![WENALLT](webphotos/wenallt.jpg)
WENALLT
CYFEIRNOD GRID: SN 683721
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 204.6
Cefndir Hanesyddol
Nid yw hanes yr ardal hon yn gwbl glir. Mae’n
debyg bod y patrwm anheddu yn eithaf hen a’i fod yn bodoli yn yr
16eg ganrif, pan oedd Morris ap Richard yn brysur yn prynu ffermydd a
thir i ychwanegu at ystad gychwynnol Trawscoed. Yn ddiau erbyn 1756 roedd
rhan o’r ardal hon o dan reolaeth gadarn Trawscoed am ei bod yn
rhan o’i thiroedd demên (LlGC Map 7188). Mae daliadau eraill
wedi’u cofnodi fel rhan o’r ystad erbyn diwedd y 18fed ganrif,
ond mae’n debyg iddynt gael eu prynu yn llawer cynharach. Dengys
mapiau ystad dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 42, 43, 53, 55; LlGC
Gogerddan 54, 55) dirwedd y mae’n hawdd ei hadnabod heddiw, yn cynnwys
ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp, er bod rhai mân newidiadau wedi bod. Er enghraifft,
ym 1781, roedd y tir i’r dwyrain o Blas y Wenallt yn agored ac yn
dwyn yr enw ‘Bank’. Roedd wedi’i rannu’n gaeau
rheolaidd o faint canolig erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Llanafan
1845). Nid yw’n glir p’un a ddatblygodd y system o gaeau amgaeëdig
o system isranedig neu a yw’n cynrychioli patrwm amgáu hynafol.
Yn 1760au caeoedd ystad Trawscoed ei melinau llai o faint
a chanolbwyntio cynhyrchiant mewn melin newydd yn Wenallt (Macve 1998,
62). Adeiladwyd capel ym 1787, ac ysgol yn ystod blynyddoedd cyntaf yr
20fed ganrif (Percival 1998, 514).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys cerlan ar lan ogleddol
Afon Ystwyth rhwng 70m a 120m, a thir sy’n codi yn ei phen dwyreiniol
i 200m. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau o faint bach i ganolig. Nid
oes unrhyw dir agored, a thir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth
i gyd bron. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae gan
wrychoedd ambell goeden nodedig. Mae’r mwyafrif o’r gwrychoedd
mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda, er bod
rhai yn dechrau cael eu hesgeuluso. Mae gwifrau wedi’u hychwanegu
at bob un. Mae ambell goeden a llwyn a blannwyd yn rhoi naws parcdir i
rannau o’r dirwedd hon.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a thai gwasgaredig,
a datblygiadau llinellol, gwasgaredig ar hyd y briffordd trwy’r
ardal hon. Mae’n debyg i’r math olaf hwn o anheddiad gael
ei greu gan yr ystad. Yn wir, mae’n debyg i’r mwyafrif o’r
adeiladau gael eu hadeiladu gan yr ystad neu fod yr ystad wedi dylanwadu
arnynt. Carreg yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol –
naill ai wedi’i gadael yn foel neu wedi’i rendro â sment
– a cheir llechi ar y toeau. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau
yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Fodd bynnag, un eithriad
yw Plas y Wenallt, sef tþ bonedd rhestredig yn yr arddull Sioraidd,
a adeiladwyd ar gyfer ystad Trawscoed ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond a
all fod yn hþn na hynny. Mae porthordy a bwthyn yn ddiweddarach,
ond mae’n amlwg iddynt gael eu hadeiladu gan yr ystad. Mae dylanwad
yr ystad ar ffermdai a thai eraill yn llai amlwg ac at ei gilydd maent
yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent yn y traddodiad
brodorol Sioraidd rhanbarthol. Mae adeiladau fferm traddodiadol yn gymharol
fawr, a cheir enghreifftiau o nifer o resi wedi’u gosod yn ffurfiol
o amgylch iard mewn cynllun ystad nodweddiadol. Mae’r adeiladau
amaethyddol modern ar ffermydd gweithredol yn fawr hefyd. Mae grðp
bach o dai ystad yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif ac ychydig o dai a
byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae adeiladau eraill yn
cynnwys bwa sengl rhestredig Pont Llanafan a chapel yn dyddio o’r
19eg ganrif.
Nid yw archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn amrywiol,
ac mae’n cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol: capel, pontydd a
melinau.
I’r dwyrain, mae coedwigoedd yn darparu ffin bendant
ar gyfer yr ardal hon. Mewn mannau eraill ni fu’n bosibl pennu ffiniau
pendant rhwng yr ardal hon a phentref Llanafan i’r gogledd, a rhwng
tirwedd parcdir newidiedig Trawscoed i’r gogledd-ddwyrain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |