![TANYFFORDD](webphotos/tanyffordd.jpg)
TANYFFORDD
CYFEIRNOD GRID: SN 676774
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 101.6
Cefndir Hanesyddol
Fel gydag ardaloedd cyfagos, nid ymchwiliwyd i hanes
cynnar yr ardal hon, ond erbyn y 18fed ganrif roedd yn rhan o ystad Nanteos.
Dengys mapiau a luniwyd yn 1819 (LlGC Cyf 45; 19, 32, 33, 40) dirwedd
o ffermydd gwasgaredig, caeau bach afreolaidd eu siâp wrth ymyl
ffermdai, caeau mwy o faint ymhellach draw ac ychydig o dir agored. Erbyn
arolwg y degwm roedd rhai o’r caeau bach iawn wedi’u huno
ac roedd y caeau mwy o faint wedi’u his-rannu, gan arwain at dirwedd
sy’n debyg iawn i’r dirwedd heddiw. Ers yr arolwg degwm ffurfiwyd
anheddiad bach cnewyllol yn Pisgah.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal fach ymdonnog hon yn amrywio o 180m
i 240m o uchder ac mae’n cynnwys tir pori wedi’i wella yn
bennaf gyda choetir o goed collddail ar lethrau serth. Caeau bach afreolaidd
eu siâp sy’n nodweddu’r patrwm caeau, ac mae gwrthgloddiau
gyda gwrychoedd yn rhannu’r caeau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr
da neu weddol dda yn gyffredinol, ond ar dir uwch maent mewn cyflwr gwael
ac mae rhai wedi cael eu disodli gan wifren.
Mae ffordd yr A4120 yn rhedeg drwy’r ardal; arferai
fod yn ffordd dyrpeg a hon oedd y brif ffordd i’r dwyrain o ogledd
Ceredigion cyn i ffordd dyrpeg newydd gael ei hadeiladu - ffordd bresennol
yr A44 - yn 1829.
O ran y patrwm anheddu mae ffermydd gwasgaredig gydag
anheddiad hirfain bach yn Pisgah. Mae tai traddodiadol wedi’u hadeiladu
o gerrig, sydd naill ai wedi’u gadael yn eu cyflwr gwreiddiol, wedi’u
paentio neu wedi’u rendro â sment, gyda thoeau llechi. Mae’r
tai hyˆ n yn fach, â deulawr gan mwyaf, er bod o leiaf un bwthyn
unllawr, ac maent yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19fed ganrif. Maent yn
yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol- simneiau yn nhalcennau’r
tyˆ , drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r
llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae i’r rhan fwyaf o’r
tai nodweddion brodorol cryf yn hytrach nag elfennau Sioraidd mwy cain.
Yn Pisgah mae llawer o’r tai hyˆ n wedi cael eu hestyn a’u
moderneiddio, ac mae tai modern wedi cael eu codi yn y bylchau rhwng yr
anheddau hyˆ n. Mae dros hanner yr anheddiad hwn yn dai modern erbyn
hyn. Mae’r nifer fach o ffermydd yn yr ardal hon yn cynnwys ychydig
o resi o adeiladau allan bach o gerrig, ac adeiladau amaethyddol modern
bach.
Nid yw’r archeoleg gofnodedig yn rhoi dyfnder amser
i’r diwedd hon ac mae ond yn cynnwys adeiladau safadwy - capel a
bwthyn - chwarel ac enw lle.
Mae ffiniau gweddol bendant i’r ardal hon. I’r
gorllewin ac i’r dwyrain mae ardaloedd o gaeau mawr a ffensys gwifren
yn ffin iddynt bellach. I’r gogledd mae llethr goediog iawn dyffryn
Rheidiol ac i’r de mae tir amgaeëdig is Llanfihangel-y-Creuddyn.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |