![MOELGOLOMEN](webphotos/moelgolomen.jpg)
MOELGOLOMEN
CYFEIRNOD GRID: SN 694875
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 76.2
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal dirwedd hanesyddol
fach hon. Mae’n debyg bod pobl yn cyfanheddu’r ardal hon ers
amser maith. Dengys y map ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal, sef
map degwm 1845 (plwyf Llanbadarnfawr), dirwedd o ffermydd a bythynnod
bach wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu
siâp. Dengys y map hwn pa mor boblog oedd yr ardal yn ystod y cyfnod
hwn, poblogaeth sydd wedi gostwng ers hynny. Buwyd yn gweithio mwynglawdd
metel bach yma o 1850 am nifer o ddegawdau, ond nid ymddengys ei fod yn
arbennig o lwyddiannus (Bick 1988, 34).
![MOELGOLOMEN](webphotos/moelgolomen2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Er ei bod yn fach mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol
ar wahân ac amrywiol. Mae wedi’i chanoli ar fferm Moelgolomen
– ty Sioraidd brodorol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a
diwedd y 19eg ganrif a chanddo adeiladau allan cerrig ac adeiladau amaethyddol
modern sylweddol. Mae gan ail fferm dy wedi’i foderneiddio a llai
o adeiladau allan. Mae nifer o ffermydd a bythynnod anghyfannedd ac adfeiliedig
yn tystio i’r ffaith bod yr ardal hon yn arfer bod yn fwy poblog.
Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir
gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Mae’r
gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda gerllaw’r fferm, ond maent wedi
tyfu’n wyllt ac wedi’u hesgeuluso mewn mannau eraill. Mae
ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at bob ffin. Mae rhai gwrychoedd
yn cynnwys coed nodedig, ac mae’r coed hyn, ynghyd â chlystyrau
bach o goed collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer, yn rhoi golwg goediog
i’r dirwedd. Tir pori wedi’i wella yw’r tir ffermio
a cheir pantiau brwynog a mawnaidd, a thir mwy garw a rhedyn ar rai lethrau
serth. Mae tomenni ysbwriel ac olion eraill ym mhen dwyreiniol yr ardal
yn nodi lleoliad mwynglawdd metel bach. Mae ffrydiau, a wasanaethai fwyngloddiau
ar lefelau is mewn ardaloedd cyfagos yn ôl pob tebyg, yn croesi’r
dirwedd hon.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwyngloddiau
mwyn ac elfennau ôl-Ganoloesol eraill yn y dirwedd. Darperir elfen
o ddyfnder amser gan ddau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd a darganfyddiadau
yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae’n anodd nodi’r ffin rhwng yr ardal hon
a’r rhai i’r de ac i’r gorllewin yn fanwl, am eu bod
yn rhannu llawer o nodweddion tebyg, er eu bod yn wahanol ar y cyfan.
Ni cheir y fath broblem i’r gogledd ac i’r dwyrain, lle y
mae tir agored yn cyffinio â’r ardal hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |