![TY’N-Y-CASTELL](webphotos/tynycastell.jpg)
TY’N-Y-CASTELL
CYFEIRNOD GRID: SN 725773
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 26.6
Cefndir Hanesyddol
Yn debyg i’r ardaloedd tirwedd oddi amgylch ni
wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon, ond erbyn y 18fed ganrif
roedd ym meddiant ystad Nanteos. Mae map o’r ystad dyddiedig 1819
(LlGC Cyf 45, 31), sy’n dangos Ty’n-y-castell a Faen Grach,
yn darlunio tirwedd o gaeau bach lle y ceir rhywfaint o gymysgu o ran
y tir. Mae’r darn olaf hwn o dystiolaeth yn ddiddorol ac mae’n
awgrymu i’r dirwedd ddatblygu o bosibl o system o gaeau isranedig
neu agored; system yr oedd y broses o’i chyfuno a’i hamgáu
yn tynnu at ei therfyn ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ar wahân
i gyfuno tiroedd cymysg, nid yw’r dirwedd hon wedi newid rhyw lawer
ers yr arolwg ar gyfer y map o’r ystad.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal dirwedd fach hon mewn pant cysgodol
ar ymyl llwyfandir ar uchder o tua 250m uwchlaw dyffryn Afon Rheidol.
Fe’i nodweddir gan system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp
o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd. Yn wahanol
i ardaloedd tirwedd cyfagos mae’r gwrychoedd yn yr ardal hon yn
gyfan, ac er eu bod wedi tyfu’n wyllt, gallant gadw stoc o hyd pan
ychwanegir ffensys gwifrau atynt. Mae’r gwrychoedd, ynghyd ag ambell
goeden wrych a chlystyrau bach o goetir collddail, yn rhoi golwg goediog
i’r dirwedd sy’n cyferbynnu ag ardaloedd i’r de.
Nodweddir y patrwm anheddu gan grðp eithaf dwys o
ffermydd a thai eraill. Cerrig wedi’u rendro â sment a thoeau
llechi yw’r deunyddiau adeiladu traddodiadol. Mae’r mwyafrif
o’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent yn
gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol
Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ,
drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r
drws ac un uwch ei ben. Mae rhai tai wedi’u moderneiddio a’u
hymestyn ar raddfa fawr neu maent wedi’u hailadeiladu. Ceir o leiaf
un tþ modern hefyd a bwthyn o haearn (tun) rhychog yn dyddio o ddechrau’r
20fed ganrif. Mae gan y ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan
wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern bach.
Lleolir chwarel gerrig segur yn yr ardal hon.
Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig, ac mae’n
wahanol iawn i’r ardaloedd i’r de, lle na cheir unrhyw goed
nac unrhyw wrychoedd ar y cyfan. I’r gogledd ceir llethr serth a
choediog iawn dyffryn Afon Rheidol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |