![](../../shim.gif) |
![Llanfihangel -y- Creuddyn](webphotos/llanfihangelycreuddyn.jpg)
LLANFIHANGEL-Y-CREUDDYN
CYFEIRNOD GRID: SN 668759
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 588.2
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Mae’n
debyg bod Llanfihangel-y-Creuddyn yn ganolfan weinyddol ar gyfer Cwmwd
Creuddyn yn y Cyfnod Canoloesol. Mae Rees (1932) yn ei chofnodi fel canolfan
fasnachu, ond nid fel bwrdeistref. Mae’n ansicr pryd y sefydlwyd
eglwys yma, ond mae’r cysegriad yn awgrymu iddi gael ei sefydlu
cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Mae’r eglwys drawiadol bresennol
sydd ar ffurf croes yn dyddio yn bennaf o’r Oesoedd Canol –
y 14eg ganrif hyd y 15fed ganrif (Ludlow 1998). Mae Morgan (1997, 192)
o’r farn bod Llanfihangel-y-Creuddyn yn daeogdreflan yn perthyn
i arglwyddi Cymreig Creuddyn. Os yw hynny’n gywir, yna y goblygiad
yw y buasai anheddiad cnewyllol, bach â system o lein-gaeau neu
gaeau agored o bobtu iddo. Nid oes unrhyw ffynonellau map i ategu hyn,
er bod tystiolaeth gymhellol yn dod o ddogfen ddyddiedig 1743 a ddyfynnir
gan Morgan (1997, 191) sy’n cyfeirio at lain o dir yn mesur 131
wrth 11 llath yng nghaeau Pen-dre, ac o elfennau ffisegol y dirwedd a
ddisgrifir isod. Yn y 18fed ganrif cyfeirir at Lanfihangel o bryd i’w
gilydd fel pentrefan o hanner dwsin o fythynnod. A bwrw bod awgrym Morgan
yn gywir, nid oes fawr ddim tystiolaeth i nodi pryd y crëwyd y cylch
llac o ffermydd a leolid o bobtu i’r pentref, a phryd y sefydlwyd
y system gaeau fodern. Fodd bynnag, mae’n debyg, erbyn diwedd y
Cyfnod Canoloesol, ar ôl i’r cysyniad o berchenogaeth breifat
gael ei derbyn mewn egwyddor, fod ffermydd a ddelid mewn deiliadaeth unigol
neu mewn ystadau bach yn cael eu cerfio allan o gyn-lein-gaeau. Dyma efallai
a ddigwyddodd yn Llanfihangel lle y cofnodwyd ystad fach Abertrinant (sydd
bellach yn fferm) ar ddechrau’r cyfnod modern. Mae’n rhaid
i ni ddibynnu ar y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif i ganfod tarddiad
y system gaeau fodern a’r patrwm anheddu gwasgaredig. Dengys mapiau
ystad yn dyddio o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a
map degwm 1847 dirwedd tebyg i’r un a welir heddiw, yn cynnwys anheddiad
cnewyllol a ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn system o gaeau
bach.
![Llanfihangel -y- Creuddyn](webphotos/llanfihangelycreuddyn2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Wedi’i chanoli ar bentref Llanfihangel-y-Creuddyn,
mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau pen pellaf dyffryn ag
ochrau agored. Mae llawr y dyffryn ar 80m o uchder ac mae ei lethrau yn
codi i dros 180m. Mae’n ardal hynod o gydryw, ac mae’n cynnwys
caeau bach o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau ac arnynt
wrychoedd. Ceir clystyrau bach o goetir collddail a phlanhigfeydd o goed
coniffer. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, heb fawr ddim
tir garw neu dir âr. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr
da ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, er bod rhai
wedi tyfu’n wyllt ac yn dechrau cael eu hesgeuluso. Mae ffensys
gwifren wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd terfyn.
Mae’r patrwm caeau o gaeau cul, hir, yn arbennig gerllaw’r
pentref, yn awgrymu y gallai’r patrwm amgaeëdig presennol fod
wedi datblygu o system o gaeau agored neu lein-gaeau. Mae’r patrwm
anheddu yn cynnwys anheddiad cnewyllol bach Llanfihangel-y-Creuddyn a
chylch llac o ffermydd gwasgaredig a leolir o bobtu iddo. Mae’r
pentref wedi cadw llawer o’i gymeriad hanesyddol. Cerrig lleol yw’r
deunydd adeiladu traddodiadol, sydd naill ai wedi’u gadael yn foel
neu wedi’u rendro â sment, er bod brics yn dechrau cael eu
defnyddio ar aneddau ac adeiladau allan ffermydd tua diwedd y 19eg ganrif.
Lleolir eglwys drawiadol restredig Sant Mihangel, sydd ar ffurf croes,
yng nghanol y pentref ac o bobtu iddi ceir adeiladau domestig, gan gynnwys
sawl un sy’n rhestredig. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys adeilad
ffrâm nenfforch ar ffurf neuadd yn dyddio yn ôl pob tebyg
o’r 16eg ganrif, terasau o dai/bythynnod yn dyddio o ddiwedd y 18fed
ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ty Sioraidd diweddar a ‘fila’
gothig a adeiladwyd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif â cherbyty
a stablau. Mae adeiladau eraill yn cynnwys ysgol fach o ddiwedd y 19eg
ganrif a nifer gynyddol o anheddau modern. Lleolir cwpl o ffermydd gweithredol
bach yn y pentref, ond mae’r mwyafrif wedi’u gwasgaru ar draws
yr ardal. Fel arfer mae’r rhain yn cynnwys un neu ddwy res fach
o adeiladau allan cerrig. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol
modern o faint bach i ganolig – nid yw’r rhain yn elfennau
amlwg yn y dirwedd.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys yn bennaf
adeiladau sy’n sefyll gan gynnwys eglwys, capel, anheddau, dwy felin
a gefail gof. Fodd bynnag, mae cae ôl gnwd yn nodi bod mwy o ddyfnder
amser i’r dirwedd, am y gall gynrychioli olion bryngaer yn dyddio
o’r Oes Haearn sydd wedi’u haredig allan. Ar ben hynny mae’n
bosibl bod enwau dau le, sef Castell Cynon a Chastell Banc-y-môr,
hefyd yn nodi safleoedd bryngeyrydd yn dyddio o’r Oes Haearn neu
safleoedd amddiffynnol eraill.
Er bod hon yn ardal gymeriad ar wahân, nid yw ei
ffiniau yn arbennig o bendant. I’r de mae’r ardal hon yn cyffinio
â thirwedd ystad Trawscoed, i’r gorllewin ni ddisgrifiwyd
unrhyw ardaloedd tirwedd eto, ac mewn mannau eraill mae’n codi at
dir uwch a arferai fod yn agored ac yn llai cyfannedd.
![Map Llanfihangel -y- Creuddyn](webphotos/llanfihangelycreuddynmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |