![](../../shim.gif) |
![Coed Gruffydd](webphotos/coedgruffydd.jpg)
COED GRUFFYDD
CYFEIRNOD GRID: SN 676848
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 161.4
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Yn debyg
i’r mwyafrif o faenorau Ystrad Fflur, mae’n debyg erbyn diwedd
yr Oesoedd Canol, os nad ynghynt, fod y Dywarchen wedi’i rhannu’n
ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae’n
debyg i’r patrwm anheddu ddyddio o’r cyfnod hwn. Pan ddiddymwyd
yr abaty, rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex, a’u gwerthodd ym 1630
i ystad Trawscoed. Fodd bynnag ymddengys fod ystadau eraill wedi cymryd
tir ar brydles neu eu bod wedi prynu tir cyn i’r maenorau gael eu
rhoi i Iarll Essex, am fod gan ystadau Gogerddan a Court Grange, erbyn
y 18fed ganrif, fuddiannau yn yr ardal yn ogystal ag ystad Trawscoed.
Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed
345/46; LlGC Cyf 38, 10, 14) dirwedd nad yw’n annhebyg i’r
un a welir heddiw – ffermydd gwasgaredig, coetir, a chaeau bach,
afreolaidd eu siâp ar lawr y dyffryn ac ar lethrau isaf y dyffryn.
![Coed Gruffydd](webphotos/coedgruffydd2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau isaf
rhan uchaf dyffryn Afon Stewi, a leolir rhwng 100m a 250m o uchder. Nodweddir
y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae’r ffermdai wedi’u
hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio yn ôl pob tebyg o ganol y
19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr
ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau
yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y
naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan un
ffermdy sydd bellach yn anghyfannedd nodweddion brodorol cryf, ond mae’r
mwyafrif yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a’r elfennau Sioraidd
yw’r rhai amlycaf arnynt. Mae gan ffermydd adeiladau allan o gerrig
yn dyddio o’r 19eg ganrif. Dim ond un rhes sydd gan y ffermydd llai
o faint, ond mae gan y mwyafrif ddwy neu dair rhes, a rhesi helaeth o
adeiladau amaethyddol concrid a dur modern. Lleolir ffermydd mewn systemau
caeau o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau
ac arnynt wrychoedd neu gloddiau caregog ac arnynt wrychoedd. Erbyn hyn
mae’r gwrychoedd naill ai wedi dirywio neu maent wedi tyfu’n
wyllt ac wedi’u hesgeuluso. Mae rhai wedi diflannu’n llwyr.
Mae gan lawer o’r gwrychoedd goed nodedig yn tyfu ynddynt. Mae clystyrau
o goetir llydanddail a phlanhigfeydd o goed coniffer ynghyd â’r
coed nodedig yn y gwrychoedd yn rhoi golwg goediog iawn i’r dirwedd.
Cymysgedd o dir pori wedi’i wella a thir pori mwy garw ar rai llethrau
serth yw’r tir amaeth, a cheir tir brwynog a mawnaidd ar lawr y
dyffryn. Mae rhai mân olion yn gysylltiedig â’r diwydiant
cloddio metel – tomenni yn bennaf – ar ochr ddeheuol y dyffryn.
Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn darparu unrhyw
ddyfnder amser i’r dirwedd hon, ac mae’n cynnwys anheddiad
ôl-ganoloesol anghyfannedd ac olion y diwydiant cloddio metel.
Mae hon yn ardal dra nodedig a chanddi ffiniau pendant
iawn. I’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain, mae ucheldir
tenau ei boblogaeth a heb unrhyw goed a arferai fod yn agored yn gwrthgyferbynnu’n
gryf â’r ardal hon. I’r gorllewin mae’r ardal
hon yn ymdoddi i dir mwy agored a mwy poblog y dyffryn isaf.
![Map Coed Gruffydd](webphotos/coedgruffyddmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |