![](../../shim.gif) |
![TRAWSCOED](webphotos/trawscoed.jpg)
TRAWSCOED
CYFEIRNOD GRID: SN674735
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 363.6
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys plasty Trawscoed a’r
rhan fwyaf o’r hyn a ffurfiai ddemên Trawscoed. Mae stori’r
teulu Vaughan o Drawscoed yn dechrau yn y 14eg ganrif pan briododd merch
Ieuan Coch ag Adda Fychan, hynafiad uniongyrchol yr Arglwydd Lisburne
presennol (Morgan 1997, 21). Drwy gydol diwedd y Canol Oesoedd bu’r
teulu Vaughan yn gwasanaethu fel mân swyddogion ac asiantiaid i’r
Goron, gan grynhoi tir a chyfoeth. Yn ystod yr 16eg ganrif a dechrau’r
17eg ganrif trwy briodi’n graff a chyfnewid a phrynu tir yn ofalus
ffurfiwyd ystad o gryn faintioli. Ymestynnwyd yr ystad yn ddramatig ym
1630 pan brynwyd llawer o gyn-faenorau Abaty Ystrad Fflur gan Iarll Essex.
Roedd plasty a gerddi ardderchog wedi’u sefydlu yn Nhrawscoed erbyn
1684 o leiaf (Morgan 1997, 162). Ymddengys fod y tþ wedi’i
ailadeiladu’n gyfan gwbl erbyn 1756. Archwiliwyd olion cyn-erddi
a ddangosir ar fapiau o’r ystad (LlGC Trawscoed Cyf 1, 4; LlGC Map
7188, LlGC Map 10127) a’u hamlinellu o ffotograffau a dynnwyd o’r
awyr a’u disgrifio gan Morgan (1997). Cynhwysir y gerddi ar y Gofrestr
o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Rhan 1: Parciau a Gerddi; sy’n cynnwys disgrifiad llawn. Yn ogystal
â’r gerddi ffurfiol, gosodwyd parcdir a sefydlwyd parc ceirw
neu barc palisog. Yn debyg i bob parc o’r maint hwn mae wedi trawsnewid
gryn dipyn dros y canrifoedd. Dymchwelwyd hen ffermydd, megis Maesdwyffrwd
(LlGC Trawscoed Cyf 1, 40), i wneud lle i’r parc a thirluniwyd tir.
Dengys ffotograff dyddiedig 1888 a gyhoeddwyd gan Morgan (1987, 21) borfa
donnog a choed gwasgaredig nodweddiadol parc a grëwyd yn ystod y
18fed ganrif. O fewn yr ardal hon i’r gorllewin o’r parc ceir
ffermydd gwasgaredig. Dengys mapiau o’r ystad y ffermydd hyn mewn
tirwedd nad yw’n annhebyg i’r un a welir heddiw. Ym 1947,
gwerthwyd Trawscoed i’r llywodraeth, ac addaswyd y plasty yn swyddfeydd
ar gyfer y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, a than 1995 hwn
oedd pencadlys y Gwasanaeth Ymgynghorol Amaethyddol yng Nghymru, ac roedd
hefyd yn rhan o’r Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol (Morgan
1997, 172). Adeiladwyd blociau labordai ac adeiladau fferm y sefydliadau
hyn yn yr hen barc, ac adeiladwyd ystad fach o dai yn Abermagwr.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal hon ar un o gerlannau Afon Ystwyth
rhwng 50 a 80m o uchder, ac mae hefyd yn cynnwys bryn crwn wrth ei ffin
ogledd-ddwyreiniol, sy’n codi i uchder o 150m. Mae craidd yr ardal
yn cynnwys plasty Trawscoed a’i erddi cysylltiedig. Erbyn hyn mae’r
gerddi’n llawer llai nag yr oeddynt gynt, ac mae rhan helaeth iawn
o’r parcdir wedi’i throi yn dir pori wedi’i wella. Tri
pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd. Mae sawl clwstwr
o goed, coetir llydanddail a phlanhigfeydd o gonifferau, yn rhoi golwg
goediog i’r dirwedd. Ceir hefyd goed aeddfed sydd wedi goroesi o’r
parc a’r ardd. Mae sefydliadau ymchwil y Llywodraeth wedi trawsnewid
yr ardal o un a gynhwysai barcdir i un a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol
dwys. Ffurfir y ffiniau hþn gan gloddiau ac arnynt wrychoedd –
mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, ond mae angen rheoli
llawer – ac erbyn hyn mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu
atynt, ac mae’r rhain yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr.
Mae’r aneddiadau yn cynnwys adeiladau’r ystad
– y plasty, porthordai ac ati – clwstwr llac o anheddau yn
Abermagwr, a ffermydd gwasgaredig. Mae adeiladau rhestredig – sef
Plasty Trawscoed, adeiladau fferm fodel, porthordy Celf a Chrefft, pileri
gatiau, melin lifio ac ati – yn adlewyrchu dylanwad cryf yr ystad
ar draws y dirwedd hon. Carreg yw’r deunydd adeiladu traddodiadol,
sydd yn aml wedi’i gadael yn foel, a llechi ar gyfer toeau. Ar wahân
i’r strwythurau rhestredig, mae’r adeiladau naill ai’n
dai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, gan gynnwys ffermdai,
yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol, neu’n
fodern. Mae gan ffermydd sawl rhes o adeiladau allan o gerrig ac adeiladau
amaethyddol modern. Mae rhai adeiladau allan modern wedi’u hadeiladu
o bren, sy’n anarferol yn y rhanbarth hwn. Mae adeiladau modern
yn elfen amlwg yn y dirwedd, ac maent yn cynnwys tai yn dyddio o ganol
yr 20fed ganrif hyd ei diwedd, swyddfeydd y llywodraeth ac adeiladau amaethyddol
mawr iawn o eiddo’r llywodraeth.
Mae’r prif safleoedd archeolegol yn yr ardal hon
yn cynnwys caer Rufeinig Trawscoed a’i ficws cysylltiedig, ac adeiladau
a gerddi rhestredig plasty Trawscoed. Mae’r gaer gerllaw’r
plasty wedi’i haredig yn drwm a dim ond o dan y ddaear y mae olion
archeolegol wedi goroesi. Archwiliwyd rhannau bach o’r gaer trwy
waith cloddio archeolegol (Davies 1994, 300-302). Mae safleoedd archeolegol
eraill yn cynnwys tri ôl cnwd nad yw eu dyddiad yn hysbys a chanfyddiadau
yn dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig a’r Cyfnod Canoloesol.
Nid oes i’r ardal dirwedd hanesyddol hon ffiniau
pendant. Nid yw cymeriad cyffredinol yr ardaloedd i’r gogledd, i’r
de ac i’r dwyrain yn annhebyg, ond ni cheir ynddynt yr elfennau
sy’n gysylltiedig â’r ystad a geir yn yr ardal hon.
I’r de-ddwyrain mae’r ffin ychydig yn gliriach am fod y tir
yma yn codi’n sydyn at dir agored.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |