![RHOS RHYDD](webphotos/rhosrhydd.jpg)
RHOS RHYDD
CYFEIRNOD GRID: SN 697753
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 281.3
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar y llain fach
hon o dir pori uchel, ond erbyn y 18fed ganrif roedd wedi’i rhannu
rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd
y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed
Rhif 5, Cyfres IV, Cyf 1, 16; LlGC Cyf 45, 41 a 42; LlGC Nanteos 348 a
349) yr ardal fel ffridd agored a chanddi gaeau bach ar wahân ar
ei chyrion. Erbyn arolwg degwm 1847 (plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn) roedd
yr ardal wedi’i hisrannu’n nifer fach o gaeau mawr iawn, ond
mae ffotograffau a dynnwyd o’r awyr yn y 1940au yn cofnodi ei bod
wedi troi’n ffridd agored unwaith eto.
![RHOS RHYDD](webphotos/rhosrhydd2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal dirwedd hon ym mhen gorllewinol esgair
gron sy’n codi i 310m lle y mae ar ei huchaf. I’r gorllewin,
i’r gogledd ac i’r de mae’r tir yn disgyn yn serth i
ryw 100m, i mewn i ddyffrynnoedd Afonydd Newidion a Magwr. Wedi’u
cynnwys yn yr ardal hon mae copa a llethrau’r esgair. Nid oes unrhyw
aneddiadau cyfannedd. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r tir yn
dir pori wedi’i wella, er y ceir pocedi o dir pori garw a lleiniau
o redyn ar lethrau serth. Ffensys gwifren sy’n rhannu’r ardal
erbyn hyn. Mae rhai o’r ffensys hyn yn dilyn llinellau hen gloddiau
isel – gellir cymharu’r rhain â’r rhai a gofnodir
ar y map degwm – er bod ffensys eraill ar linellau newydd. Sefydlwyd
planhigfeydd canolig eu maint o goed coniffer ar lethrau serth sy’n
wynebu’r de, ac yn gymysg â’r planhigfeydd hyn ceir
clystyrau o hen goed caled sefydledig.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safle pwysig
bryngair Castell Garreg-wen yn dyddio o’r Oes Haearn, a chlostir
bach o gloddwaith nad yw ei ddyddiad yn hysbys. Mae safleoedd eraill yn
ddinod: corlan a chefnau amaethu; mae’r olaf yn arwydd o ffermio
tir âr ar draws yr ardal hon yn y cyfnod Canoloesol neu’r
cyfnod ôl-Ganoloesol.
I’r gogledd, i’r gorllewin ac i’r de
nodir ffiniau’r ardal hon yn glir gan dir amgaeëdig a chyfannedd.
I’r dwyrain mae’r ffin yn llai clir, ac mae’r ardal
hon yn tueddu i ymdoddi i’r un sy’n ffinio â hi.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |