![](../../shim.gif) |
![Bwlchcrwys](webphotos/bwlchycrwys.jpg)
BWLCHCRWYS
CYFEIRNOD GRID: SN 701771
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 834.0
Cefndir Hanesyddol
Yn debyg i ardaloedd cyfagos, ni wnaed unrhyw ymchwil
i hanes cynnar yr ardal hon. Erbyn y 18fed ganrif roedd wedi’i rhannu
rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd
y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed
Rhif 5 Cyf IV, Cyf 1, 16; LlGC Cyf 45, 31, 32, 39, 41; LlGC Nanteos 349
a 312) yn ystod y cyfnod hwn fod lleiniau mawr o dir yn ffridd agored
- Cefn Garreg, Cefn Banal a Banc Cae Magwr. Roedd y ffermydd yn anghysbell
ac fel arfer roedd ganddynt un neu ddau gae bach gerllaw’r anheddau
wedi’u lleoli mewn môr o ffridd agored, neu fel yng Nghennant,
gaeau bach gerllaw’r fferm a chaeau mwy o faint ymhellach allan.
Mewn rhai achosion nid oedd gan ffermydd unrhyw badogau na chaeau bach
hyd yn oed. Ym Mwlchcrwys ym 1764 (LlGC Nanteos 312) ymddengys fod ffin
y fferm wedi’i nodi gan glawdd, gwrych neu ffens, ond nid oedd unrhyw
raniadau mewnol ac roedd y fferm wedi’i lleoli mewn tir a elwid
yn ‘Dir Agored Clir’ ac yn ‘Fawnog’. Erbyn arolwg
degwm y 1840au roedd llawer o’r tir a arferai fod yn agored wedi’i
ffurfio’n gaeau mawr ac roedd y caeau mawr wedi’u hisrannu.
Amgaewyd rhagor o dir yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal dirwedd weddol fawr hon yn cynnwys
nifer o esgeiriau crwn wedi’u halinio o’r dwyrain i’r
gorllewin sy’n codi i uchder o 340m, a wahenir gan ddyffrynnoedd
sydd rhwng 200-280m o uchder. Ar wahân i blanhigfeydd bach o goed
coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif tirwedd heb goed ydyw yn y bôn.
Mae’r tir i gyd bron yn dir pori wedi’i wella, er y ceir pocedi
o dir mawnaidd a brwynog mewn rhai pantiau, a thir pori garw ar lethrau
serth. Cloddiau sy’n ffurfio hen ffiniau’r caeau. Nid oes
unrhyw wrychoedd ar wahân i ambell enghraifft sydd wedi’i
hesgeuluso a/neu sydd wedi tyfu’n wyllt gerllaw ffermydd. Erbyn
hyn mae ffensys gwifrau yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr a mawr iawn,
ac mae rhai ffensys yn dilyn yr hen gloddiau ffin. Yn gyffredinol mae
golwg tir agored wedi’i wella ar yr ardal hon, yn arbennig pan edrychir
arni o bellter. Mae tystiolaeth o weithgarwch cloddio ar raddfa fach,
ac mae cronfeydd dðr bach yn gysylltiedig â’r mwyngloddiau
hyn yn ôl pob tebyg. Yn croesi’r ardal o’r gorllewin
i’r dwyrain mae’r A4120. Y gyn-ffordd dyrpeg hon oedd y prif
lwybr i’r dwyrain o orllewin Cymru cyn i ffordd dyrpeg newydd –
ffordd bresennol yr A44 – gael ei hadeiladu ym 1829 (Coyler 1984,
180).
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig.
Nid oes fawr ddim aneddiadau anamaethyddol a fawr ddim anheddau modern
nad ydynt ynghlwm wrth fferm. Mae gan ffermydd ddau lawr fel arfer, maent
yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent wedi’u hadeiladu
o gerrig ac wedi’u rendro, ac maent yn arddull frodorol Sioraidd
nodweddiadol yr ardal, er bod un tþ o leiaf yn fodern ac mae eraill
wedi’u moderneiddio gryn dipyn. Mae gan y mwyafrif ddwy neu dair
rhes o adeiladau allan o gerrig, sydd weithiau wedi’u trefnu’n
lled-ffurfiol o amgylch iard, ac mae gan ffermydd gweithredol resi mawr
o adeiladau amaethyddol modern. Mae dau gapel yn tystio i’r ffaith
y bu’r boblogaeth yn gymharol fawr yn y gorffennol.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
darparu dyfnder amser i’r dirwedd. Ceir dau grug crwn yn dyddio
o’r Oes Efydd a thrydydd crug crwn o bosibl. Lleolir bryngaer yn
dyddio o’r Oes Haearn i’r gogledd-ddwyrain o’r ardal,
ac mae’n debyg iawn bod cloddwaith yn y gogledd-orllewin yn dystiolaeth
o ail fryngaer. Mae’r mwyafrif o’r olion archeolegol yn gysylltiedig
â’r diwydiant cloddio metel, er bod hen chwareli yn un o nodweddion
arbennig y dirwedd, ac mae’n debyg iawn bod yr enw lle Felinwynt
yn cyfeirio at safle melin wynt.
I’r gogledd mae i’r ardal ffiniau arbennig
o bendant â llethr serth, coediog iawn Cwm Rheidiol. Mae dyffryn
dwfn Cwm Magwr yn diffinio’r ardal i’r de-orllewin. I’r
gogledd-ddwyrain ceir tirwedd o gaeau bach ac anheddiad cnewyllol, ac
i’r dwyrain tir a arferai fod yn agored. I’r de mae’r
dirwedd yn cynnwys gwasgariad mwy dwys o aneddiadau a hen system gaeau
sydd (at ei gilydd) yn gyfan. Ceir anheddiad sgwatwyr i’r dwyrain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |