Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PEN-RHIW-NEWYDD

PEN-RHIW-NEWYDD

CYFEIRNOD GRID: SN 674874
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 184.4

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Efallai yr ystyrid mai tir agored y Goron ydoedd am ran helaeth o ddechrau’r Cyfnod ôl-Ganoloesol. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd o leiaf ran ohoni wedi dod i feddiant ystad Gogerddan. Dengys map ystad dyddiedig 1788 (LlGC R.M. 108) fod yr esgair i’r gogledd-ddwyrain o Dyn Gelli wedi’i hamgáu yn ddau gae mawr, a bod y rhan fwyaf o’r ardal a oedd ar ôl yn cynnwys tir agored ar wahân i dair ‘llain’ gerllaw ffordd gyhoeddus. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr ardal gyfan wedi’i hisrannu’n gaeau. Fe’i hisrannwyd ymhellach yn ail hanner y 19eg ganrif. Sefydlwyd capel yn Salem ym 1824 (Percival 1998, 517), ond ni ddatblygodd unrhyw anheddiad yma tan ar ôl arolwg degwm 1845 (map degwm a dyraniad Llanbadarn). Yn wir, ar wahân i Fferm Pantyffynnon, sefydlwyd pob anheddiad yn yr ardal hon, gan gynnwys datblygiadau llinellol yn Salem a Phen-rhiw-newydd a bythynnod anghysbell, yn ail hanner y 19eg ganrif. Nid yw’n sicr sut y sefydlwyd yr aneddiadau hyn. Gallant fod yn aneddiadau sgwatwyr, ond mae dyddiad yn ail hanner y 19eg ganrif braidd yn hwyr, ac felly mae’n bosibl iddynt gael eu sefydlu fel tai gweithwyr o dan nawdd ystad neu berchennog tir arall.

PEN-RHIW-NEWYDD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys esgair gron yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin, y mae ei chopa yn disgyn o 320m yn y dwyrain i lai na 150m yn ei phen gorllewinol. Mae llethrau is yr esgair yn disgyn o dan 120m. Mae cloddiau isel ac ambell wal sych yn rhannu’r esgair yn system gaeau o gaeau rheolaidd eu siâp. Nid oes unrhyw wrychoedd wedi goroesi ar gopa’r esgair, ac mae ffensys gwifrau yn rhedeg ar hyd yr hen gloddiau a’r waliau yn darparu ffiniau cadw stoc. Ar y llethrau is ceir ambell wrych wedi’i lled-esgeuluso, ac mae’r cloddiau ychydig yn fwy sylweddol. Tirwedd ddi-goed ydyw yn y bôn. Tir pori wedi’i wella a geir gan mwyaf, a rhywfaint o dir mwy garw ar lethrau mwy serth yr esgair. Mae ffordd syth yn rhedeg ar hyd copa’r esgair. Mae’r patrwm anheddu’n cynnwys bythynnod a thai gwasgaredig, a datblygiadau llinellol mewn clystyrau llac yn dyddio o’r 19eg ganrif yn Salem a Phen-rhiw-newydd. Mae capel gwledig arbennig o fawr yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yn Salem. Mae’n debyg i’r tai gael eu hadeiladu’n wreiddiol ar gyfer gweithwyr diwydiannol – nid oes fawr ddim tystiolaeth iddynt gael eu hadeiladu at ddibenion amaethyddol. Mae’r tai hyn wedi’u hadeiladu o gerrig lleol (wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel), ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau, ac maent i gyd bron yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr, un llawr a hanner neu un llawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Maent hefyd yn arddangos nodweddion brodorol amlycach megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Llenwyd bylchau rhwng yr anheddau hyn gan dai a byngalos modern.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion gweithgarwch cloddio am fetel a chaer fach yn dyddio o’r Oes Haearn. Ni ddyddiwyd y system gwrym a rhych ar gopa’r esgair, er y gall nodi bod yr ardal wedi’i defnyddio at ddibenion amaethyddol cyn cael ei hamgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gogledd, i’r de ac i’r gorllewin ceir tir amgaeëdig a gwrychoedd a chlystyrau o goetir sydd wedi goroesi. I’r dwyrain ceir coedwigoedd modern.

PEN-RHIW-NEWYDD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221