![Banc Ceunant](webphotos/bancceunant.jpg)
BANC CEUNANT
CYFEIRNOD GRID: SN 677759
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 117.5
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon.
Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd wedi’i hymgorffori yn ystad
Nanteos. Dengys map o’r ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 40) ran
o’r ardal hon i’r de o Fferm Allt-fedw fel porfa defaid agored,
gyda rhai caeau bach yn tresmasu ar ei hymylon. Erbyn arolwg degwm 1847
(plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn) roedd yr ardal gyfan wedi’i hamgáu
i ffurfio’r system sy’n bodoli heddiw. Nid oes unrhyw aneddiadau
yn yr ardal.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws pen gorllewinol
esgair gron wedi’i halinio o’r dwyrain i’r gorllewin
ac mae rhwng 130m – 260m o uchder. I’r gorllewin ceir tir
amgaeëdig is; i’r dwyrain mae’r tir yn parhau i godi
i gopa’r esgair. Sicrhaodd y ffaith bod y pen hwn i’r esgair
yn agored ac yn wynebu’r gorllewin iddi barhau i fod yn borfa defaid
agored tan y cyfnod modern. Erbyn hyn mae’r ardal wedi’i rhannu’n
gaeau rheolaidd o faint canolig. Dengys natur reolaidd a dyddiad hwyr
y caeau iddynt gael eu hamgáu ar un cynnig o dan nawdd corff pwerus,
yn yr achos hwn ystad Nanteos. Ffurfir y caeau gan gloddiau ac arnynt
wrychoedd. Mae’r gwrychoedd wedi goroesi mewn cyflwr da ar hyd lonydd,
ond mewn mannau eraill maent mewn cyflwr gwael ac maent yn cael eu hesgeuluso
ac yn tyfu’n wyllt. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu
at y ffiniau hanesyddol ym mhobman. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r
tir yn dir pori wedi’i wella, ond mae pocedi o dir pori mwy garw
a thir brwynog yn amlwg.
Nid oes gan yr ardal ffiniau arbennig o bendant. I’r
gorllewin, i’r gogledd ac i’r de mae’r ardal hon yn
ymdoddi i dir amgaeëdig ac is sy’n fwy hynafol. I’r dwyrain
mae’r ffin yn fwy pendant, a cheir tir uwch yn cynnwys caeau mawr
amgaeëdig sydd bellach heb unrhyw wrychoedd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |