![YSGUBORNEWYDD](webphotos/ysgubornewydd.jpg)
YSGUBORNEWYDD
CYFEIRNOD GRID: SN 667814
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 234.4
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Nid oes
unrhyw fapiau ystad sydd wedi goroesi i ddarparu gwybodaeth am ddatblygiad
y dirwedd. Dengys yr arolygon cynharaf – sef mapiau degwm y 1840au
– dirwedd sy’n debyg i’r un a welir heddiw, yn cynnwys
caeau eithaf rheolaidd eu siâp o faint canolig i fawr. Cymerir yn
ganiataol i’r patrwm caeau hwn ddatblygu yn y 18fed ganrif, a bod
yr ardal yn cynnwys ffridd neu rostir agored cyn hynny. Os yw hyn yn gywir,
mae’n debyg i’r tir gael ei hawlio gan y Goron, ac iddo gael
ei amgáu’n anghyfreithlon efallai gan ffermwyr neu ystadau
unigol. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Nid yw’r dirwedd wedi
newid fawr ddim yn ystod y 150 o flynyddoedd diwethaf.
![YSGUBORNEWYDD](webphotos/ysgubornewydd2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys esgeiriau a bryniau
tonnog, crwn a leolir ar uchder o rhwng 150m a 210m. Tir pori wedi’i
wella a geir gan mwyaf, er bod pantiau o dir mwy garw, brwynog, a sefydlwyd
rhai planhigfeydd o goed coniffer bach. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd.
Rhannwyd yr ardal gyfan yn system gaeau o gaeau eithaf rheolaidd eu siâp
o faint canolig i fawr. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd.
Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr eithaf gwael, ac mae llawer ohonynt
wedi tyfu’n wyllt neu maent wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys
gwifrau wedi’u hychwanegu at y cloddiau a’r gwrychoedd sy’n
rhannu’r caeau.
Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon,
fodd bynnag, mae’r archeoleg sy’n bodoli yn rhoi elfen dyfnder
amser i’r dirwedd. Mae caer yn dyddio o’r Oes Haearn –
sef Gwersyll Capel Bangor – yn safle o bwys. Ar ben hynny mae crug
crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a safle melin ôl-Ganoloesol.
Mae’r ardal hon wedi’i diffinio i’r
gogledd ac i’r de gan dir cyfannedd is a amgaewyd ymhell cyn yr
ardal hon. I’r dwyrain ceir tir uwch a arferai fod yn agored, ac
i’r de-ddwyrain mae coetir.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |