![](../../shim.gif) |
![Cwm Rheidol](webphotos/cwmrheidol.jpg)
CWM RHEIDOL
CYFEIRNOD GRID: SN 711788
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 145.3
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon.
Cymerir yn ganiataol bod y patrwm o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach,
afreolaidd eu siâp ar lawr y dyffryn yn hen iawn – roedd wedi’i
sefydlu’n gadarn erbyn yr arolwg degwm dyddiedig c. 1840. Ystyrir
bod pobl wedi bod yn cloddio am blwm yn y dyffryn ers amser maith. Ar
ochr ddeheuol y dyffryn bu pedwar mwynglawdd ar waith hyd at 1855 pan
y’u cyfunwyd i ffurfio Mwyngloddiau Unedig Rheidol (Prichard 1985,
5-7). Newidiodd y berchenogaeth a ffurfiwyd cwmnïau newydd, ond parhaodd
y gweithgarwch cloddio drwy gydol y 19eg ganrif ac i mewn i’r 20fed
ganrif, gan ddod i ben yn y diwedd ym 1933. Ar ochr ogleddol y dyffryn
datblygwyd mwynglawdd Caegynon yn y 1850au, a buwyd yn gweithio Cwm Rheidol
i gael blend (Sylffid Sinc) o 1900 hyd 1912 (Bick 1983, 22, 33; Carr a
Schöne 1993, 56-62). Gyrrid yr olaf gan dyrbin ac roedd wedi’i
gysylltu trwy raffordd awyr â Rheilffordd Cwm Rheidol. Yn y 1950au
ac ar ddechrau’r 1960au, arweiniodd cynllun hydrodrydanol Rheidol,
a gwblhawyd ym 1964, at adeiladu tþ tyrbin, adeiladau atodol ac
argae a greodd gronfa ddðr fach (Walker 1998, 31). Adeiladwyd capel
yn y dyffryn ym 1872, ac Ysgol Sul ym 1905.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn y bôn yn cynnwys llawr
dyffryn Afon Rheidol, sydd rhwng 50m a 60m o uchder, ond sy’n cynnwys
llethrau i fyny at 150m lle y ceir gweithgareddau cloddio. Ar wahân
i ben gorllewinol y dyffryn, ceir llethrau coediog, serth ar bob tu i’r
ardal hon. Er ei bod yn ardal eithaf bach, mae’n cynnwys olion diwydiannol
cymhleth wedi’u harosod ar dirwedd amaethyddol. Mae’r dirwedd
amaethyddol yn cynnwys patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. Rhennir
y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn
cyflwr gwael: maent wedi’u hesgeuluso, maent wedi tyfu’n wyllt
neu nid ydynt yn bod. Mae ffensys gwifrau yn ffurfio ffiniau cadw stoc.
Mae olion diwydiannol yn elfen amlwg a phwysig yn y dirwedd hanesyddol.
Olion amlycaf y diwydiant cloddio metel yw’r pentyrrau a’r
tomenni ysbwriel, sy’n gorlifo i lawr llethrau’r dyffryn at
lawr y dyffryn, a thai’r gweithwyr sydd wedi’u gwasgaru ar
hyd llawr y dyffryn. Mae adeiladau yn gysylltiedig â chloddio am
fetel yn tueddu i fod wedi’u crynhoi ar lawr y dyffryn ac maent
gan mwyaf yn cynnwys strwythurau wedi’u hadeiladu o gerrig sydd
bellach yn adfeilion, ond ceir siediau o haearn rhychog yng Nghaegynon.
Ym mwynglawdd Cwm Rheidol, ar wahân i dþ’r tyrbin, lleolir
y mwyafrif o’r adeiladau ar ochr y dyffryn. Hyd at ychydig flynyddoedd
yn ôl roedd olion trawiadol gwaith naddu yn dyddio o ddechrau’r
19eg ganrif wedi’u lleoli yma, ond mae’r gwaith naddu bellach
wedi’i ddymchwel, er bod rhai strwythurau cerrig cynharach gan gynnwys
tþ mathru i’w gweld o hyd. Mae cronfa ddðr, argae ac adeiladau
modern cynllun hydrodrydanol Rheidol ym mhen gorllewinol y dirwedd hon
yn elfennau amlwg a phwysig, er eu bod yn gymharol ddiweddar, yn y dirwedd
ddiwydiannol hanesyddol.
Mae adeiladau’r ardal hon yn gymysgedd o rai amaethyddol
a diwydiannol, a cheir ddau fath wedi’u cymysgu mewn patrwm llinellol
eithaf dwys ar hyd llawr y dyffryn. Mae tai yn y ddau gategori –
sef tai amaethyddol a thai gweithwyr (mwyngloddwyr) – yn yr un traddodiad
brodorol Sioraidd rhanbarthol bras yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd
ei diwedd. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig – sy’n foel,
wedi’u rendro â sment neu wedi’u paentio – maent
yn gymharol fach ac mae ganddynt ddau lawr. Mae gan y mwyafrif nodweddion
brodorol cryf, yn arbennig tai’r gweithwyr. Mae adeiladau allan
ffermydd sydd wedi’u hadeiladu o gerrig yn fach. Maent yn aml yn
ffurfio un neu ddwy res, a cheir enghreifftiau sydd ynghlwm wrth y tþ
ac yn yr un llinell ag ef, fel sy’n arferol yn achos y daliadau
fferm lleiaf. Defnyddiwyd cerrig crynion o afonydd mewn rhai adeiladau
allan. Mae olion gwyngalch hefyd i’w gweld ar rai adeiladau allan.
Mae adeiladau fferm modern hefyd yn fach, lle y maent i’w cael.
Ceir nifer fach o dai a byngalos modern ar hyd y dyffryn, ond ceir crynhoad
sylweddol yn y pen gorllewinol gerllaw’r adeiladau cynhyrchu hydrodrydanol.
Mae capel bach yn dyddio o’r 19eg ganrif a chapel/ysgol yn dyddio
o ddechrau’r 20fed ganrif yn ychwanegu at gymeriad yr ardal hon.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safleoedd
ôl-Ganoloesol a dim byd arall, ac o’r safleoedd hyn olion
y diwydiant cloddio metel yw’r rhai amlycaf. Nid yw’r archeoleg
yn darparu unrhyw ddyfnder amser i’r dirwedd.
Mae ffiniau pendant iawn gan yr ardal dirwedd hanesyddol
hon. I’r gorllewin ceir rhan fwy agored, 1lai diwydiannol Cwm Rheidol.
Ar bob ochr arall mae llethrau coediog serth yn ymgodi uwchben llawr y
dyffryn.
![Map o ardal Cwm Rheidol](webphotos/cwmrheidolmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |