Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

MYNYDD MARCH

MYNYDD MARCH

CYFERINOD GRID: SN 719832
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 741.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai rhan ddeheuol yr ardal hon o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir, tra gorweddai rhan o’r tir yng ngogledd yr ardal o fewn Maenor y Dywarchen a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur (Williams 1990, 41, 57). Ar ôl i’r abaty gael ei ddiddymu ymddengys i’r maenorau gael eu rhannu rhwng nifer o ystadau cynnar, a daeth y rhan fwyaf o’r tir i feddiant ystad Gogerddan. Fodd bynnag, mae’n debyg i gymeriad ucheldirol, agored yr ardal hon sicrhau i’r Goron ei hawlio, nes i ystad Gogerddan gymryd meddiant ohono yn y 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif. Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gogerddan 68, 70; Cyf 37, 37, 57, 60, 64, 66) yr ardal hon fel rhostir neu ffridd agored, er y dangosir dau fwthyn anghysbell - Lluest Trafle - i’r gogledd o Gwmsymlog a dangosir dau fwthyn anghysbell arall i’r gorllewin. Nid yw statws yr aneddiadau hyn yn glir; mae’n bosibl bod yr enw lluest yn nodi anheddu hynafol ond efallai tymhorol yn wreiddiol, ond mae’n ddigon posibl eu bod i gyd yn fythynnod sgwatwyr yn dyddio o’r 18fed ganrif. Yn y 19eg ganrif amgaewyd rhannau o gyrion gorllewinol is yr ardal hon a’u rhannu’n gaeau mawr iawn, ond mae’n debyg i’r cymeriad agored cyffredinol gael ei gadw. Cofnodwyd rhywfaint o goetir collddail ar lethrau serth uwchlaw Nantyrarian yn y 19eg ganrif, a buwyd yn cloddio am fetel yma, er bod gweithgarwch cloddio wedi’i ganoli ar y dyffrynnoedd islaw gan mwyaf. Roedd Level Newydd yn weithrediad bach a weithiwyd yng nghanol y 19eg ganrif, a lleolir cyfleusterau yn gysylltiedig â mwynglawdd Bwlch Cwmerfyn o fewn yr ardal hon (Bick 1983, 44). Adeiladwyd cronfeydd dwr hefyd i wasanaethu’r mwyngloddiau ar lefelau is. Trosglwyddwyd yr ardal gyfan i’r Comisiwn Coedwigaeth a’u plannu â choed conifer. Gwnaed y gwaith plannu cynharaf o fewn y lleiniau hyn o goetir ac ar lethrau serth yn rhan ogleddol yr ardal. Yn ddiweddarach, yn ystod y 1960au, plannwyd coedwigoedd ar dir uwch.

MYNYDD MARCH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Gorchuddir yr ardal gyfan gan goedwigoedd a blannwyd. Mae’n cynnwys ucheldir tonnog, ac weithiau creigiog, sy’n codi i dros 390m lle y mae ar ei uchaf, ond sy’n disgyn i lai na 250m yn ei ben gorllewinol, ar lethrau is dyffrynnoedd. Ar gyfartaledd mae rhwng 300 a 400m o uchder. Cyn cael ei phlannu â choed cynhwysai bron y cyfan o’r ardal hon rostir agored, ond dengys ffynonellau map fod nifer o fythynnod i’w cael o fewn yr ardal, weithiau ag un neu ddau gae bach cyfagos. Mae o leiaf un bwthyn wedi goroesi - strwythur deulawr o gerrig wedi’u rendro yn yr arddull frodorol nodweddiadol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir tomenni a siafftiau, olion y diwydiant cloddio am fetel, yn rhan ddeheuol yr ardal hon, i’r de o Gwmerfyn. Mae dwy gronfa ddwr a adeiladwyd i wasanaethu’r diwydiant cloddio am fetel - sef Llyn Pendam a Llyn Blaenmelindwr - yn elfennau dramatig yn y dirwedd hanesyddol o fewn yr amgylchedd coediog hwn.

Yn ogystal â’r niferoedd mawr o olion cloddio yn y cofnod archeolegol, mae aneddiadau anghyfannedd yn awgrymu ardal weddol boblog tan y 19eg ganrif. Darperir dyfnder amser i’r dirwedd gan gaer yn dyddio o’r Oes Haearn a nifer o feini hirion yn dyddio o’r Oes Efydd, gan gynnwys pâr cerrig.

Mae i’r ardal goediog hon ffiniau pendant. I’r dwyrain, i’r gogledd, i’r de ac yn ffinio â rhan o’r ochr orllewinol ceir rhostir uchel, agored, a rhywfaint o dir wedi’i wella yn cyffinio â rhan o’r ochr ddwyreiniol. Yn cyffinio â llawer o’r ffin orllewinol ceir tir amgaeëdig a chyfannedd is.

MAP MYNYDD MARCH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221