![](../../shim.gif) |
![Bryngwyn](webphotos/bryngwyn3.jpg)
BRYNGWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 645870
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 537.2
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon.
Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd bron y cyfan o’r tir wedi’i
rannu rhwng ystadau Gogerddan, Bryngwyn a Chynull Mawr. Dengys mapiau
ystad (LlGC Gogerddan 35, 36; LlGC Cyf 38, 8; LlGC Cyf 42) yn dyddio o
ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yr un dirwedd bron
â’r un a welir heddiw, yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, caeau
afreolaidd eu siâp a choetir gwasgaredig. Nid yw’n hysbys
sut y sefydlwyd y patrwm anheddu a’r system gaeau, ond mae’n
debyg i’r ystadau y cyfeiriwyd atynt uchod gael eu creu yn ystod
cyfnod o drawsnewid ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol, pan oedd y cysyniad
o berchenogaeth breifat yn dechrau cael ei dderbyn. Os felly, yna mae’n
debyg bod y patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig yn dyddio o’r
cyfnod hwn o leiaf. Efallai i’r system gaeau gael ei sefydlu yn
yr un cyfnod â’r ffermydd. Fodd bynnag, mae enwau lleoedd
megis Maesnewydd a Maes-y-dogn yn awgrymu bod system o lain-gaeau neu
gaeau isranedig yn cael ei defnyddio cyn hynny.
![Bryngwyn](webphotos/bryngwyn4.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llethrau tonnog dyffryn
bach sy’n wynebu’r gorllewin a’r gogledd-orllewin ac
a leolir rhwng 50m a 150m. Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys patrwm
anheddu o ffermydd a thai gwasgaredig, ac anheddiad cnewyllol bach o dai
modern yn y Dolau, a leolir mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd eu siâp,
a chlystyrau bach o goetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer.
Mae’r ardal yn cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf, ac
ni cheir fawr ddim tir pori garw na thir o ansawdd gwael. Rhennir y caeau
gan gloddiau ac arnynt wrychoedd yn bennaf, ac ambell wal sych ar y llethrau
uwch. Mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, a cheir ambell
goeden nodedig, ond mewn rhai mannau, yn arbennig ar dir uwch maent yn
tyfu’n wyllt ac yn mynd yn ddiffaith.
Carreg leol - sydd wedi’i gadael yn foel, wedi’i
rendro neu wedi’i phaentio - yw’r deunydd adeiladu traddodiadol,
a defnyddiwyd llechi masnachol ar gyfer y toeau. Mae’r ffermdai
yn bennaf yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent yn gymharol
fach, mae iddynt ddau lawr, ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol
- sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a
dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch
ei ben. Mae gan lawer nodweddion brodorol, megis cynllun afreolaidd, ffenestri
sydd wedi’u gosod yn anghymesur, ystafelloedd isel a simneiau o
faint anghyfartal. Fodd bynnag, mae Maesnewydd yn fwy o faint ac yn arddangos
nodweddion Sioraidd bonheddig cryfach, ac mae Pant Glas yn dþ deulawr
sylweddol yn dyddio yn ôl pob tebyg o’r 18fed ganrif ond sydd
â nodweddion brodorol. Ar gyfartaledd mae gan ffermydd ddwy neu
dair rhes o adeiladau allan bach wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio
o’r 19eg ganrif, er bod adeiladau mwy sylweddol wedi’u lleoli
o amgylch iard yn dangos bod rhai ffermydd yn fwy cyfoethog ac yn uwch
eu statws. Fel arfer mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol
concrid a dur modern o faint canolig, ond ceir rhai enghreifftiau mawr
iawn hefyd. Yn ogystal â ffermydd ceir tai gwasgaredig, sydd, ar
y cyfan, yn yr un arddull ac yn dyddio o’r un cyfnod â’r
ffermdai, er eu bod yn llai o faint fel arfer, ond ceir rhai ‘filas’
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, a thai a byngalos yn dyddio o ddiwedd
yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif wedi’u gwasgaru ar
draws yr ardal.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwyngloddiau
metel bach ar ffin ddwyreiniol yr ardal a dwy felin þd. Mae bryngaer
fach yn dyddio o’r Oes Haearn, pedwar twmpath llosg neu bedair aelwyd
yn dyddio o’r Oes Efydd – aneddleoedd posibl – a chanfyddiadau
yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu elfen o ddyfnder amser i’r
dirwedd.
Nid yw’r ardal yn un hawdd ei diffinio. I’r
gorllewin ac i’r gogledd ni ddisgrifiwyd yr ardaloedd tirwedd eto,
ac i’r dwyrain ac i’r de mae’r ardal hon yn ymdoddi
i dir sy’n llai hynafol ond sy’n debyg, serch hynny.
![Map ardal Bryngwyn](webphotos/bryngwynmap2.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |