![Banc bwlch Roser](webphotos/bancbwlchroser.jpg)
BANC BWLCH ROSER
CYFEIRNOD GRID: SN 700864
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 123.2
Cefndir Hanesyddol
Nid yw hanes y llain hon o ucheldir yn hysbys. Nis amgaewyd
tan ar ôl 1840, ac felly yn ôl pob tebyg ystyrid mai tir y
Goron ydoedd. Ar ôl 1840 rhannwyd yr ardal hon yn gaeau mawr a sefydlwyd
o leiaf ddwy fferm, sydd bellach yn anghyfannedd.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Nodweddir Banc Bwlch Roser gan fryniau ac esgeiriau
creigiog wedi’u lleoli rhwng ucheldir uchel i’r dwyrain a
thir amgaeëdig is i’r gorllewin. Mae’r ardal hon yn codi
i uchder o dros 320m, gyda’r llethrau isaf yn disgyn i 220m. Tirwedd
heb goed ydyw a rannwyd yn gaeau mawr gan gloddiau. Erbyn hyn mae’r
cloddiau hyn yn ddiangen i raddau helaeth ac mae rhai ffensys gwifrau
yn darparu ffiniau cadw stoc. Mae’r ardal yn cynnwys tir pori wedi’i
wella yn bennaf, er bod tir mwy garw ar lethrau serth, a rhai pantiau
mawnaidd a brwynog. Lleolir olion lefelydd mwyngloddiau metel ar lethrau
sy’n wynebu’r de. Nid astudiwyd y ddwy fferm anghyfannedd
yn yr ardal hon yn y maes.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys maen hir
posibl a chrug crwn posibl, y ddau yn dyddio o’r Oes Efydd.
Ardal ar wahân ydyw; mae’n gweithredu fel
clustogfa rhwng rhostir agored i’r dwyrain a thir amgaeëdig
is i’r gorllewin. Mae’r ffiniau rhwng yr ardal hon a’r
dyffrynnoedd i’r gogledd ac i’r de yn llai clir, ond serch
hynny maent yn amlwg ar y ddaear.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |