![](../../shim.gif) |
![YSTUMTUEN](webphotos/ystumtuen.jpg)
YSTUMTUEN
CYFEIRNOD GRID: SN 736788
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 241.2
Cefndir Hanesyddol
Nid yw hanes cynnar yr ardal hon yn glir. Yn y Cyfnod
Canoloesol gorweddai rhwng maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad
Fflur a maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Mewn cyfnodau
mwy diweddar daeth i feddiant ystad Nanteos. Ym 1690 mae dogfen yn cofnodi
bod y ffermydd Pantgwyn Isaf, Pantgwyn Uchaf, Penygarreg, Plwcca Bydr,
Penrhiwgam, Tir y Castell a Nantgoredyn i gyd yn eiddo i Nanteos yn Ystumtuen
(Griffiths 1988, 5). Dengys map Lewis Morris o’r ardal ddyddiedig
1744 tua dwsin o ffermydd bach. Mae’n ddiddorol nodi ei fod yn dangos
‘Mountain Hedge’ rhwng y tir amgaeëdig a thir agored.
Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r
19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 21-23 a 35; Cyf 37, 37, 62) yr ardal yn fanylach
na map Lewis Morris. Mae’r ffermydd yn fach ac yn cynnwys un neu
ddau badog neu gae bach o amgylch fferm, wedi’u gosod mewn cae mawr
neu dir agored - nid yw’n glir pa un o’r mapiau - ar gyrion
ffridd. Nid oes gan rai ffermydd megis Lluestwen unrhyw dir amgaeëdig
ac fe’u lleolir o fewn rhostir. Nododd Lewis Morris fwyngloddiau
plwm hefyd yn yr ardal hon; dangosir rhai o’r mwyngloddiau hyn ar
y mapiau o’r ystad. Roedd yr ardal hon yn ardal fwyngloddio bwysig,
a fu’n weithredol o ddechrau’r 18fed ganrif o leiaf, a chynhwysai
fwyngloddiau Ystumtuen, Tynyfron, Penrhiw, Bwlch-gwyn a Llwynteifi (Bick
1983, 21-26). Erbyn yr arolwg degwm roedd aneddiadau eraill wedi datblygu;
roedd rhai o’r aneddiadau hyn ar gyrion tir ymylol ac yn ddiau aneddiadau
sgwatwyr oeddynt. Drwy gydol hanner cyntaf y 19eg ganrif parhaodd y boblogaeth
i dyfu wrth i’r gweithgarwch cloddio am blwm gynyddu. Datblygodd
pentrefan cnewyllol llac - sef Ystumtuen - yn cynnwys capel, ysgol a nifer
o fythynnod gwasgaredig. Er i’r boblogaeth ostwng tua diwedd y 19eg
ganrif, roedd 60 o dai cyfannedd ym 1907. Cyflymodd tranc y diwydiant
cloddio plwm yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif y mudo o Ystumtuen.
Erbyn 1988 roedd 36 o dai cyfannedd, gyda 12 ohonynt yn gartrefi gwyliau
(Griffiths 1988, 79).
![YSTUMTUEN](webphotos/ystumtuen2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llain donnog a chreigiog
o dir a leolir rhwng dyffryn serth Afon Rheidol i’r de ac i’r
dwyrain, a rhostir agored, uchel i’r gogledd. O ran uchder mae’n
amrywio o 270m yn nherfynau deheuol yr ardal i bron 400m yn y gogledd.
Dim ond ar hyd ffyrdd cul dros y rhostir uchel i’r gogledd y gellir
cyrraedd yr ardal. Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd,
tai a bythynnod gwasgaredig a chlwstwr llac o adeiladau ym mhentrefan
Ystumtuen, wedi’u gosod o fewn clytwaith o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp (y mae rhai ohonynt yn dir pori wedi’i wella), llethrau
a chopaon creigiog agored, pantiau mawnaidd, tomenni ysbwriel a hen adeiladau’r
diwydiant cloddio plwm, a chronfeydd dðr bach a adeiladwyd i wasanaethu’r
mwyngloddiau. Rhennir y caeau gan gloddiau pridd a cherrig. Erbyn hyn
mae gwrychoedd yn brin ar wahân i’r rhai ar y llethrau isaf
i’r de ac i’r dwyrain, ond hyd yn oed yma maent yn dechrau
tyfu’n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso ac mae gwifrau wedi’u
hychwanegu atynt. Mewn mannau eraill ffensys gwifrau yw’r prif atalfeydd
cadw stoc.
Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol
a defnyddir llechi (llechi gogledd Cymru) ar gyfer y toeau. Mae’r
waliau naill ai wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael
yn foel ar dai, ac maent bob amser yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol.
Ceir cymysgedd o ddaliadau amaethyddol a thai diwydiannol. Mae’r
ffermdai/tai hþn i gyd bron yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd
ei diwedd. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn
yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol. Yn achos ffermydd mae hyn yn
cynnwys simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog,
a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch
ei ben. Mae’r tai diwydiannol yn llai o faint. Mae nodweddion brodorol
megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy na’r
llall i’w cael ar y mwyafrif o’r tai. Fel arfer cyfyngir adeiladau
allan wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach o adeiladau
amaethyddol dur a choncrid modern. Ceir nifer o dai/byngalos modern yn
yr ardal, ac mae rhai o’r tai hþn wedi’u moderneiddio
ac wedi’u hymestyn ar raddfa fawr.
Mae olion y diwydiant cloddio plwm i’w gweld ym
mhobman. Tomenni ysbwriel yw gwaddol amlycaf y diwydiant, ond mae hen
adeiladau cerrig yn elfen amlwg a phwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae
adeiladau’r mwyngloddiau yn dechrau dirywio; cloddiwyd rhai tomenni
ysbwriel i ddarparu seiliau caled.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
cynnwys olion y diwydiant cloddio metel neu olion aneddiadau anghyfannedd
ôl-Ganoloesol a dim byd arall bron.
Mae hon yn ardal dirwedd ar wahân a cheir ffin
bendant rhyngddi a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. I’r
de ac i’r dwyrain mae dyffryn coediog iawn Afon Rheidol. Ceir rhostir
agored i’r gogledd, a thir mwy ffrwythlon, llai tonnog a llai creigiog
i’r gorllewin.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |