 1998, 518). Lleolir dwy felin
ôl-Ganoloesol o fewn yr ardal hon. Buwyd yn cloddio ar yr wyneb
am ro yn yr 20fed ganrif, ac erbyn hyn adferwyd y pyllau a’u troi’n
llynnoedd pysgota.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr dyffryn Afon
Rheidol ar uchder o ryw 50m a llethrau is di-goed y dyffryn i fyny at
100m. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach afreolaidd eu siâp
a rennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd at ei
gilydd mewn cyflwr da, er bod tua 20% wedi tyfu’n wyllt neu maent
wedi’u hesgeuluso mewn ffordd arall, ac mae gwifrau wedi’u
hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. Mae’r tir i gyd wedi’i
amgáu. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ac ychydig
iawn o dir pori garw sydd. Mae olion mwyngloddiau metel i’w gweld
ger Aberffrwd. Adferwyd cyn-lefelydd gro ym mhen gorllewinol yr ardal
ac erbyn hyn fe’u defnyddir at ddibenion adloniadol.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig,
a lleolir y mwyafrif o’r anheddau tua gwaelod llethrau’r dyffryn.
Mae anheddiad cnewyllol llac, bach yn Aberffrwd yn cynnwys capel, ysgol
ac anheddau yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf. Cerrig lleol yw’r
deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u
defnyddio ar gyfer y toeau, er bod rhai tai o ddiwedd y 19eg ganrif wedi’u
hadeiladu o frics. Mae’r waliau naill ai wedi’u rendro â
sment, wedi’u paentio neu wedi’u gadael yn foel ar dai, ac
maent bob amser yn gerrig moel ar adeiladau fferm traddodiadol. Fodd bynnag,
mae olion gwyngalch i’w gweld ar rai adeiladau fferm, ac o edrych
yn fanwl arnynt gwelir bod rhai wedi’u hadeiladu o gobls afon yn
hytrach na’r cerrig mwy cyffredin a gloddiwyd. Mae bron pob un o’r
ffermdai/tai hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg
ganrif, maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr
arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, a chanddynt simneiau yn nhalcennau’r
ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall
i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir un ty sylweddol yn dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif sydd wedi’i adeiladu o gerrig yn yr arddull gothig
â manylion brics. Mae ychydig o dai modern, yn arbennig gerllaw’r
hen byllau gro. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig fel
arfer wedi’u cyfyngu i un neu ddwy res fach. Nid yw nifer o ffermydd
yn gweithio bellach ac nis defnyddir eu hadeiladau allan. Fel arfer mae
gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid
modern, er y ceir cwpl o ffermydd ag adeiladau amaethyddol modern mawr
iawn. Mae nifer o adeiladau amaethyddol modern ar wahân wedi’u
cofnodi.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys olion
diwydiannol ôl-Ganoloesol yn bennaf, gan gynnwys y mwynglawdd metel
y cyfeiriwyd ato uchod, a dwy felin. Mae darganfyddiadau cynhanes yn darparu
rhywfaint o ddyfnder amser i’r dirwedd.
I’r gogledd ac i’r de mae coedwigoedd o goed
collddail a choed coniffer yn darparu ffiniau pendant iawn ar gyfer yr
ardal hon. I’r dwyrain nodweddir Cwm Rheidol gan ddiwydiant, y gorffennol
a’r presennol, yn hytrach nag amaethyddiaeth yr ardal hon, dim ond
i’r gorllewin y mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’r un
sy’n cyffinio â hi yn aneglur.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |