Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwmsymlog

CWMSYMLOG

CYFERINOD GRID: SN 697838
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.6

Cefndir Hanesyddol

Y diwydiant cloddio metel sydd fwyaf blaenllaw yn hanes y dyffryn cul a dwfn hwn. Mae Cwmsymlog yn fwynglawdd hen iawn. Yn ddiau cafodd ei weithio yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, ac yng nghanol y 18fed ganrif fe’i disgrifiwyd gan Lewis Morris fel ‘y rhai cyfoethocaf mewn Plwm ac Arian mewn unrhyw un o Diriogaethau Ei Fawrhydi’ (Bick 1988, 19). O’r 1620au, o dan Syr Hugh Myddelton, datblygodd y mwynglawdd a’r gymuned, ac adeiladwyd capel i wasanaethu’r mwyngloddwyr. Gosodwyd injan o Gernyw yn 1840, ond erbyn hynny roedd y metel wrth gefn bron wedi’i ddisbyddu, a chaeodd y mwynglawdd yn fuan ar ôl hynny. Fodd bynnag, fe’i hail-agorwyd ym 1850 fel Mwynglawdd East Darren ac fe’i gweithiwyd yn llwyddiannus tan 1882. Ar ôl hynny gwnaed sawl ymdrech i ailagor lefelydd, ond daeth y gweithgarwch cloddio i ben ym 1901. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gogerddan 68; LlGC Cyf 37, 64) lefeydd y mwynglawdd yng Nghwmsymlog a nifer fach o fythynnod, pob un â chae neu ardd fach amgaeëdig. Dangosir llethrau’r dyffryn fel rhostir agored. Dirywiodd yr anheddiad yn yr 20fed ganrif, a gadawyd bythynnod a thai. Dechreuodd ffynnu o’r newydd yn ddiweddar, ac adnewyddwyd tai ac adeiladwyd rhai newydd.

Cwmsymlog

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys pen dwyreiniol dyffryn cul, serth iawn. O lawr y dyffryn sy’n 190m o uchder, mae llethrau yn codi yn serth i’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain i dros 300m. Eir i mewn i’r dyffryn trwy fwlch cul i’r gorllewin. Dim ond llawr y dyffryn a’r llethrau isaf, sy’n cynnwys olion y diwydiant cloddio metel ac anheddiad Cwmsymlog, a gynhwysir yn yr ardal hon. Olion y diwydiant cloddio metel yw elfen amlycaf y dirwedd hanesyddol. Simnai a fu o bosibl yn rhan o system pðer ager y gwaith, neu’n rhan o’r system awyru yw’r elfen amlycaf mewn golygfa o domenni, siafftiau, mwyngloddiau brig, cloddiadau, pyllau olwynion a hen adeiladau’r mwynglawdd. Tybir mai chwarel gerllaw yw ffynhonnell y cerrig ar gyfer adeiladau’r mwynglawdd a’r bythynnod. Mae llawer o adeiladau domestig/anniwydiannol yr anheddiad sy’n gysylltiedig â’r mwynglawdd wedi goroesi. Fe’u lleolir mewn clwstwr llac ar ochr ogleddol llawr y dyffryn ac maent yn cynnwys capel bach rhestredig sydd mewn cyflwr da, tþ deulawr ar wahân yn y traddodiad Sioraidd bonheddig (y cymerir yn ganiataol mai tþ rheolwr y mwynglawdd ydoedd), teras byr o dai gweithwyr yn yr arddull frodorol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a rhai tai modern. Mae maint tai’r gweithwyr yn awgrymu eu bod ar gyfer goruchwylwyr/gweinyddwyr yn hytrach na gweithwyr cyffredin. Mae’r adeiladau hþn wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd wedi’u rendro â sment gan amlaf, ac mae ganddynt doeau llechi. Mae gan rai ddrychiadau â llechi drostynt. Lleolir ffermdy deulawr yn y traddodiad Sioraidd bonheddig yn perthyn i’r cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd a adeiladwyd o gerrig o ansawdd da i’r gorllewin o’r anheddiad diwydiannol, a cheir rhes sylweddol o adeiladau allan o gerrig wedi’u gosod o amgylch iard ar yr ochr arall i’r ffordd. Mae safleoedd tai a bythynnod anghyfannedd, wedi’u hamgylchynu yn aml gan waliau sych, yn tystio i ddiboblogi yn yr 20fed ganrif. Prin iawn yw’r tir amaethyddol o ansawdd da - mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir pori agored neu led-agored.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i adeiladau sy’n sefyll neu olion y diwydiant cloddio metel.

Mae hon yn ardal nodedig iawn a chanddi ffiniau pendant. I’r gogledd ar dir uchel ceir planhigfa o goedwigoedd, ac ar bob ochr arall ceir tir pori garw agored neu led-agored a thir pori wedi’i wella uchel.

Map ardal Cwmsymlog

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221