![RHYDPERERINION](webphotos/rhydpererinion.jpg)
RHYDPERERINION
CYFEIRNOD GRID: SN 719761
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 252.6
Cefndir Hanesyddol
Yn debyg i ardaloedd cyfagos ni wnaed unrhyw ymchwil
i hanes cynnar yr ardal hon, ac ychydig a wyddom amdani. Fodd bynnag,
yn wahanol i’r ardaloedd sy’n ffinio â hi, nid oedd
yn rhan o un o faenorau Abaty Ystrad Fflur. Erbyn y 18fed ganrif roedd
wedi’i rhannu rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos. Dengys mapiau ystâd
yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45; 30, 31) dirwedd
o ffermydd gwasgaredig, pob un â chaeau bach o bob tu iddi, a chaeau
mwy o faint a ffridd agored ymhellach allan. Ar wahân i rywfaint
o waith a wnaed i isrannu’r caeau mwy o faint ac amgáu rhannau
o’r ffridd, nid oedd y patrwm hwn wedi newid fawr ddim erbyn arolwg
degwm 1847. Yn raddol yn ystod gweddill y 19eg ganrif trowyd y tir agored
yn gaeau.
![RHYDPERERINION](webphotos/rhydpererinion2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llwyfandir tonnog sy’n
amrywio o ran uchder o 270m i 290m. Mae’r mwyafrif o’r tir
yn cynnwys tir pori wedi’i wella bellach, ond ceir pantiau mawnaidd
a thir pori mwy garw ar lethrau serth. Mae’r holl dir yn amgaeedig
neu mae wedi’i amgáu, ond erbyn hyn mae’r caeau ar
y llethrau uwch a’r copaon yn tueddu i gael eu ffermio fel unedau
mawr wedi’u hisrannu gan ffensys gwifren. Mae rhai o’r ffensys
hyn yn dilyn cwrs hen gloddiau isel. Ar dir is ceir caeau bach, afreolaidd
eu siâp wedi’u rhannu gan gloddiau. At ei gilydd mae’r
gwrychoedd a geir ar y cloddiau mewn cyflwr gwael, maent wedi tyfu’n
wyllt, anaml y maent yn cadw stoc ac mae gwifren wedi’i hychwanegu
atynt. Fel rheol, mae cyflwr y gwrychoedd hyn yn gwella wrth nesáu
at y ffermdai.
Mae anheddau gwasgaredig, ond sydd wedi’u grwpio’n
agosach na’r anheddau yn yr ardal i’r de, yn nodweddu patrwm
anheddu’r ardal hon. Ceir clystyrau llac, bach o aneddiadau ym Mynydd
Bach a Chapel Trisant. Mae adeiladau traddodiadol wedi’u hadeiladu
o garreg a chanddynt doeau llechi. Mae’r waliau ar dai naill ai
wedi’u rendro â sment, mae’r garreg wedi’i gadael
yn foel neu mae wedi’i phaentio, ac mae’r garreg wedi’i
gadael yn foel ar adeiladau allan ffermydd. Mae’r tai, gan gynnwys
y ffermdai, yn fach ac mae bron pob un ohonynt yn dyddio o’r cyfnod
rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae ganddynt ddau lawr ac maent yn
yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r
tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r
llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis
bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r
llall yn fwy cyffredin nag elfennau Sioraidd mwy ffurfiol. Mae gan ddau
neu dri thþ nodweddion brodorol cryf. Mae adeiladau allan wedi’u
hadeiladu o garreg wedi’u cyfyngu fel arfer i un neu ddwy res fach,
ac mae rhai rhesi ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Mae
sawl fferm yn segur bellach. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o
adeiladau amaethyddol modern. Ceir capel rhestredig bach yn Nhrisant.
Mae ychydig o dai a byngalos modern i’w gweld.
Buwyd yn cloddio am gerrig yn yr ardal hon, ac ar hyd
y ffin ddeheuol ceir olion gweithgareddau cloddio am blwm sy’n gysylltiedig
â mwynglawdd Frongoch.
Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon
yn amrywiol, ac mae’n cynnwys safleoedd, tai a bythynnod ôl-Ganoloesol
a mân olion diwydiannol.
Nid oes i’r ardal dirwedd hanesyddol hon ffiniau
arbennig o bendant. Nodweddir ardaloedd i’r de ac i’r gogledd
gan batrwm anheddu mwy gwasgaredig a phatrymau o gaeau mwy o faint. Mae
Frongoch hefyd yn cynnwys olion cloddio nodedig. I’r dwyrain, mae
tir is o ansawdd gwaeth yn cynnwys anheddiad sgwatwyr.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |