![](../../shim.gif) |
![PONTARFYNACH](webphotos/pontarfynach.jpg)
PONTARFYNACH
CYFEIRNOD GRID: SN 739767
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 33.25
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal dirwedd
fach ond cymhleth hon o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Ysbyty
Ystrad Fflur. Roedd y faenor, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf,
wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu. Lleolid
fferm o’r fath - Rhos-tyddyn - yn yr ardal hon (Morgan 1991). Pan
ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg i’r fferm hon ynghyd â
rhai eraill yn y faenor ddod i feddiant y teulu Herbert, ac yn y diwedd
daeth yn rhan o ystad Thomas Johnes, sef yr Hafod. Er bod aneddiadau megis
Fferm Rhos-tyddyn yn bodoli, mae’n debyg y byddai’r ardal
hon wedi cynnwys tir ymylol ynghyd â choetir ar y llethrau mwy serth
yn y Cyfnod Canoloesol, ac am ganrifoedd ar ôl hynny. Fodd bynnag,
mae’n gorwedd ar lwybr pwysig o’r gogledd i’r de, ac
yn cynnwys y man croesi dros Afon Mynach - sef Pontarfynach. Mae’n
bosibl bod rhan gynharach y bont sydd wedi goroesi yn dyddio o’r
Cyfnod Canoloesol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y llwybr ym 1770 pan ddaeth
Pontarfynach yn gyffordd i ddwy ffordd dyrpeg. O’r gorllewin rhedai
ffordd dyrpeg i fyny o Aberystwyth, drosodd i Gwmystwyth ac yn y pen draw
i Lundain. O Bontarfynach rhedai ail ffordd dyrpeg tua’r gogledd
i’r Amwythig (Lewis 1955, 41-45; Colyer, 1984, 176-182). Roedd ymweliad
â rhaeadrau Afon Mynach yn rhan hanfodol o daith unrhyw ymwelydd
ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif; sicrhaodd presenoldeb y
ffyrdd tyrpeg fod yr atyniadau hyn yn anodd i’w colli. Adeiladodd
Thomas Johnes dafarn i wasanaethu’r diwydiant ymwelwyr, ac ailadeiladwyd
yr adeilad sydd i’w weld heddiw - sef Gwesty’r Hafod Arms
- yn ddiweddarach yn arddull ‘Bwthyn Swistirol’ gan Ddug Newcastle
(Walker 1998, 304), un o berchenogion diweddarach ystad yr Hafod. Cofnodir
gardd yr Hafod Arms ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru. Mae’r
nifer enfawr o baentiadau, lluniau ac engrafiadau, wedi’u cyhoeddi
a heb eu cyhoeddi, yn tystio i boblogrwydd y rhaeadrau yn y cyfnod hwn.
Datblygodd ychydig o dai a bythynnod gerllaw’r gwesty, rhai ar gyfer
gweithwyr yn y diwydiant cloddio plwm efallai, ond fel y tystia’r
map degwm roedd yr anheddiad yn y 1840au yn dal i fod yn fach iawn. Adeiladwyd
Rheilffordd Cwm Rheidol, a agorodd ym 1902, â’i therfynfa
ddwyreiniol ym Mhontarfynach, i wasanaethu’r diwydiant cloddio plwm,
ond datblygodd yn llwybr ymwelwyr yn gyflym. Bu’r rheilffordd a’r
twf parhaus yn y diwydiant ymwelwyr yn fodd i Bontarfynach ddatblygu’n
bentref bach yn cynnwys siopau, ysgol ac ystadau tai ar raddfa fach. Ar
wahân i’r rheilffordd, cynhwysai diwydiannau yn yr ardal waith
toddi plwm, a gaeodd ym 1834 (Bick 1983, 30), a chynllun hydrodrydanol
bach yn dyddio o hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
![PONTARFYNACH](webphotos/pontarfynach2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys teras llethrog ar uchder
o 200m - 250m ar ochr ddeheuol Afon Rheidol a’r rhan honno o lethrau
Afonydd Rheidol a Mynach sy’n cynnwys rhaeadrau Afon Mynach. Mae
pentref Pontarfynach, a leolir ar y teras llethrog, yn anheddiad gwasgarog
sydd wedi’i ganoli ar adeilad trawiadol rhestredig Gwesty’r
Hafod Arms a phont restredig ‘Devil’s Bridge’ ei hun.
Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn y pentref yn dyddio o’r
cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu
o garreg wedi’i rendro â sment neu wedi’i gadael yn
foel. Mae gan y tai hyn ddau lawr ac maent yn arddull frodorol Sioraidd
y rhanbarth– sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt
canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws
ac un uwch ei ben. Mae gan rai ohonynt elfennau Sioraidd cryf yn hytrach
na nodweddion brodorol. Mae adeiladau hyn eraill yn cynnwys capeli yn
dyddio o’r 19eg ganrif, adeilad unllawr gorsaf rheilffordd Pontarfynach
sydd wedi’i adeiladu o haearn rhychog a nifer o adeiladau ‘dros
dro’ megis swyddfeydd tocynnau a chaffis a adeiladwyd i wasanaethu
diwydiant ymwelwyr canol yr 20fed ganrif. Maent yn elfennau nodedig ac
anarferol yn y dirwedd. Adeiladwyd tai a byngalos modern o fewn y pentref
ac ar ei gyrion.
Adeiladwyd y pentref dros dir a arferai fod yn amgaeëdig,
er ei fod o ansawdd gwael. Mae cloddiau ffin rhai o’r caeau hyn
i’w gweld mewn ardaloedd nas datblygwyd. Mae rhai ffiniau min ffordd,
yn arbennig gerllaw Gwesty’r Hafod Arms, yn cynnwys waliau wedi’u
plastro â morter neu waliau sych. Islaw’r bont restredig ceir
cyfres gymhleth o lwybrau a lonydd yn arwain at wahanol wylfannau ar gyfer
y rhaeadrau. Er nad ydynt wedi’u harchwilio’n fanwl, mae’n
bosibl bod rhai o’r llwybrau hyn yn dyddio o ddiwedd y 18fed neu
ddechrau’r 19eg ganrif.
Ar wahân i’r bont enwog, y gall ei strwythur
sy’n goroesi ddyddio o’r Cyfnod Canoloesol, mae’r archeoleg
a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sy’n sefyll neu olion diwydiannol.
I’r de mae’r ardal hon yn cwrdd â thir
agored ac i’r dwyrain anheddiad sgwatwyr Rhos-y-gell. I’r
gogledd ac i’r dwyrain ceir llethrau coediog serth dyffrynnoedd
Rheidol a Mynach.
![MAP PONTARFYNACH](webphotos/pontarfynachdevilsbridgemap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |