![](../../shim.gif) |
![Cwmnewidion](webphotos/cwmnewidion.jpg)
CWMNEWIDION
CYFEIRNOD GRID: SN 710745
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 128.0
Cefndir Hanesyddol
Erbyn dechrau’r 17eg ganrif roedd Cwmnewidion
yn ystad annibynnol fach a oedd yn eiddo i Hugh Vaughan (nad oedd yn perthyn
i’r teulu Vaughan o Drawscoed gerllaw), a chynhwysai o fewn yr ardal
gymeriad tirwedd hon fferm a melin Cwmnewidion Isaf, Gilwern, a dwy fferm
yn Rhos-rhudd (Morgan 1997). Fel y noda Morgan (tud23), nid yw’n
hysbys o ble y deilliodd cyfoeth a statws teuluoedd yr ystadau bach hyn.
Fodd bynnag, roedd y teulu Vaughan yng Nghwmnewidion yn ddigon cyfoethog
i brynu tiroedd yng Nghwmystwyth a arferai berthyn i faenorau Ystrad Fflur.
Yn y 1780au prynodd ystad Trawscoed ystad Cwmnewidion (Moran 1997, 196).
Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif batrwm
caeau sy’n debyg i’r un a welir (LlGC Gweithredoedd Trawscoed
5, Cyf IV, Cyf 1; 18 a 42). Dengys y map o Gwmnewidion dir amgaeëdig
ar lawr y dyffryn, a llethrau coediog iawn a thir agored uwchlaw. Dangosir
patrwm tebyg ar y map o Lanerchpentir. O ganol y 19eg ganrif daeth cloddio
am blwm yn elfen bwysig yn economi’r ardal. Bu nifer o fwyngloddiau,
sef Red Rock, West Frongoch, Wemyss a Graiggoch yn gweithio terfynau gorllewinol
gwythïen Frongoch (Bick 1974, 16-17). Buwyd yn gweithio Wemyss ym
mhen dwyreiniol Cwmnewidion o 1861 hyd 1899, a Chraiggoch o 1841 hyd 1889,
er i dystiolaeth o lefelydd cynharach gael ei nodi yma ym 1840. Adeiladwyd
capel yma yn y 19eg ganrif.
![Cwmnewidion](webphotos/cwmnewidion2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Cwmnewidion yn ddyffryn cul â llethrau serth.
Mae llawr y dyffryn yn codi o 100m yn y pen gorllewinol i dros 200m yn
y dwyrain. Mae llethrau’r dyffryn yn codi i dros 300m. Mae’r
ardal dirwedd yn cynnwys llawr y dyffryn a llethrau isaf y dyffryn, ond
nid y llethrau uchaf. Mae isffordd, sy’n llwybr lleol pwysig serch
hynny, yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol llawr y dyffryn gan gysylltu tiroedd
ffrwythlon rhan isaf dyffryn Afon Ystwyth â Phontrhydygroes a Chwmystwyth.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli
wrth waelod llethrau serth a thir amgaeëdig yn ymestyn ar draws llawr
y dyffryn. Mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp ac
fe’u rhennir gan gloddiau isel. Arferai fod gwrychoedd ar y cloddiau,
ond ar wahân i ran orllewinol bellaf yr ardal mae’r gwrychoedd
hyn wedi diflannu ac erbyn hyn mae gwifrau wedi’u rhoi yn eu lle.
Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf ar lawr y dyffryn, sy’n
cael ei ddisodli gan dir o ansawdd gwaeth ar y llethrau isaf. Mae’r
tir yma wedi’i amgáu yn rhaniadau mwy o faint, ond mae’r
cloddiau ffin yn ddiangen a rhoddwyd gwifrau yn eu lle. Ceir clystyrau
o goetir collddail a choedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif ym
mhen gorllewinol yr ardal.
O fewn yr ardal hon mae ffermdy Sioraidd deulawr cerrig
Cwmnewidion Isaf, a adeiladwyd gan Ystad Trawscoed, a’i res o adeiladau
allan o gerrig sydd wedi’u trefnu’n ffurfiol o amgylch iard
heb fod ymhell o’r tþ, fel sy’n arferol yn achos preswylfa
“bonheddwr”. Mae’r ffermydd eraill yn symlach, a cheir
tai deulawr o gerrig wedi’u rendro yn dyddio o ganol y 19eg ganrif
hyd ei diwedd. Mae’r ffermdai yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol
– sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog,
a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch
ei ben. Mae gan un tþ o leiaf nodweddion brodorol cryf. Mae rhai
ffermdai wedi’u disodli gan anheddau modern a cheir nifer o anheddau
modern eraill a/neu dai hþn sydd wedi’u moderneiddio gryn
dipyn yn yr ardal hon. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau fferm
hþn yn gymharol fach, maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac yn
dyddio o’r 19eg ganrif, er y ceir strwythurau brics hefyd. Ar wahân
i un fferm, nid yw’r adeiladau amaethyddol modern yn fawr, ac yn
wir, nid yw nifer o’r ffermydd yn gweithio bellach, nid oes ganddynt
unrhyw adeiladau modern, ac ni ddefnyddir eu hen adeiladau allan.
Mae olion y diwydiant cloddio metel yn elfen bwysig a
nodedig yn y dirwedd hon. Mae’r olion hyn wedi’u crynhoi tua
phen dwyreiniol y dyffryn ac maent yn cynnwys tomenni ysbwriel ac adeiladau
mwyngloddiau tra amlwg. Mae adeiladau’r mwyngloddiau sydd wedi’u
hadeiladu o gerrig lleol yn ddi-do, ond maent yn sefyll mewn rhai achosion
i’w huchder gwreiddiol. Mae’r adeiladau yn cynnwys gorsaf
gynhyrchu ym mwynglawdd Frongoch a gyflenwid gan biblinell o gronfa ddðr
i’r gogledd.
Ar wahân i olion mwyngloddiau metel; mae’r
archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safle melin a chapel.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir llethrau
serth i’r gogledd, i’r gorllewin ac i’r dwyrain. Fodd
bynnag, ym mhen gorllewinol agored y dyffryn nid yw’r ardal dirwedd
hon yn ffurfio unrhyw ffin bendant â thir amgaeëdig ardaloedd
cyfagos.
![Map o ardal Cwmnewidion](webphotos/cwmnewidionmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |