![](../../shim.gif) |
![Cnwch Coch](webphotos/cnwchcoch.jpg)
CNWCH COCH
CYFEIRNOD GRID: SN 677751
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 79.4
Cefndir Hanesyddol
Roedd o leiaf ran o’r ardal hon, os nad y cyfan,
yn dir comin yn wreiddiol, y rhoddwyd yr hawl i’w bori i eiddo yn
perthyn i Ystadau Trawscoed, Cwmnewidion, Abertrinant a Nanteos (Morgan
1997, 209-13). Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf o’r
tir wedi’i rannu’n ddau hanner gan eiddo’r ystadau cyffiniol
– hanner i Drawscoed a hanner i Abertrinant a Nanteos. Dengys map
ystad dyddiedig 1781 (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5, Cyf IV Cyf
1, 16) dirwedd gymysg: mae’n cynnwys tir agored, tir amgaeëdig
a choetir a phrysgwydd. Ym mis Mai 1797 codwyd bwthyn yn anghyfreithlon
yng Nghnwch Coch, ond nid amgaewyd unrhyw dir. Erbyn 1814 roedd aneddiadau
sgwatwyr wedi ymddangos, ac roedd y deiliaid wedi rhannu’r hyn a
oedd ar ôl o’r tir comin rhyngddynt. Gorchmynnodd y Cyrnol
Vaughan i’r bythynnod gael eu dymchwel, ac un o’i brif wrthwynebiadau
oedd y gellid gweld y ‘Cytiau truenus yr olwg’ o ffenestri
Plasty Trawscoed (Morgan 1997, 211). Gofynnodd y sgwatwyr am gael talu
rhent. Yn y pen draw llwyddodd y sgwatwyr i gymryd meddiant o’r
tir yr oeddynt wedi’i hawlio, am fod arolwg degwm 1847 (Llanfihangel-y-Creuddyn)
yn cofnodi eu bod yn rhydd-ddeiliaid. Dengys y map degwm batrwm o gaeau
sy’n debyg i’r un a welir heddiw. Adeiladwyd dau gapel yma
yn y 19eg ganrif, un ym 1842 ac un ym 1865, ac ysgol yn ddiweddarach.
Mae’n dal i fod yn gymuned fyw.
![Cnwch Coch](webphotos/cnwchcoch2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal gymeriad fach hon ar lethr dyffryn
serth yn wynebu’r de sy’n codi i dir uwch tonnog i’r
gogledd. Mae’n amrywio o ran uchder o 90m i 260m. Erbyn hyn nodweddir
y dirwedd gan gaeau bach afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i
wella, a chlystyrau o goetir collddail a phlanhigfeydd modern o goedwigoedd.
Ymddengys i’r patrwm hwn ddatblygu pan sefydlwyd anheddiad sgwatwyr
Cnwch Coch ar ddiwedd y 18fed ganrif. Cyn y dyddiad hwn ymddengys i’r
llethrau serth a/neu’r tir cymharol uchel atal unrhyw ddefnydd amaethyddol
dwys yn y cyfnod hanesyddol; sy’n esbonio’r cyfeiriad at dir
comin yn y ffynonellau hanesyddol. Ffurfiwyd y caeau a grëwyd yn
y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gan ddefnyddio cloddiau ac arnynt
wrychoedd. Mae’r ffiniau hyn yn dal i fod mewn cyflwr da, ac mae
llawer o’r gwrychoedd yn cadw stoc, er bod rhai yn arbennig ar dir
uwch yn dechrau dirywio, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu
atynt neu maent wedi’u disodli.
Mae cymeriad cnewyllol llac Cnwch Coch yn annodweddiadol
o anheddiad sgwatwyr yng Ngheredigion – patrwm o fythynnod gwasgaredig
a geir fel arfer. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau wedi’u
hadeiladu o gerrig wedi’u rendro neu wedi’u paentio a cheir
llechi ar y toeau. Fodd bynnag, mae’n debyg bod y rendrad sment
ar rai adeiladau dros glom (pridd) yn hytrach na cherrig. Mae’n
debyg bod y mwyafrif o’r tai hþn yn dyddio o ganol y 19eg
ganrif hyd ei diwedd ac maent yn cynnwys nifer o enghreifftiau o fythynnod
brodorol unllawr bach (mae dau yn rhestredig, gweler hefyd Smith 1998,
Ffig. 94) yn ogystal â bythynnod/tai deulawr yn y traddodiad brodorol
Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol, ond sydd ag elfennau brodorol cryfach
nag a geir fel arfer. Lleolir bwthyn brics aml-liwiog anarferol (rhestredig)
yn y pentref. Mae nifer o’r tai/bythynnod yn dyddio o’r 19eg
ganrif wedi’u moderneiddio. Ceir tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd
yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif wedi’u gwasgaru ymhlith
yr anheddau hþn. Lleolir ysgol, rhai adeiladau fferm yn dyddio o’r
19eg ganrif a strwythurau amaethyddol modern mawr yn y pentref hefyd.
Saif capel a thþ yn dyddio o’r 19eg ganrif nepell o’r
pentref.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau
sydd wedi goroesi.
Nid yw ffiniau’r ardal dirwedd hon yn bendant iawn.
I’r de, i’r gorllewin ac i’r dwyrain ceir tir amgaeëdig
a ffermir yn fwy dwys. I’r gogledd ceir tir a arferai fod yn agored,
sydd bellach yn debyg i’r ardal hon.
![Map ardal Cnwch Coch](webphotos/cnwchcochmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |