![](../../shim.gif) |
![LLETY SYNOD A FRONGOCH](webphotos/lletysynodfrongoch.jpg)
LLETY SYNOD A FRONGOCH
CYFEIRNOD GRID: SN 722745
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 761.3
Cefndir Hanesyddol
Yn ystod yr Oesoedd Tywyll bu Eglwys Llantrisant â’i
thair heneb Gristnogol gynnar yn ganolbwynt addoli i Gristnogion. Fodd
bynnag, ni ddatblygodd yn eglwys blwyf, ac erbyn dechrau’r 19eg
ganrif roedd wedi’i hesgeuluso. Mae’r adeilad presennol yn
dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Erbyn hynny roedd canolbwynt yr anheddiad
wedi symud i Drisant lle yr adeiladwyd capeli ac ysgol.
Arferai rhan o gornel dde-ddwyreiniol yr ardal hon orwedd
o fewn maenor ucheldirol Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur,
am fod dogfen a luniwyd ym 1545-50 pan ddiddymwyd yr abaty yn cofnodi
fferm Dol-y-gors (Morgan 1991). Ymddengys erbyn y dyddiad hwn fod y faenor
wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u
ffermio yn unigol ac yn fasnachol. Daeth y teulu Herbert i feddiant Dol-y-gors,
ac yn y pen draw daeth yn rhan o ystad yr Hafod. Yn yr 16eg ganrif roedd
Morris ap Richard yn brysur yn caffael ffermydd a thir i’w hychwanegu
at ei ystad gychwynnol yn Nhrawscoed. Ymhlith yr eiddo a brynwyd ganddo
yn yr ardal hon roedd ffermydd Llety Synod a Llwynwnwch, a gyffiniai â
Frongoch (Morgan 1997, 35). Mae’n rhaid bod Morris neu ei ddisgynyddion
wedi prynu rhagor o eiddo am fod rhan helaeth o’r ardal hon wedi’i
hymgorffori yn ystad Trawscoed erbyn diwedd y 18fed ganrif. Mae mapiau
o ystad Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5,
Cyfres IV, Cyf 1; 22 a 24), sy’n dangos Frongoch, Llety Synod, Blaen-pentre,
Cerrig-yr-wyn, Ty’n bwlch a Llwynwnwch, yn darlunio tirwedd o ffermydd
anghysbell, gwasgaredig a gerllaw’r ffermydd hyn dangosir un neu
ddau gae bach yng nghanol ychydig o gaeau gwair mawr, rhostir agored a
mawnog. Nid oedd y sefyllfa wedi newid rhyw lawer iawn pan ymgymerwyd
â’r arolwg degwm ym 1847 (plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn).
Mae gweithgarwch cloddio am blwm a sinc, wedi’i
ganoli ar Frongoch, yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol. Hyd at y
1790au bu cloddio yma ar raddfa fach, ond ehangodd y gweithrediad yn gyflym
wedi’i hybu gan John Probert (Bick 1986, 7), ond ni wireddodd ei
holl botensial tan 1834 pan ffurfiwyd cwmni Mwyngloddio Lisburne (Bick,
1974, 13). Adeiladwyd ty injan a gwnaed gwelliannau eraill. Ym 1899 aeth
cwmni o wlad Belg yn gyfrifol am redeg y mwynglawdd a gwnaeth ragor o
welliannau, ond erbyn 1910 roedd y gwaith cloddio bron wedi dod i ben.
Mae Bick (1974, 16) yn nodi bod Frongoch yn cynnwys ‘yn ôl
pob tebyg y casgliad gorau o adeiladau mwynglawdd yn dyddio o’r
19eg ganrif yng Nghymru.’
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal fawr a chymhleth hon yn cynnwys llwyfandir
tonnog yn amrywio o ran uchder o 220m i 340m, a phantiau gwlyb ac ambell
frigiad a chopa creigiog. Mae bron y cyfan o’r tir yn cynnwys tir
pori wedi’i wella, er y ceir darnau o dir mawnaidd a brwynog ar
loriau dyffrynnoedd a thir pori mwy garw ar rai llethrau serth. Ar wahân
i blanhigfeydd o goed coniffer a chlystyrau bach o goetir llydanddail,
tirwedd ddi-goed ydyw i bob pwrpas. Mae aneddiadau yn cynnwys ffermydd
gwasgaredig, a chlwstwr bach o adeiladau yn Nhrisant sy’n cynnwys
capel rhestredig yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Cerrig lleol yw’r
deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi o ogledd Cymru) wedi’u
defnyddio ar gyfer y toeau. Fel arfer mae’r waliau wedi’u
rendro â sment ar dai, ond ceir rhai enghreifftiau lle y mae’r
waliau wedi’u gadael yn foel, ac maent bob amser yn foel ar adeiladau
fferm traddodiadol. Mae’r ffermdai/tai hyn i gyd bron yn dyddio
o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, maent yn gymharol
fach ac mae ganddynt ddau lawr neu un llawr a hanner. Maent wedi’u
hadeiladu yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, a chanddynt simneiau
yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill
ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Fodd bynnag, ceir
nodweddion brodorol amlycach, megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai
sy’n fwy o faint na’r llall, ond cofnodir o leiaf un ty ag
elfennau Sioraidd cryf. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig
fel arfer wedi’u cyfyngu i ddwy neu dair rhes, sydd weithiau wedi’u
gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iard. Nid yw nifer o ffermydd yn gweithio
bellach, a cheir nifer o ffermydd anghyfannedd. Mae gan ffermydd gweithredol
resi mawr o adeiladau amaethyddol dur a choncrid, sydd yn aml yn elfennau
amlwg yn y dirwedd.
Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau mawr, afreolaidd eu
siâp. Ar un adeg roeddynt wedi’u rhannu gan gloddiau, sydd
bellach yn ddiangen neu â ffensys gwifren wedi’u hychwanegu
atynt. Yn agosach at ffermydd mae’r caeau yn llai o faint, ond maent
yn dal i fod yn afreolaidd eu siâp, a cheir ambell wrych ar y cloddiau.
Nid yw’r cloddiau mewn cyflwr da ac anaml y gallant gadw stoc –
mae gwifren wedi’u hychwanegu at bob un ohonynt. Mae olion ffisegol
gweithgarwch cloddio yn amlwg iawn ac maent yn elfen bwysig yn y dirwedd
hanesyddol. Mae adeiladau mwynglawdd Frongoch o bwys cenedlaethol, er
eu bod mewn cyflwr gwael. Erbyn hyn defnyddir y safle fel iard goed.
Yn gysylltiedig â’r mwynglawdd y mae elfennau
tirwedd pellach megis tomenni ysbwriel, cronfeydd dwr a dyfrffosydd. Mae’r
cronfeydd dwr yn arbennig yn elfennau dramatig o’r dirwedd.
Dominyddir archaeoleg gofnodedig yr ardal hon gan y diwydiant
cloddio metel, a ffermydd a bythynnod anghyfannedd. Mae crug crwn o’r
Oes Efydd ac aelwyd neu domen losg - safle anheddiad posibl - sy’n
dyddio o gyfnod tebyg yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. Pwysleisir
hyn gan dair cofeb Gristnogol gynnar yn Llantrisant, a’r enw Llety
Synod, a allai ddynodi clafdy Canoloesol.
Elfen mwyngloddio’r Ardal Tirwedd Hanesyddol hon
sy’n ei diffinio rhag ardaloedd eraill cyfagos. Dim ond i’r
de orllewin y ceir nodweddion mwyngloddio i’r fath raddau. I’r
gogledd ceir ardal fwy anheddol, i’r gorllewin ceir tir uwch a arferai
fod yn agored, i’r de a’r dwyrain ceir aneddiadau sgwatwyr,
ac i’r de-ddwyrain ceir tir amgaeedig is.
![LLETY SYNOD A FRONGOCH](webphotos/lletysynodandfrongochmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |