![](../../shim.gif) |
![PENGROGWYNION A BRYNAFAN](webphotos/pengrogwynionbrynafan.jpg)
PENGROGWYNION A BRYNAFAN
CYFEIRNOD GRID: SN 718729
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 122.4
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Erbyn canol y 18fed ganrif
roedd fferm Pengrogwynion, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r ardal
hon, ym meddiant ystad Gogerddan, er bod ystad Trawscoed yn dal tir o’i
hamgylch. Nid yw’n sicr sut y daeth yr ystadau hyn i feddiant y
tir. Mae chwedl a adroddwyd gan Morgan (1977, 35) yn dweud sut y collodd
y teulu Vaughan o Drawscoed Bengrogwynion i ystad Gogerddan pan oeddynt
yn gamblo mewn tafarn ar ras rhwng dwy gleren. Dengys mapiau ystad o ddiwedd
y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 22;
LlGC Gogerddan 54 a 55) gaeau bach, afreolaidd eu siâp gerllaw fferm
Pengrogwynion a chaeau mwy o faint a lleiniau o dir agored ymhellach allan
- roedd y rhan fwyaf o’r tir yn agored. Dangosir bythynnod, weithiau
o fewn caeau neu badogau, wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal o gaeau
mawr a thir agored. Mae’r patrwm anheddu hwn o fythynnod gwasgaredig
yn ddiddorol. Mae bron yn sicr ei fod yn deillio o weithgarwch tresmasu
ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Byddai prif
graidd yr anheddiad ar uchder o dros 300m wedi’i leoli ar dir ymylol,
ac oherwydd hynny, ynghyd â’r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth
a gynigid gan fwyngloddiau plwm Grogwynion a Gwaithgoch gerllaw, roedd
y lleoliad hwn yn un delfrydol ar gyfer sgwatwyr. Dengys mapiau ystad
cyfoes fod y tir yr ymsefydlodd y sgwatwyr arno yn dir agored, ond ei
fod yn eiddo i ystad Trawscoed, neu ei fod yn cael ei hawlio ganddi o
leiaf, ac nad oedd yn dir comin o eiddo’r Goron. Erbyn arolwg degwm
1845 (map degwm a dyraniad Llanafan) roedd statws y sgwatwyr wedi’i
ffurfioli a thenantiaid ystad Trawscoed oeddynt bellach. Erbyn 1845 roedd
nifer y bythynnod wedi cynyddu, er nad oeddynt yn ymestyn dros gymaint
o dir â chynt, er enghraifft nodir cyn-fwthyn fel ‘Safle Ty’
ar y map. Dengys mapiau modern bod y caeau mwy o faint wedi’u hisrannu
gryn dipyn ers yr arolwg degwm. Ni chafodd mwynglawdd plwm Grogwynion,
a leolid yn yr ardal dirwedd hanesyddol i’r gogledd unrhyw effaith
uniongyrchol ar yr ardal hon.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal o dir tonnog a brigiadau creigiog uwchlaw ochr ogleddol dyffryn
Afon Ystwyth, sy’n amrywio o ran uchder o 240m i 350m. Tir pori
wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r rhan fwyaf o’r
tir, ond ceir lleiniau o dir pori garw, brwyn a phantiau mawnaidd. Tirwedd
ddi-goed ydyw. Un o elfennau nodedig y dirwedd yw’r patrwm anheddu
gwasgaredig yn cynnwys bythynnod a thai a thyddynnod. Mae’r adeiladau
hyn wedi’u hadeiladu o gerrig lleol (cerrig wedi’u rendro
â sment ac wedi’u paentio) a chanddynt doeau llechi. Ym Mrynafan
ceir clwstwr llac o fythynnod brodorol unllawr bach yn dyddio o’r
cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, ond mae’r mwyafrif wedi
cael eu moderneiddio a’u hymestyn ac nid yw eu ffurf wreiddiol yn
amlwg. Mae’n debyg bod anheddau tyddynnod yn dyddio o’r un
cyfnod, mae ganddynt ddau lawr a nodweddion brodorol cryf, yn hytrach
nag elfennau Sioraidd, sy’n fwy cyffredin yn y rhanbarth hwn ar
gyfer y cyfnod. Mae un o’r tai hyn yn rhestredig. Mae adeiladau
fferm wedi’u hadeiladu o gerrig yn fach, mae’n debyg eu bod
yn ddigon mawr ar gyfer cwpl o wartheg a storfa. Mae adeiladau amaethyddol
modern, lle y maent i’w cael, yn fach hefyd.
Mae’r patrwm caeau yn gymysg ac mae’n cynnwys caeau bach,
afreolaidd eu siâp a chaeau mwy o faint, mwy rheolaidd. Rhennir
y caeau gan gloddiau, a dim ond ar y llethrau is ym mhen dwyreiniol yr
ardal y ceir gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr gwael
ac mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu atynt. Mewn mannau eraill
ceir ffensys gwifren ar ben y cloddiau.
Lleolir Castell Grogwynion, sy’n enghraifft ardderchog o fryngaer
yn dyddio o’r Oes Haearn ym mhen dwyreiniol yr ardal gymeriad hon.
Mae’r unig archeoleg arall a gofnodwyd yn cynnwys capel/ysgol Sul,
a adeiladwyd ym 1905.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ar dair ochr a cheir llethr serth
ac ardal lle y buwyd yn cloddio am blwm i’r de, a choedwigoedd i’r
gorllewin ac i’r dwyrain. I’r gogledd mae’r ffin yn
llai clir.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |