Cartref > Tirweddau Hanesyddol >


Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Aberdaugleddau

 

Hwlffordd Uzmaston a Boulston Hillblock Pictwn a Slebets Toch Canaston a Choedwig Mynwar Mynwar Martlewy Lawrenni Cei Cresswell West Wiliamson and Carew Newton Maes Awyr Caeriw Airfield Cocheston Doc Penfro Penfro Caeriw Bryncwtyn a  Nash Hundleton and Maiden Wells Gorsaf Bwer Penfro Olew Texaco Angle Maes Awyr Angle Rhoscrowther Freystrop Little Milford Hook Llangwm Benton Houghton Rosemarket Neyland Waterston Honeyborough Olew Gulf Aberdaugleddau Scoveston a  Burton Liddeston Olew Esso Olew Amoco Herbranston Sandy Haven Llecyn Arfordirol Monkhaven i Gelliswick Llanismel Pont Mullock Hoaten-Hasguard Dale Maes Awyr Dale Penrhyn Santes Anne Llecyn Arfordirol Dale i Sain Ffriadd

 

Crynodeb yw hwn, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth


Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achossifil. Rhif y drwydded: GD272221

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol yw Penfro sy'n cynnwys Castell Penfro, gyda'r hen dref unionlin wedi ei hamgylchynu gan furiau canoloesol y dref, a thai cyfoes a datblygiadau eraill ar gyrion y dref.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Doc Penfro yn cynnwys y dociau morwrol o'r 19eg ganrif a'r dref o'r 19eg ganrif sydd wedi ei chynllunio ar ffurf grid. Mae llawer o dai gweithwyr a thai trefol o'r 19eg ganrif i'w gweld yn yr ardal hon, gyda thai a datblygiadau diwydiannol ysgafn o'r 20fed ganrif ar y cyrion.

Tref o ddiwedd y 18fed ganrif wedi ei chynllunio ar ffurf grid yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Aberdaugleddau gyda dociau yn dyddio o ddiwedd o 19eg ganrif. Mae ystadau tai mawr yr 20fed ganrif a datblygiadau diwydiannol ysgafn yn amgylchynu canol hyn y dref.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol fach yw Neyland sydd wedi ei lleoli yn yr hen borthladd a'r orsaf rheilffordd. Ymledodd y dref o'r canolbwynt hwn yn ystod y 19eg ganrif i gynnwys cyn bentref Great Honeyborough. Mae tai a datblygiadau diwydiannol ysgafn o ddiwedd yr 20fed ganrif i'w cael ar gyrion y dref.

Hwlffordd yw'r ardal drefol fwyaf yn Sir Benfro. Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys canol hanesyddol y dref, gyda chastell, eglwysi canoloesol, tai gwych o'r 18fed a'r 19eg ganrif a'r ganolfan fasnachol, yn ogystal â datblygiadau cyfoes yn y dref ei hun ac ar ei chyrion.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Purfa Olew Gulf yn cynnwys strwythur anferth yr adeilad diwydiannol hwn o ddiwedd yr 20fed ganrif gan gynnwys rheilffyrdd a glanfeydd.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Purfa Olew Esso yn cynnwys gweddillion datgymaledig purfa olew o ddiwedd yr 20fed ganrif. Y cyfan sy'n weddill yw cloddwaith sy'n nodi safleoedd y gwahanol weithfeydd ac ychydig o adeiladau atodol. Mae caer South Hook, sef strwythur amddiffynnol mawr o'r 19eg ganrif wedi ei chynnwys yn yr ardal hon.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Purfa Olew Amoco yn cynnwys adeiladau diwydiannol anferth.

Safle gorsaf bwer o ddiwedd yr 20fed ganrif yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Gorsaf Bwer Penfro. Mae'r orsaf wedi cael ei datgomisiynu bellach ac mae'r adeilad anferth yn cael ei ddymchwel.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Purfa Olew Texaco yn cynnwys adeiladau diwydiannol anferth o ddiwedd yr 20fed ganrif, hen orsaf bwmpio olew BP sydd wedi ei lleoli yng Nghaer Popton, strwythur amddiffynnol o'r 19eg ganrif, a llecyn byr o glogwyni môr.

Lleolir Maes Awyr Dale mewn safle amlwg ar ben clogwyni uchel yr arfordir. Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol yn cynnwys yr hen leiniau glanio a rhai o'r adeiladau sy'n dyddio o faes awyr yr Ail Ryfel Byd. Mae'r tir rhwng y lleiniau glanio wedi cael ei adfer yn dir pori.

Llecyn hir o dir wedi ei leoli ar waelod dyffryn yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pont Mullock. Nid oes unrhyw aneddiadau yma dim ond llaid llanw, morfeydd heli a chorsydd. Mae ffordd yn croesi'r ardal hon dros Bont hanesyddol Mullock.

Penrhyn yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penrhyn y Santes Ann sy'n estyn allan ar draws aber dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae'n wastadedd o dir fferm cyfoethog, garw a gaiff ei nodweddu gan ffermydd gwasgarog â chaeau mawr rheolaidd. Cynhwysir goleudai a thai gwasanaethau a dwy gaer o'r 19eg ganrif sy'n sefyll ar ben clogwyn - sef Dale a West Blockhouse.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dale wedi ei chanoli o amgylch pentref bach Dale, ond mae'n cynnwys rhai ffermydd gwasgaredig o fewn caeau bach rheolaidd. Mae pentref Dale yn cynnwys sawl adeilad gwych o ddechrau'r 19eg ganrif sy'n glwstwr o amgylch glan y môr. Lleolir y tai o'r 20fed ganrif ar gyrion y pentref, a datblygwyd meysydd parcio ceir a chyfleusterau eraill er mwyn gwasanaethu gweithgareddau chwaraeon dwr.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol fawr iawn yw Hoaten - Hasguard sydd â sawl fferm sylweddol o fewn y dirwedd arw sydd heb yr un goeden fwy neu lai, a chaeau mawr rheolaidd. Mae llawer o'r ffermdai wedi eu hadeiladu yn yr arddull Sioraidd, ond mae rhai ohonynt yn dangos arwyddion o gyfnodau adeiladu cynharach.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llanismel wedi ei chanoli ar bentref Llanismel sy'n glwstwr bras o adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 19eg a'r 20fed ganrif. Roedd caeau hirgul caeëdig - a arferai fod yn gaeau agored ? yn amgylchynu'r pentref. Cynhwysir hefyd eglwys y plwyf, sy'n sefyll ar ei phen ei hun mewn dyffryn coediog, ynghyd â nodweddion gerddi o'r 19eg ganrif.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Sandy Haven yn rhuban o laid llanw, morfeydd heli a chorsydd gyda choed collddail ar lethrau serth y cwm. Ni cheir unrhyw aneddiadau.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol yw Scoveston a Burton yn bennaf sy'n cynnwys sawl plasty, llawer o ffermydd mawr, a ffermydd llai wedi eu gwasgaru ac anheddiad cyfoes gwasgaredig. Burton yw'r unig bentref. Mae'r caeau yn yr ardal hon yn fawr ac wedi eu gwahanu gan gloddiau a gwrychoedd. Nid yw coetir yn rhan amlwg o’r dirwedd.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach yw Houghton wedi ei chanoli ar y pentrefan bach o’r un enw ac wedi ei amgylchynu gan system o lain-gaeau - sef hen gaeau agored y gymuned. Clwstwr rhydd o dai o'r 19eg a'r 20fed ganrif yw tai'r pentrefan.

Esblygodd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hook o'r diwydiant glo sydd bellach wedi diflannu. Mae'n cynnwys sawl pentrefan bach o'r 19eg ganrif wedi eu cysylltu â datblygiadau unionlin o ddiwedd yr 20fed ganrif. Caiff tri chei glo bach o'r gorffennol eu cynnwys hefyd. Caeau bach afreolaidd yw'r dirwedd amaethyddol.

Arferai Little Milford fod yn borthladd pwysig i allforio glo, ond mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys coedlannau yn bennaf ar lethrau serth y mynyddoedd a llaid a morfeydd heli ar gyrion y ddyfrffordd. Ychydig iawn o olion sydd i ddangos ei phwysigrwydd diwydiannol blaenorol.

Mae Freystrop yn cynnwys pentrefan Freystrop Isaf, eglwys y plwyf sydd ar wahân, a llain-gaeau - hen gaeau agored y gymuned. Mae hon yn ei hanfod yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol o ffermydd gwasgaredig, caeau, ffiniau o wrychoedd ar gloddiau a choetir.

Mae Uzmaston a Boulston yn cynnwys rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau ond yn bennaf yn cynnwys ffermydd gwasgaredig o fewn tirwedd o gaeau mawr rheolaidd eu ffurf. Mae'r ffermydd yn amrywio mewn maint o'r plastai mawr gyda ffermydd cartref i ffermdai a thyddynnod brodorol o'r 19eg ganrif.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach iawn ond hanesyddol nodweddiadol yw Hillblock sy'n seiliedig ar bentrefan amaethyddol o dai o'r 19eg ganrif ac wedi ei amgylchynu gan system o lain-gaeau amgaeëdig ond diraddedig - sef caeau agored blaenorol y gymuned.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol yn seiliedig ar ystad yw Pictwn a Slebets. Mae'n cynnwys plastai, gerddi, parciau a rhannau eraill o'r ddwy ystad fwyaf yn ne-orllewin Cymru; Pictwn a Slebets. Mae ansawdd 'parc' i'r holl ardal.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Canaston a Choedwig Mynwar yn cynnwys coetir, sydd bellach yn blanhigfa gonifferaidd, er mai collddail ydoedd yn y gorffennol. Caiff y felin Sioraidd yn Y Pwll Du ei chynnwys yn yr ardal hon.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig sydd wedi eu gosod o fewn tirwedd o gaeau mawr ar ffurf reolaidd a choetir yw Toch.

Mae Mynwar yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig, caeau mawr sydd wedi eu gwahanu gan wrychoedd ar gloddiau a choetir. Nid oes pentrefi yn yr ardal, a cheir yr unig glwstwr o anheddau ym Mynwar lle mae eglwys y plwyf sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol wedi ei lleoli.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Martletwy yn cynnwys nifer fach a gweddol glos o dai o'r 19eg a'r 20fed ganrif o fewn tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig, caeau bach afreolaidd a llawer o goetir. Mae hen geiau a safleoedd eraill yn dystiolaeth o'r pwysigrwydd a roddwyd i'r diwydiant glo yn yr ardal hon yn y gorffennol.

Mae pentref Lawrenni yn cynnwys grwp o dai o'r 19eg ganrif yn bennaf yn agos at eglwys y plwyf sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol. Fodd bynnag, prif gymeriad yr ardal hon yw amaethyddiaeth, gydag elfen gref o ystad neu 'barcdir' yn deillio o dí Lawrenni sydd bellach wedi ei ddymchwel. Mae cei mawr yn dystiolaeth i bwysigrwydd y diwydiant glo yn y gorffennol.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ddiwydiannol flaenorol yw Cei Cresswell gydag elfen gref o amaethyddiaeth. Mae'r tai o'r 19eg ganrif sydd ar y cei, y cei ei hun a'r nifer fach o fythynnod clos yn dystiolaeth o ddiwydiant blaenorol. Cynrychiolir amaethyddiaeth gan ffermydd bach gwasgaredig a chaeau bach. Ceir coetir trwchus ar lethrau serth y dyffryn.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol yw West Williamston a Threnewydd Caeriw sy'n cynnwys dau bentrefan a chaeau hirgul caeëdig - sef caeau agored blaenorol y ddwy gymuned. Gwrychoedd ar gloddiau sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r ffiniau, ond mae waliau cerrig priddgalch a waliau cerrig sych i'w cael yma hefyd. Mae chwareli gwag, rhai ohonynt â cheiau yn dystiolaeth o bwysigrwydd y diwydiant cloddio calchfaen yn y gorffennol.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maes Awyr Caeriw yn cynnwys yr hen leiniau glanio ac ychydig o adeiladau sydd wedi goroesi o hen faes awyr milwrol yr Ail Ryfel Byd.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol fawr yw Bryncwtyn Caeriw a Nash sy'n cynnwys sawl plasty o fewn parcdir a gerddi, llawer o ffermydd mawr a nifer fach o ffermydd llai. Mae'r caeau yn fawr ac wedi eu rhannu gan wrychoedd ar gloddiau. Mae coetir yn rhan annatod o rai rhannau o’r dirwedd.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach yw Cosheston sydd wedi ei chanoli ar bentref unionlin Cosheston. Mae'r rhan fwyaf o'r tai yn y pentref yn dyddio o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Mae llain-gaeau cul yn amgylchynu'r pentref - sef caeau agored caeëdig y gymuned.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hundleton a Maiden Wells yn cynnwys y ddau bentref dan sylw sydd wedi eu lleoli o fewn tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau gweddol fach. Mae tai cyfoes yn y pentrefi yn amgylchynu adeiladau hyn sy'n dyddio'n bennaf o'r 19eg ganrif.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol yw Rhoscrowdder a gaiff ei nodweddu gan ffermydd gwasgaredig mawr â chaeau rheolaidd eu siap. Y math arferol o ffiniau yw gwrychoedd ar gloddiau, ond tua'r rhan orllewinol agored o'r ardal, ceir waliau cerrig priddgalch. Ceir amrywiaeth mawr yn y mathau o adeiladau domestig, gan amrywio o ran dyddiad hefyd rhwng yr Oesoedd Canol a'r 20fed ganrif.

Mae Angle yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol unigryw a chymhleth. Mae wedi ei chanoli ar bentref unionlin Angle, sy'n cynnwys enghreifftiau o bensaernïaeth ddomestig o'r Oesoedd Canol, y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae ardal yr harbwr, llain-gaeau - sef caeau agored canoloesol y gymuned - caer o'r 19eg ganrif a llethrau arfordirol coediog serth wedi eu cynnwys hefyd.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maes Awyr Angle yn cynnwys lleoliad maes awyr o'r Ail Ryfel Byd sydd wedi cael ei adfer yn diroedd ffermio.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach yw Liddeston wedi ei lleoli ar gyrion tref Aberdaugleddau ac yn cynnwys ffermydd a chaeau gwasgaredig, cwrs golff a safleoedd diwydiannol. Er mai ardal amaethyddol ydyw yn bennaf, mae sawl elfen o’r dirwedd hanesyddol yn ddiraddedig oherwydd eu bod mor agos at y dref.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol yw Herbrandston sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau mawr rheolaidd. Mae'r ffermydd a'r ffermdai ar y cyfan yn fawr, er bod rhai enghreifftiau llai ar gael. Yr unig anheddiad clos yw pentref Herbrandston, sydd â chnewyllyn o dai o'r 19eg ganrif wedi eu hamgylchynu gan ddatblygiadau cyfoes.

Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Benton ar lan dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae'n cynnwys coedlannau collddail yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys blaen traeth creigiog a lleidiog, pwyntiau bach o'r gorffennol ar gyfer llongau/fferiau a nifer fach o anheddau o'r 19eg ganrif.

Mae Llangwm yn bentref sydd wedi datblygu o amgylch un pen o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Er ei fod yn wreiddiol yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ehangodd yr anheddiad yn ystod y 19eg ganrif fel canolfan lofaol a phorthladd glo, ond ychydig sydd wedi goroesi bellach i ddangos tystiolaeth o'r gwaith blaenorol hwn. Mae tai o ddiwedd yr 20fed ganrif yn amgylchynu cnewyllyn hanesyddol y pentref.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol yw Waterston - Honeyborough yn bennaf gyda ffermydd gwasgaredig a llain-gaeau, ond mae'n cynnwys pentref Waterston a phentrefan Honeyborough. Roedd llawer mwy o'r llain-gaeau - sef caeau agored y gymuned a amgaewyd - yn bodoli ar un adeg ond datblygwyd diwydiannau a thai ar y tir hwn.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rosemarket wedi ei chanoli ar bentref Rosemarket, ond mae'n cynnwys ardal fach o gaeau cyfagos a llethrau coediog serth y cwm. Mae'r pentref wedi cadw ei forffoleg o gyfnod cynharach, ond ac eithrio eglwys y plwyf ganoloesol, mae rhan fwyaf yr adeiladau yn dyddio o'r 19eg a'r 20fed ganrif

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llecyn Arfordirol Dale i Sain Ffraid yn cynnwys stribyn cul o dir garw ar ben y clogwyn. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd drwy'r ardal hon, a cheir sawl bryngaer yno o'r oes haearn.

Darn cul o dir garw ar ben clogwyn yw Llecyn Arfordirol Monk Haven i Gelliswick gyda Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd drwyddo. Caiff caerau o'r oes haearn a goleudy eu cynnwys yn yr ardal hon.

Mae Llecyn Arfordirol West Angle i Freshwater West yn cynnwys sawl kilometr o glogwyni Llwybr Arfordir Sir Benfro. Caiff caerau o'r oes haearn, twr gynnau o'r 16eg ganrif a magnelfeydd gynnau o'r 20fed ganrif eu cynnwys yn yr ardal hon.

Cysylltydd prosiect: Ken Murphy