Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Allt y Gwreiddyn

ALLT Y GWREIDDYN

CYFEIRNOD GRID: SN 680803
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 144.0

Cefndir Hanesyddol

Er bod rhan o’r ardal hon wedi’i lleoli’n hanesyddol o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir, mae’n debyg bod y llethrau serth iawn lle y’i lleolir bob amser wedi rheoli’r defnydd a wneir ohoni fel coetir. Fe’i dangosir wedi’i gorchuddio â choed ar y mapiau cynharaf o’r ardal ddyddiedig 1790 (LlGC Cyf 37, 57, 60). Mae’r coetir ym 1790 yn debyg o ran maint i’r coetir a welir heddiw. Dengys mapiau hanesyddol nad yw wedi newid ryw lawer yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, er bod y Comisiwn Coedwigaeth wedi ailblannu rhai clystyrau o goetir llydanddail â chonifferau. Erbyn y 18fed ganrif roedd llawer o’r coetir hwn o fewn ystad Gogerddan. Mae gwaith rheoli gofalus gan yr ystad wedi cyfrannu at ei ddiogelu rhag cael ei anrheithio gan y diwydiant cloddio plwm, a chan ffermwyr-denantiaid ac unigolion eraill.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal yn ymestyn dros lethr serth sy’n wynebu’r gogledd ac sy’n drwch o goed. O ran uchder mae’n amrywio o 60m i 300m. Mae’r coetir yn gymysgedd o goed llydanddail a chonifferau. Ceir rhai darnau bach o dir agored yn yr ardal hon. Mae’r rhain yn cynnwys tir pori garw a llethrau wedi’u gorchuddio â rhedyn sydd wedi’u rhannu’n gaeau. Cloddiau ac arnynt ffensys gwifrau sy’n ffurfio’r ychydig o ffiniau a geir yno. Mae tystiolaeth o weithgarwch cloddio cerrig yn y coetir.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gogledd ceir tir amgaeëdig is, ac i’r de naill ai dir amgaeëdig uchel neu rostir agored.

Map ardal Allt y Gwreiddyn

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221