Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

COETIR CWM RHEIDOL

COETIR CWM RHEIDOL

CYFEIRNOD GRID: SN 744783
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 712.2

Cefndir Hanesyddol

Yr ardal hon ar lethrau serth dyffryn Afon Rheidol yw’r unig lain o goetir hynafol yng ngogledd Ceredigion. Yn debyg i lawer o ardaloedd tirwedd ni wnaed unrhyw ymchwil i’w hanes cynnar. Erbyn y 18fed ganrif roedd bron y cyfan o’r ardal wedi dod i feddiant ystad Nanteos, ac roedd wedi’i rhannu rhwng nifer o ffermydd, gyda rhai daliadau yn perthyn i ystad Trawscoed. Mapiau ystad dyddiedig 1819 yw’r mapiau ar raddfa fawr cyntaf o’r coetir (LlGC Cyf 45, 16-19, 22, 27-28, 30, 35). Dengys y mapiau hyn fod coetir llydanddail yn gorchuddio bron yr un ardal ag y mae’n ei gorchuddio heddiw. Dengys yr arolwg degwm na newidiodd hynny yn ystod y 19eg ganrif. Wedi’u lleoli gerllaw’r coetiroedd neu ynddynt ceir olion diwydiant cloddio plwm. Credir bod pobl wedi bod yn cloddio yn yr ardal ers cryn amser (Pritchard 1984, 6), er mai’r 19eg ganrif oedd y prif gyfnod o weithgarwch. Mae’n amlwg bod y ffaith y cydfodolai clystyrau mawr o goetir a gweithgarwch cloddio am blwm - diwydiant a ddefnyddiai gryn dipyn o goed at wahanol ddibenion - yn yr ardal hon yn dangos y câi’r coetir ei reoli’n ofalus. Felly mae’n rhaid ei fod yn cael ei reoli gan yr ystadau mawr ac nid ffermwyr-denantiaid unigol. Yn ddiau roedd ystad Trawscoed yn rheoli ei choetiroedd yn ofalus o ddechrau’r 19eg ganrif (Edlin 1959, 19). Dyma bwnc y byddai rhagor o ymchwil yn taflu goleuni arno. Yn yr 20fed ganrif, llenwodd planhigfeydd o goed coniffer fannau agored ar y llethrau. Mae’r mwyafrif o olion y diwydiant cloddio plwm wedi’u dosbarthu i ardal gymeriad dirwedd hanesyddol llawr Cwm Rheidol, ac fe’u cynhwysir yn y disgrifiad ohoni, er y lleolir siafftiau a thomenni ysbwriel yn y coetir yn ogystal â rheilffordd Cwm Rheidol a adeiladwyd i wasanaethu’r mwyngloddiau ym 1902. Lleolir Temple, sy’n fwynglawdd pwysig, yn gyfan gwbl o fewn yr ardal hon. Buwyd yn ei weithio o 1876 i 1881.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llethrau gogleddol a deheuol serth dyffryn Afon Rheidol, sy’n codi o 50m ar lawr y dyffryn i dros 300m. Y llethrau mwyaf serth yw’r rhai gerllaw Pontarfynach. Er ei bod yn cynnwys coetir llydanddail hynafol gan mwyaf, ceir planhigfeydd o goed coniffer ac ychydig o bocedi o dir pori agored a thir pori garw. Ceir rhai cloddiau terfyn mewn mannau agored; nid yw’n hysbys a oes israniadau o fewn y coetir. Lleolir tomenni, siafftiau a lefelydd diwydiant cloddio plwm o fewn y coetir, ond yn Parson’s Bridge ym mhen gogleddol pellaf yr ardal y ceir olion mwy sylweddol a mwy amrywiol y cloddio a fu ar waith ym mwynglawdd Temple. Yma ceir lloriau trin, olion adeiladau a phwll olwyn enfawr (Bick 1983, 27). Mae Rheilffordd Cwm Rheidol, a agorodd ym 1902 i wasanaethu’r diwydiant cloddio, yn rhedeg ar hyd y llethr ddeheuol ac erbyn hyn mae’n gweithredu fel rheilffordd dwristiaeth, gan gludo pobl o Aberystwyth i Bontarfynach.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon wedi’i chyfyngu bron yn gyfan gwbl i olion y diwydiant cloddio metel. Mae’r olion hyn yn niferus ac yn amrywiol. Fel arall yr unig safle archeolegol arall o bwys yw bryngaer Tan-y-ffordd sy’n dyddio o’r Oes Haearn.

Nodir ffiniau’r ardal hon o goetir gan dir amaeth naill ai ar lawr dyffryn Afon Rheidol neu ar y bryniau oddi amgylch.

MAP COETIR CWM RHEIDOL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221