Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Afon Leri

AFON LERI

CYFEIRNOD GRID: SN 682883
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 354.0

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Yn wahanol i lawer o ardaloedd tirwedd hanesyddol ar loriau dyffrynnoedd i’r de, nid yw dyffryn Leri wedi’i leoli o fewn un o faenorau niferus Ystrad Fflur nac Abaty Cwm-hir. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol ni fu’r un ystad yn tra-arglwyddiaethu yn yr ardal hon, yn wahanol i’r rhan fwyaf o ucheldir Ceredigion, ac felly nid oes unrhyw gasgliadau o fapiau ar raddfa fawr yn dyddio o’r 18fed ganrif y gellir eu defnyddio i werthuso datblygiad y dirwedd hanesyddol. Mae’n debyg bod y system ddeiliadol wedi’i nodweddu gan berchen-ddeiliaid bach ac ystadau preifat bach, a phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. Mae’n debyg bod y patrwm anheddu yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol o leiaf, a gall fod yn gynharach. Mae’n bosibl bod y system gaeau gysylltiedig yn dyddio o’r un cyfnod. Wedi’u harosod ar y dirwedd amaethyddol mae canlyniadau gweithgarwch cloddio am fwyn metel. Roedd y mwyngloddiau hyn yn weithrediadau ar raddfa fach, ond serch hynny cawsant ddigon o effaith ar lefelau poblogaeth fel yr adeiladwyd ysgoldy ym 1845 a chapel ym 1850 (Percival 1998, 512). Dengys map degwm 1845 yr un dirwedd yn y bôn â’r un a welir heddiw.

Afon Leri

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon, sy’n cynnwys llawr a llethrau isaf Afon Leri, yn amrywiol ac yn gymhleth. Mae Afon Leri yn rhedeg yn gyflym trwy’r ardal hon, gan ddisgyn o 170m yn y dwyrain i lai na 90m yn y gorllewin. Mae’r llethrau a gynhwysir yn yr ardal astudiaeth yn codi’n serth i dros 200m, a’r tu hwnt i’r ardal astudiaeth maent yn parhau i godi dros dir agored i dros 300m. Mae’r patrwm anheddu o ffermydd/tai gwasgaredig wedi’i osod mewn system gaeau o gaeau afreolaidd o faint bach i ganolig. O amgylch y caeau hyn ceir cloddiau pridd, neu gloddiau pridd a cherrig ac arnynt wrychoedd, neu waliau sych. Mae cyflwr y waliau sych yn amrywio. Mae’r gwrychoedd ar y cyfan wedi tyfu’n wyllt ac ni allant gadw stoc i mewn bellach; mae llawer yn cynnwys coed nodedig. Mae’r coed hyn ynghyd â’r nifer fawr o glystyrau o goed collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer yn rhoi golwg dra choediog i’r dirwedd. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth a cheir rhywfaint o dir mwy garw ar lethrau serth, a darnau o dir brwynog mewn pantiau. Mae tomenni a lefelydd sawl mwynglawdd metel yn nodwedd nodedig o’r dirwedd. Mae llwybr tramffordd fyrhoedlog Pumlumon a Hafan a wasanaethai rai o’r mwyngloddiau hyn yn mynd trwy’r ardal hon. Adeiladwyd argaeau a ffrydiau ym mhen gorllewinol Afon Leri i wasanaethu’r diwydiant gwlanen yn Nhal-y-bont.

Mae’r ffermdai/tai hyn yn dyddio yn bennaf o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig lleol ac ar y toeau ceir llechi masnachol. Mae llawer o dai wedi’u rendro â sment, mae gan rai cerrig wedi’u paentio ac mae gan ychydig gerrig moel, rhai ag addurniadau brics. Mae iddynt ddeulawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall ac un uwchben. Ceir nodweddion brodorol megis bondo isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall ar rai tai. Moderneiddiwyd a/neu ailadeiladwyd rhai. Mae o leiaf un bwthyn unllawr - rhestredig a chanddo groglofft - yn amlygu traddodiad mwy brodorol yn yr ardal hon nag a gynrychiolir gan y tai deulawr. At ei gilydd cyfyngir adeiladau allan ffermydd wedi’u hadeiladu o gerrig ac yn dyddio o’r 19 ganrif i un neu ddwy res fach. Fel arfer mae gan ffermydd gweithredol un neu ddau adeilad amaethyddol dur a choncrid cymharol fach, ac mae gan ffermydd mwy o faint resi helaeth o adeiladau amaethyddol. Ceir tai a byngalos modern gwasgaredig ar draws y dirwedd hefyd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwyngloddiau metel yn bennaf. Mae melin a chapel sydd wedi goroesi hefyd ar y cofnod. Mae safle posibl maen hir o’r Oes Efydd, a thwmpath llosg neu aelwyd yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu elfen gyfyngedig o ddyfnder amser ar gyfer yr ardal.

Mae i’r ardal hon ffiniau gweddol bendant ac mae’n ardal ar wahân. I’r gogledd ni ddisgrifiwyd y tir uchel, agored eto. I’r de, mae'r tir uchel, agored yn ffurfio ffin bendant i’r ardal hon. Mewn mannau eraill mae’r ffin yn llai pendant am fod ardaloedd cyfagos yn rhannu llawer o elfennau tirwedd tebyg.

Map o ardal Afon leri

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221