Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

MAEN ARTHUR

MAEN ARTHUR

CYFEIRNOD GRID: SN 734730
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 104.2

Cefndir Hanesyddol

Nid oedd Maen Arthur yn un o faenorau Abaty Ystrad Fflur ac mae ei hanes cynnar yn anhysbys. Erbyn yr 16eg ganrif cyfeirid ato fel ‘demên hynafol’ neu ‘drefgordd’ (Macve 1998, 62). Ym 1586, fe’i prynwyd gan Morris ap Richard o Drawscoed. Mae chwedl a adroddwyd gan Morgan (1977, 34-35) yn dweud i Morris dwyllo’r merched a oedd yn berchen ar Faen Arthur i’w roi iddo. Mae prydles ddyddiedig 1654 yn ymwneud â Maen Arthur yn cofnodi bod gwartheg a defaid yn cael eu cadw a bod cnydau yn cael eu tyfu. Cofnodir melin yd a melin dwcio ym Maen Arthur o 1566, ac ym 1608 yn ogystal â’r felin yd nodir melin doddi (Macve 1998, 62-65). Nid oes unrhyw sôn am y felin yd ar ôl 1762; erbyn 1760 roedd ystad Trawscoed wedi penderfynu cau melinau llai o faint a chanolbwyntio gweithgarwch malu yn y Wenallt. Lleolir ffatri wlân yn dyddio o’r 19eg ganrif ar gyrion yr ardal hon ym Mhontrhydygroes.

Dengys mapiau degwm (Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn) batrwm caeau ac anheddu tebyg i’r un a welir heddiw, er bod rhai aneddiadau wedi’u colli.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal dirwedd fach hon ar lannau Nant Cell, nant fach sy’n disgyn yn serth ac sy’n llifo i’r de ac i’r de-ddwyrain. Mae glannau cwrs isaf y nant yn dra choediog, ond ar lefelau uwch mae’r ardal yn cynnwys llethrau esmwyth o dir pori wedi’i wella, er y ceir darnau o dir pori mwy garw a dyddodion mawn mewn pantiau. Mae llawr y dyffryn ym mhen de-ddwyreiniol pellaf yr ardal yn gorwedd ar uchder o 130m; mae llethrau uwch yn codi i uchder o 230m. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda, ond maent yn dueddol o fod wedi tyfu’n wyllt ac mewn rhai achosion maent wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. Lleolir olion dau fwynglawdd metel bach o fewn yr ardal dirwedd hon.

Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’n debyg bod y ffermdai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, ond fel arfer maent wedi’u moderneiddio. Mae gan ffermydd gwpl o resi o adeiladau allan cerrig ac adeiladau amaethyddol modern helaeth. Ceir ychydig o dai modern yn yr ardal hon yn ogystal â New Row, sef rhes o fythynnod gweithwyr pâr yn yr arddull frodorol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, y mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u moderneiddio.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn amrywio. Mae darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd, ond mae’r mwyafrif o’r safleoedd a gofnodwyd yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol ac maent yn cynnwys melinau, olion gweithgarwch cloddio am fetel a safleoedd capeli.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. Ceir coedwigoedd a choetir i’r de ac i’r dwyrain, tra ceir tir uwch yn cynnwys caeau mawr i’r gorllewin ac i’r gogledd.

MAP MAEN ARTHUR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221