![Llanafan](webphotos/llanafan.jpg)
LLANAFAN
CYFEIRNOD GRID: SN 691729
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35.7
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys Eglwys Sant Afan. Mae’r
cysegriad yn awgrymu i’r eglwys gael ei sefydlu cyn y goresgyniad
Eingl-Normanaidd, er nad oedd yn eglwys blwyf yn ystod y Cyfnod Canoloesol,
ond yn gapeliaeth yn perthyn i blwyf Llanfihangel-y-Creuddyn. Fe’i
gwnaed yn blwyf ym 1833. Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl ym 1833
(Ludlow 1998). Gorweddai o leiaf ran o’r ardal hon o fewn demên
Trawscoed, ac mae’n debyg bod cysylltiad agos rhwng hanes pentref
Llanafan a hanes ystad Trawscoed, a’i fod yn dyddio o’r cyfnod
ôl-Ganoloesol felly. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes
y pentref, ond ar fapiau o’r ystad yn dyddio o ganol a diwedd y
18fed ganrif (LlGC 7188 LlGC Trawscoed Cyf 1,43) mae’n cynnwys nifer
o anheddau wedi’u gwasgaru ar hyd ffordd wedi’u gosod mewn
tirwedd o gaeau bach, rheolaidd eu siâp. Dangosir darlun tebyg ar
fap degwm 1845. Nodweddir patrwm cyffredinol y pentref yn y cyfnod hwn
gan anheddiad sgwatwyr a oedd wedi datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif
a dechrau’r 19eg ganrif, ond heb ragor o ymchwil ni ellir cadarnhau
hyn ac mae’n bosibl iddo gael ei sefydlu gan yr ystad. Mae ail hanner
y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif wedi gweld rhagor o waith datblygu,
a llenwyd y mwyafrif o’r bylchau rhwng yr anheddau hyn a oedd yn
bell oddi wrth ei gilydd gan anheddau unigol neu ddatblygiadau ar raddfa
fach.
![Llanafan](webphotos/llanafan2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir pentref Llanafan yn nyffryn cul, llethrog Nant
Pant-y-Haidd ar uchder o tua 100m. Pentref llinellol o dai ydyw ac mae’n
cynnwys eglwys ystad restredig yn dyddio o’r 19eg ganrif, ysgol
a thy athro, a neuadd bentref heb fod ymhell i ffwrdd. Saif anheddau hyn
y pentref llinellol wedi’u gwasgaru ar y naill ochr i ffordd. Tai
gweithwyr ydynt yn bennaf – prin iawn yw’r dystiolaeth o adeiladau
allan amaethyddol. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd fel arfer
wedi’u rendro â sment, ac mae ganddynt doeau llechi. Maent
yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent
yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth, ond fel arfer mae
ganddynt nodweddion brodorol cryf. Ceir enghreifftiau o derasau byr, tai
pâr a thai ar wahân, ac enghreifftiau o dai/bythynnod un llawr
a hanner a dau lawr. Moderneiddiwyd ac ymestynnwyd llawer. Erbyn hyn mae
tai yn dyddio o ganol a diwedd yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif
yn llenwi’r bylchau rhwng y tai hyn, gan greu pentref llinellol
go iawn a chanddo nodweddion cryf yn perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif.
Tua phen dwyreiniol yr ardal yn rhan uchaf y dyffryn
mae’r pentref yn ymdoddi i dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig
mewn system gaeau o gaeau bach, gweddol reolaidd eu siâp. Rhennir
y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd, er bod y gwrychoedd wedi diflannu
erbyn hyn neu maent wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifren yn darparu
ffiniau cadw stoc. Tir pori wedi’i wella neu dir pori garw yw’r
tir ffermio.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys Eglwys Sant
Afan, annedd ôl-Ganoloesol a chwarel ôl-Ganoloesol.
I’r de-ddwyrain ac i’r gogledd-orllewin nodir
ffiniau’r ardal hon yn glir gan goedwigoedd neu dir agored, ond
i’r de mae ffin yr ardal hon yn llai pendant ac mae’n tueddu
i ymdoddi i dir ffermio amgaeëdig cyfagos.
![Llanafan map](webphotos/llanafanmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |