![LLAWR-Y-CWM-BACH](webphotos/llawrycwmbach.jpg)
LLAWR-Y-CWM-BACH
CYFEIRNOD GRID: SN 702856
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 43.6
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Hyd at
ddwy ganrif yn ôl roedd llawer o’r tir yn agored ac felly
mae’n debyg ei fod yn cael ei hawlio gan y Goron. Erbyn o leiaf
ddiwedd y 18fed ganrif gorweddai rhan o’r ardal o fewn ystad Court
Grange, am fod map o’r ystad (LlGC Cyf 38, 16) yn dangos fferm Llawr-y-cwm
ar ochr ddeheuol y dyffryn fel daliad anghysbell o bedwar cae mewn môr
o dir agored neu ffridd. Dengys y map degwm (Llanbadarnfawr 1845) ffermydd
Llawr-y-cwm, Llawr-y-cwm-bach a Thy-hen â chaeau bach ar hyd llawr
y dyffryn, a chaeau mawr iawn ar lethrau’r dyffryn. Gadawyd aneddiadau
ers hynny, a dim ond Llawr-y-cwm-bach sydd wedi goroesi. Nid ymddengys
fod mwynglawdd metel Llawr-y-cwm-bach o bwys mawr tan 1845 (Bick 1988,
32), er yr ymddengys iddo gael ei weithio ar raddfa fawr iawn trwy ail
hanner y 19eg ganrif.
![LLAWR-Y-CWM-BACH](webphotos/llawrycwmbach2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau isaf
rhan uchaf dyffryn Afon Leri, a leolir rhwng 240m a 300m o uchder. I’r
gogledd, i’r de ac i’r dwyrain mae llethrau’r dyffryn
yn codi’n serth i dros 400m. Dim ond un fferm sy’n dal i fodoli
erbyn hyn; strwythur carreg gydag adeiladau allan o garreg. Mae olion
anghyfannedd fferm arall a bythynnod a adawyd amser maith yn ôl
yn tystio i’r ffaith bod yr ardal yn fwy poblog gynt, ac maent yn
elfennau amlwg yn y dirwedd hanesyddol. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau
afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig ar lawr y dyffryn a’r
llethrau isaf, a chaeau mawr uwchlaw. Rhennir y caeau gan gloddiau neu
gloddiau o bridd a cherrig – nid oes unrhyw wrychoedd. Fodd bynnag,
erbyn hyn mae’r patrwm caeau hwn i raddau helaeth yn ddiangen ac
mae ffensys gwifren yn darparu’r ychydig ffiniau ar draws tirwedd
o dir pori wedi’i wella. Er mai tir pori wedi’i wella a geir
yn bennaf, ceir pantiau brwynog a mawnaidd ar lawr y dyffryn a thir pori
mwy garw ar rai o’r llethrau mwy serth. Tua blaen y dyffryn mae
tomenni ysbwriel yn tystio i’r diwydiant cloddio metel a fu’n
weithredol ar un adeg. Mae olion eraill yn cynnwys ty injan, llithryn
mwyn, cylch bwdlo a ffrwd. Ar wahân i goed gerllaw’r fferm
a’r mwynglawdd, tirwedd ddi-goed ydyw yn ei hanfod.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yr aneddiadau
anghyfannedd y cyfeiriwyd atynt uchod ac olion y diwydiant cloddio metel.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gogledd,
i’r de ac i’r dwyrain lle y mae tir agored a lled-amgaeëdig
yn codi yn serth o lawr y dyffryn. I’r gorllewin mae’r ffin
rhwng yr ardal hon a’r ardal sy’n cyffinio â hi yn llai
pendant.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |