![WAUN WYDDYL](webphotos/waunwyddyl.jpg)
WAUN WYDDYL
CYFEIRNOD GRID: SN 669874
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 385.4
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal fach hon o
dir uchel. Ar y map degwm (Llanfihangel Geneu’r glyn, 1847) fe’i
dangosir fel tir agored, ac mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron
ydoedd, sefyllfa a fodolai yn ôl pob tebyg am nifer o ganrifoedd
cyn 1847. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif rhannwyd yr ardal yn gaeau
mawr iawn. Sefydlwyd fferm wynt yma bellach.
![WAUN WYDDYL](webphotos/waunwyddyl2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys bryn crwn, sy’n
codi i dros 340m o uchder mewn mannau. At ei gilydd mae’r llethrau’n
disgyn i 250m, ond mae rhai o’r llethrau mwy serth yn disgyn i lai
na 150m. Arferai fod wedi’i rhannu’n gaeau mawr gan gloddiau
– nid oes unrhyw wrychoedd erbyn hyn, er bod llwyni eithin yn tyfu
ar rai cloddiau – ond mae’r gwrychoedd hyn bellach yn afraid
i raddau helaeth ac erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu ffiniau cadw
stoc. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ond ceir pantiau brwynog
a mawnaidd yn ogystal â thir pori mwy garw a rhedyn ar y llethrau
mwy serth. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Mae rheilffordd/tramffordd
fyrhoedlog (a agorwyd ym 1897) yn croesi’r llethrau gogleddol is.
Adeiladwyd fferm wynt yn ddiweddar ar gopa’r bryn.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf yn cynnwys
olion mwyngloddiau metel dinod ar lethrau gogleddol a chopa’r ardal.
Mae caer drawiadol yn dyddio o’r Oes Haearn, dau grug crwn posibl
yn dyddio o’r Oes Efydd a dau faen hir posibl yn dyddio o’r
Oes Efydd yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |