|
SCOVESTON – BURTON
CYFEIRNOD GRID: SM 926082
ARDAL MEWN HECTARAU: 2550
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr sydd i’r gogledd o ddyfrffordd Aberdaugleddau,
ym mhlwyfi eglwysig Llangwm, Llanstadwell, Rosemarket a Steynton. Roedd
rhan fawr o’r ardal yn rhan o Faenor ganoloesol Pill, yn rhan o
Faenor fwy (neu Is-arglwyddiaeth) Pill a Roch, a grëwyd o dan reolaeth
teulu’r de Roche rhwng 1100 ac 1130. Roedd ei pherthynas ag Arglwyddiaeth
Haverford, yr oedd mewn egwyddor, yn rhan ohoni, yn destun anghydfod erioed.
Roedd Pill yn faenor fawr a phwysig â chapwt ar ben Castle Pill
(mae pill yn derm lleol am fornant lanwol) yn rhan orllewinol yr ardal
- o bosibl ar safle bryngaer o’r oes haearn ac yn ddiweddarach amddiffyniad
o’r Rhyfel Cartref. Mae pen de ddwyreiniol yr ardal hon wedi’i
leoli ym mhlwyf Burton, a oedd yn cynrychioli rhan ar wahân o Arglwyddiaeth
Penfro. Roedd eglwys plwyf Burton yn bresennol erbyn 1291. Roedd Maenor
(a phlwyf) Llangwm, i’r gogledd, yn ddeiliadaeth i deulu’r
de Vales nes i un o deulu Roche, Gilbert de la Roche nes iddi gael ei
throsglwyddo i un o deulu’r Roche yn y 13eg ganrif. Caniataodd y
teulu Roche ‘chwe bufedd o dir yn Studdolph, a phump erw o dir â
hanner gweddgyfair o dir yn yr un drefgordd’ i Briordy Tironaidd
Pill yn ei siarter sylfaenol ddiwedd y 12fed ganrif. Roedd Hayston yn
bresennol yn y 14eg ganrif. Ymddengys fod y patrwm anheddu presennol o
darddiad cymharol hwyr gan mai dim ond rhai o ffermydd a thirddaliadaethau
heddiw y gellir eu cysylltu â maenorau a threfgorddau canoloesol.
Ni chofnodir Scoveston tan ganol y 15fed ganrif, ond ni chofnodwyd y gweddill
– Jordanston, Norton, Milton, Westfield ac ati tan y 16eg a’r
17eg ganrif. Mae rhai, megis Oxland, yn tarddu o’r 18fed ganrif.
Serch hynny, nis adlewyrchir y gwahanol gyfnodau hyn o darddiad mewn unrhyw
gytundebau deiliadol, ac mae patrwm unffurf o dir wedi’i amgáu
wedi datblygu. Erbyn adeg creu’r mapiau ystad cyntaf ddiwedd y 18fed
ganrif a’r arolwg degwm yn y 1840au, roedd tirwedd heddiw wedi’i
sefydlu. Ceir awgrymiadau bod o leiaf rhannau o’r ardal wedi datblygu
o’r system caeau agored. Er enghraifft, dangosir llain?gaeau amgaeëdig
ar fapiau ystadau ar ochr ddwyreiniol Castle Pill ac yn agos i bentref
bach iawn Burton. Erbyn hyn, ni cheir unrhyw arwydd o’r llain-gaeau
hyn. Mae’r ardal wedi parhau’n ardal amaethyddol gan fwyaf,
ond mae ei photensial milwrol wedi bod yn amlwg ers tro byd. Atgyfnerthwyd
Castle Pill gan luoedd Brenhinol ym 1643, gyda chaer â 18 gwn yn
cael ei warchod gan 300 o ddynion. Caer anferth fewndirol Scoveston oedd
yr unig waith amddiffynnol a adeiladwyd ar ôl i adroddiad ar amddiffyn
gan y Comisiwn Brenhinol ym 1860 gynnig cylch o gaerau o amgylch dyfrffordd
Aberdaugleddau i’w amddiffyn rhag ymosodiad o’r tir. Roedd
rheilffyrdd hefyd yn croesi’r ardal, i Neyland ym 1856 ac Aberdaugleddau
ym 1859.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn ymestyn o dref Aberdaugleddau
yn y gorllewin, ar hyd glan ogleddol y ddyfrffordd heibio Neyland ac i
fyny a heibio pentref Llangwm. Er gwaethaf ei maint, mae’n dirwedd
arbennig o drefnus sy’n cynnwys ffermydd mawr, tai gwasgaredig a
chaeau mawr, rheolaidd. Er ei bod wedi’i lleoli’n agos at
ddyfrffordd Aberdaugleddau, dim ond mewn ambell leoliad ger Burton a Llangwm
y mae’r ardal hon yn ffinio’n uniongyrchol â’r
môr. Y defnydd amlycaf a wneir o’r tir yw fel tir pori, gydag
ychydig o dir âr, yn arbennig yn rhan orllewinol yr ardal. Ni cheir
nemor ddim tir garw neu dir diffaith. Ar wahân i goed collddail
ar lethrau serth y dyffryn, megis Castle Pill a Barnwell Pill, mewn rhai
pantiau cysgodol, ac ar lannau dyfrffordd Aberdaugleddau, nid yw hon yn
dirwedd a nodweddir gan goetir. Mae ambell goeden i’w gweld hefyd
mewn rhai gwrychoedd. Cloddiau â gwrychoedd yw’r prif fath
o ffin. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd wedi’u cadw’n dda,
ond mae rhai wedi dechrau tyfu’n wyllt a rhai yn mynd rhwng y cwn
a’r brain yn rhan ogleddol yr ardal. Rhennir Mynydd Burton a Mynydd
Williamston, a fu unwaith yn un o’r unig ardaloedd agored ar ddyfrffordd
Aberdaugleddau, yn gaeau mawr gan gloddiau a gwrychoedd. Ar wahân
i bentref Burton, ffermydd a thai gwasgaredig yw patrwm yr anheddu. Ceir
sawl plasty a fferm fawr yn yr ardal hon, gan gynnwys Fferm Jordanston,
East Hook a Neuadd Studdolph. Mae rhai o’r tai hyn o beth hynafiaeth,
megis East Hook, ty sy’n dyddio o’r 17eg ganrif a’r
18fed ganrif ger adfeilion ty o’r 16eg ganrif, ac mae eraill yn
dangos mân wreiddiau bonedd y ffermydd mwy, megis ty Sioraidd trillawr
Jordanston. Mae rhai o’r tai mwyaf, Castle Hall er enghraifft, wedi’u
dymchwel. Mae amrywiaeth o adeiladau allan o garreg sy’n dyddio
o’r 19eg ganrif ac weithiau’n gynharach wedi’u hadeiladu
gyda’r mwyafrif o’r tai mawr hyn, yn aml wedi’u trefnu
o amgylch buarth, ac weithiau wedi’u gosod beth pellter oddi wrth
yr annedd. Mae’r amrywiaeth eang o adeiladau yn Fferm Castle Hall
yn enghraifft dda o’r math hwn. Mae gerddi a parcdir yn goroesi
yn rhai o’r tai mwyaf hyn. Mae ffermydd llai yn britho’r dirwedd.
Mae sawl ffurf i’r tai hyn, ond gan fwyaf, maent yn dyddio o’r
19eg ganrif, ac wedi’u codi o garreg, wedi’u rendro, â
thoeau llechi, ac yn bennaf yn y traddodiad Sioraidd. Mae nifer wedi cael
eu moderneiddio. Hefyd, mae ffermdai hín a mwy modern i’w
gweld, yn ôl pob tebyg i gymryd lle adeiladau cynharach. Mae hen
adeiladau allan hefyd wedi’u codi o gerrig, ond fel arfer o ddim
ond un neu ddau fath. Mae gan y mwyafrif o ffermydd o’r maint hyn
amrywiaeth mawr o adeiladau allan modern dur a choncrid. Mae tai modern
gwasgaredig yn bresennol yn yr ardal hon, ond nid ydynt yn nodwedd ddiffiniol,
ar wahân i’r gorllewin ac i’r gogledd o Jordanston.
Yma, mae’r tai pâr sy’n dyddio o ganol yr 20fed ganrif
sydd wedi’u gwasgaru’n gymharol ddwys yn nodwedd amlwg o’r
dirwedd. Yn Burton, yr unig bentref yn yr ardal hon, amgylchynir eglwys
blwyf ganoloesol St Marys ynghyd â chlwstwr o anheddiadau o ddiwedd
y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif, gan dai o’r 20fed ganrif,
gan gynnwys ystad fechan. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir gweddillion
mawr Caer Scoveston, elfen o amddiffynfa filwrol dyfrffordd Aberdaugleddau
sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. O ystyried maint yr ardal hon,
nid yw’n syndod bod nifer fawr o safleoedd archeolegol amrywiol
i’w cael. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn nodweddu’r
dirwedd yn fawr. O ddiddordeb, mae sawl safle angladdol a defodol cynhanesyddol,
gan gynnwys meini hirion beddrodau siambrog a charneddi crwn, caer o’r
oes haearn ac ychydig o weddillion caer o’r Rhyfel Cartref, sawl
man lle daethpwyd o hyd i weddillion cynhanesyddol, safleoedd melin a
melinau gwynt canoloesol, a nodweddion amddiffynnol o’r Ail Ryfel
Byd.
I’r de ac i’r dwyrain mae ffin yr ardal hon yn ardal wedi’i
diffinio’n dda yn erbyn dyfrffordd Aberdaugleddau, tref Aberdaugleddau,
tref Neyland, Purfa Olew a llain mawr o goetir. Ar ochrau eraill, mae’n
anodd diffinio’r ardal hon, a dylid ystyried unrhyw ffin fel parth
o newid yn hytrach na ffin galed.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Burton 1840; Charles 1992; Jones 1996; Map
degwm Plwyf Llangwm 1841; Map degwm Plwyf Llanstadwell 1849, map degwm
Llanstadwell Rhan Tri 1830; Ludlow 2002; LlGC PICTON CASTLE CYFROL 1;
LlGC R. K. LUCAN RHIF 17, 19 a 25; Page 2001; Price 1986; Pritchard 1907;
PRO D/RKL/1194/4; PRO RKL/841; Rees 1975; Map degwm Plwyf Rosemarket 1843;
Saunders 1964; Map degwm Plwyf Stainton 1843
|