Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

DIGWYDDIADAU A FFURFIODD DIRWEDD HANESYDDOL DYFRFFORDD ABERDAUGLEDDAU

Rhaniadau gweinyddol hanesyddol
Cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd roedd system weinyddol gorllewin Cymru yn seiliedig ar deyrnasoedd bach neu wledydd, a sefydlwyd cyn yr 8fed ganrif OC. Lleolir yr ardal gofrestr o fewn gwlad Dyfed a ddaeth yn rhan o deyrnas fwy sylweddol Deheubarth ar ddechrau’r 11eg ganrif. O fewn pob gwlad roedd unedau gweinyddol llai o faint neu ystadau a elwid yn faenorau ac mae gennym dystiolaeth bod y maenorau hyn wedi bodoli ers y 9fed ganrif. Cynhwysai’r rhain nifer o ‘drefgorddau’ neu drefi. Erbyn yr 11eg ganrif cyflwynwyd dwy haen weinyddol ychwanegol - sef y cantref, grwp o 100 tref, gyda phob un ohonynt wedi’i isrannu’n nifer o gymydau, gyda’r trefi wedi’u grwpio ynddynt. Daeth ‘saith cantref Dyfed’ - sef Pebidiog, Cemaes, Emlyn, Rhos, Daugleddau, Gwarthaf a Phenfro - yn undeb a ddathlwyd mewn hanes a chwedloniaeth. Mae’n debyg, yn Nyfed, nad oedd systemau ffurfiol o dirddaliadaeth a gweinyddiaeth frodorol wedi’u sefydlu cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Fodd bynnag, bodolai canolfannau statws, yn lleyg ac yn eglwysig, ac o’r canolfannau eglwysig mae gennym gryn dystiolaeth parthed saith ‘ty esgob’ Dyfed.

Dechreuodd ymgyrch yr Eingl-Normaniaid i wladychu Sir Benfro ym 1093 pan ymosododd Roger de Montgomery, Iarll Normanaidd Amwythig, ar Ddyfed, a sefydlu castell ym Mhenfro. O’r ganolfan hon roedd ei fab, Arnulf, erbyn 1100 wedi gorchfygu’r rhan fwyaf o Gantref Penfro (yn rhan ddeheuol y sir bresennol), Cantref Rhos (i’r gorllewin o Hwlffordd), Cantref Daugleddau (yn rhan ganolog y sir bresennol), a ad-drefnwyd yn sir o dan Harri I – a ddaeth yn ddiweddarach yn un o freniniarllaethau ieirll Penfro.

Ni fu fawr o newid yn y rhaniadau tiriogaethol a fodolai cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Roedd i arglwyddiaeth Hwlffordd yr un ffiniau fwy neu lai â Chantref Rhos, ac roedd yr un peth yn wir am Dungleddy a Daugleddau a Pembroke a Phenfro, er bod Cwmwd Arberth yn cael ei weinyddu fel arglwyddiaeth ar wahân; sef Arberth. Yn yr un modd dilynai’r cantrefi ôl-ganoloesol yr un ffiniau ac eithrio yn ne Sir Benfro, lle’r oedd Penfro wedi’i rannu’n ddau gantref - sef Castellmartin ac Arberth. Fodd bynnag, ym mhob ffordd arall roedd yr ardal wedi’i Seisnigo. Plannodd Harri I nifer fawr o ymsefydlwyr, o Orllewin Lloegr a Fflandrys, yn fwriadol, yn yr ardal, ac ad-drefnwyd y weinyddiaeth frodorol yn llwyr. Er yr ymddengys i Harri I geisio sefydlu gweinyddiaeth yn seiliedig ar fodelau sifil Seisnig, canlyniad creu’r arglwyddiaeth balatin ororol oedd system faenoraidd, wedi’i ffiwdaleiddio, o dirddaliadaeth yn seiliedig ar arglwyddiaethau demên a ffïoedd marchog. Mae hyn wedi arwain at y prif batrwm anheddu o fewn yr ardal, sef aneddiadau cnewyllol – pentrefi, pentrefannau a ffermydd mawr - yn seiliedig ar y treflannau maenoraidd. Parhaodd elfennau o’r system yn hir ar ôl y Ddeddf Uno. Roedd arglwyddiaeth Arberth, er enghraifft, yn dal i weithredu ei llysoedd maenoraidd ffiwdal ymhell i mewn i’r 17eg ganrif.

Safleoedd anheddu a safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol
Mae safleoedd anheddu o’r oes haearn a safleoedd angladdol a defodol neolithig ac o’r oes efydd yn gyffredin, ond mae’r ffaith eu bod wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal a’u bod yn gymharol fach mewn perthynas ag elfennau eraill o’r dirwedd yn golygu nad ydynt yn rhai o nodweddion amlycaf yr ardal. O’r ddau fath o heneb, bryngeyrydd o oes yr haearn yn dyddio o’r mileniwm cyntaf CC yw’r rhai mwyaf amlwg. Yn aml ceir bod canrifoedd o ddefnydd amaethyddol wedi gwneud bryngeyrydd a leolir ar dir ffermio ym mherfedd gwlad yn fwy lefel ac nad ydynt mor drawiadol â’u cefndryd a adeiladwyd ar ymyl clogwyni ar lan y môr, lle y mae ceyrydd megis Great Castle Head yn Dale a Tower Point yn Sain Ffraid yn rhai o’r elfennau tirwedd hanesyddol mwyaf anferth ac amlycaf o’r llain arfordirol. Mae safleoedd angladdol a defodol neolithig ac o’r oes efydd, sy’n dyddio o’r 2il fileniwm a’r 3ydd mileniwm CC, ac sy’n cynnwys beddau siambrog, crugiau crynion a meini hirion ymhlith y safleoedd archeolegol mwyaf cyffredin a phwysicaf yn yr ardal. Mae eu presenoldeb mud yn tystio i gymuned ffermio sefydlog dros 5000 o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, dim ond yn Rhoscrowdder lle y mae’r hyn y tybir ei fod yn llwybr hynafol a adwaenir fel ‘The Ridgeway’ yn mynd heibio i sawl grwp o henebion cynhanesyddol y mae safleoedd angladdol a defodol yn ffurfio elfen gref o’r dirwedd hanesyddol.

Trefi canoloesol
Trefi yw’r dystiolaeth ffisegol fwyaf parhaol o’r goresgyniad Eingl-Normanaidd yn Ne Cymru. Strategaeth hanfodol i’r arglwyddi gorchfygol oedd adeiladu cestyll, y sefydlwyd aneddiadau y tu allan iddynt ar gyfer mewnfudwyr a fyddai yn y pen draw yn dod i reoli’r ardal yn economaidd. Mae dwy wladychfa o’r fath o fewn yr ardal gofrestr. Nid ymddengys i dref Penfro gael ei chynllunio gan sylfaenwyr ei chastell, a sefydlwyd gan Roger de Montgomery a’i fab Arnulf ym 1093, o bosibl ar safle llys cynharach. Sefydlwyd y dref o ganlyniad i Harri I atafaelu’r ardal, ar ôl gwrthryfel Arnulf ym 1100. Roedd Harri yn arbennig o awyddus i sefydlogi’r rhan hon o dde-orllewin Cymru fel un o ddaliadau’r goron, ac i’r diben hwnnw cyflwynodd nifer fawr o fewnfudwyr a rhoddodd siarter i Benfro. Cynigiodd y siarter hon y telerau mwyaf hael i annog ymsefydlwyr posibl i ddod i Benfro. Sefydlodd hefyd fathdy ym Mhenfro cyn 1130. Roedd y dref wedi cael ei waliau erbyn y 14eg ganrif ac mae’r waliau hyn, gyda’r castell, yn dal i ffurfio elfen drawiadol o’r dirwedd, y peth agosaf sydd gan dde Cymru i ‘gastell-fwrdeistrefi’ Edwardaidd gogledd Cymru. Tua 1100-10 sefydlodd Tancard y Ffleminiad gastell a thref Hwlffordd ar safle cwbl newydd, a hynny efallai fel uned. Mae’n debyg ei fod yn gweithredu yn enw’r goron hefyd. Saif y dref a’r castell ar y man pontio isaf ar Afon Cleddau Wen, yr oedd ei werth strategol ac economaidd yn ffactorau ar gyfer dewis y safle a’i ddatblygu ar ôl hynny. Erbyn 1300 roedd y dref yn un sylweddol a chynhwysai dros 300 o diroedd bwrdais - yn fwy na’r un gastell-fwrdeistref yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ran o amddiffynfeydd y dref wedi goroesi.

Cyflenwid y ddwy dref gan gychod ac roeddynt yn ganolfannau masnachu pwysig o’r cychwyn. Datblygodd y fasnach hon o dan y monopolïau Eingl-Normanaidd, ac erbyn yr 16eg ganrif roedd Penfro yn dref o fasnachwyr, a hi hefyd oedd safle tollty’r rhanbarth. Fodd bynnag, cymerodd Hwlffordd rôl y dref sirol drosodd oddi wrth Benfro yn ystod y ganrif hon, ac erbyn canol y ganrif gellid ei disgrifio fel ‘y dref a adeiladwyd orau, y dref fwyaf sifil, a’r dref a anheddwyd gyflymaf yn Ne Cymru’. Mae gan y ddwy dref nifer o adeiladau diweddarach. Mae’r rhain yn dyddio, yn arbennig, i’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif pan adeiladodd boneddigion o ffermwyr, masnachwyr a bwrdeisiaid lleol dai tref i gymdeithasu y tu mewn iddynt, yn lle mynd i Lundain ar gyfer y tymor ffasiynol. Fodd bynnag, fel canolfannau masnachol disodlid y ddwy gan ddwy dref gwbl newydd – sef Aberdaugleddau a Doc Penfro.

Pentrefi canoloesol a diweddarach
Mae pentrefi cnewyllol bach yn elfen nodedig o dde Sir Benfro ac yn arbennig tirwedd hanesyddol dyfrffordd Aberdaugleddau. Ceir ffermydd gwasgarog, fel y ceir ar draws y rhan fwyaf o Gymru, ond y pentref sy’n dynodi’r gwahaniaeth rhwng y patrwm anheddu yn y rhan hon o Sir Benfro ac ardaloedd eraill yn ne-orllewin Cymru. Mae cydberthynas gref rhwng y math o anheddiad a gynrychiolir gan y pentref cnewyllol, sydd yn aml wedi’i ganoli ar eglwys, a’r ardal y gwyddom iddi gael ei gwladychu gan yr Eingl-Normaniaid yn ne-orllewin Cymru yn y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, a amlygir heddiw gan enwau lleoedd, iaith a dangosyddion diwylliannol eraill. Mae’n dra thebygol felly i’r pentrefi gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod hwn ar y cyd â’r elfen bwysig arall honno o dirwedd amaethyddol iseldir Lloegr, sef y gyfundrefn faes agored. Disgrifir meysydd agored isod, ond mae’n werth pwysleisio yma y gyfatebiaeth gref rhwng pentrefi cnewyllol a’r dystiolaeth ar gyfer meysydd agored. Mae hefyd yn ddiddorol nodi i’r mwyafrif o bentrefi gael eu sefydlu i ffwrdd o lan Aberdaugleddau er mwyn manteisio cymaint â phosibl ar y tir ffermio bras a gynigiai’r ardal: bwriadwyd iddynt fod yn gymunedau amaethyddol yn hytrach na chymunedau glan môr. Mae dogfennaeth hanesyddol yn aml yn amwys o ran ei chyfeiriadau at y math o batrwm anheddu, ac ni ellir nodi morffoleg pentrefi yn bendant tan y cyfnod rhwng canol a diwedd y 18fed ganrif pan aed ati ar raddfa fawr i fapio ystadau ac y gwnaed yr arolwg o fapiau degwm tua 1840. Yr adeg honno roedd pentrefi megis Llanismel, Herbrandston, Houghton, Great Honeyborough, Waterstone, Uzmaston a Cosheston, i enwi dim ond rhai, yn gymunedau amaethyddol, cnewyllol, bach iawn, a oedd yn dal i gael eu hamgylchynu yn aml gan eu cyfundrefnau maes agored, neu o leiaf ychydig o leiniau o weddillion meysydd agored. Mewn rhai achosion, megis Herbrandston, mae lleoliad yr eglwys ym mhen lawnt y pentref y ceir anheddau o’i hamgylch yn awgrymu pentref a gynlluniwyd. Mae pentrefi yn dal i gael dylanwad cryf ar batrwm anheddu’r ardal, er i rai ehangu gryn dipyn ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yn ystod yr 20fed ganrif. Er enghraifft, mae Great Honeyborough bellach wedi’i ymgorffori yn Neyland ac mae Llangwm wedi tyfu gryn dipyn o’i graidd. Fodd bynnag nid yw pentrefi eraill megis West Williamston, Trenewydd Caeriw a Lawrenni wedi newid fawr ddim, ac mae eu morffolegau cynnar a’u swyddogaethau gwreiddiol i’w gweld yn glir o hyd.

Cestyll canoloesol
Mae cestyll canoloesol yn un o elfennau diffiniol tirwedd yr ardal hon. Adeiladwyd cryn nifer ohonynt yn Sir Benfro ar ôl y goresgyniad Eingl-Normanaidd ym 1093, ac yn arbennig yn ystod y blynyddoedd ar ôl 1100 wrth i’r tiriogaethau gael eu hatgyfnerthu o dan Harri I. Sefydlwyd llawer o’r pentrefi o wladychwyr a’r ddwy dref, yr anheddwyd y ddwy â phoblogaethau mewnfudol, o amgylch castell o wrthgloddiau. Nid ailadeiladwyd rhai o’r rhain o gerrig, ond maent wedi gadael gweddillion gwrthgloddiau yn Llanismel, er enghraifft, ac efallai hefyd yn Rosemarket a Chastell Gwalchmai lle y mae morffoleg y pentref yn awgrymu bod yr aneddiadau yn rhai echelinol ar safleoedd gwrthgloddiau sy’n cynrychioli o bosibl, er nad yw eu dyddiad yn hysbys, glostiroedd yn dyddio o oes yr haearn a ailddefnyddiwyd. Ymddengys fod caer bentir yn Dale wedi’i hailddefnyddio yn yr yn modd fel castell o wrthgloddiau, a adleolwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol pan sefydlwyd plasty ar y safle presennol. Gadawyd y mwnt ym Mhictwn o blaid castell o gerrig a adeiladwyd gerllaw.

Yr hyn sy’n gwneud y rhan hon o Sir Benfro yn wahanol i ardaloedd eraill yn ne-orllewin Cymru yw’r lefel o weithgarwch ailadeiladu â cherrig a gyflawnwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ceir nifer o gestyll pwysig wedi’u hadeiladu o gerrig ac o’r cestyll hyn y mae Penfro, Hwlffordd a Chaeriw yn dal i ffurfio elfennau gweledol cryf o’r dirwedd. Roedd Caeriw yn gysylltiedig ag anheddiad canoloesol a oedd wedi crebachu. Mae cestyll llai o faint a adeiladwyd o gerrig wedi goroesi ym Mhictwn, Upton a Benton (Burton). Mae’r ddau olaf yn gestyll â magwyrydd sy’n fach iawn ond a ddatblygwyd yn llawn. Mewn cyferbyniad ceir y safleoedd hynny y mae’n fwy addas eu disgrifio fel maenordai caerog, ac unwaith eto maent yn arbennig o niferus yn y rhan hon o Sir Benfro. Castell Coch (Mynwar), neuadd-dy mawr o gerrig o fewn clostir ffos â mur o’i amgylch, oedd caput maenor Newhouse. Mae Angle ac Eastington (Rhoscrowdder) yn neuadd-dai llawr cyntaf tebyg yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, tra lleolir maenor Creseli, a oedd yn ôl pob tebyg yn eiddo i’r priordy Awstinaidd yn Hwlffordd, o fewn clostir lled-gaerog. Ymddengys fod castell Dale o ddiwedd y cyfnod canoloesol yn lled-gaerog, tra bod tai caerog o’r un cyfnod yn Rheithordy Angle a Phriordy Monkton. Ymddengys fod yr amddiffynfeydd preifat yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, a all fod mor hwyr â’r 16eg ganrif yn y ddau achos olaf, yn ymateb i fygythiadau yn dod dros y môr, efallai y bygythiad y byddai’r Ffrancod yn ymosod neu forladron o Iwerddon a gwledydd eraill yn ysbeilio ar hyd yr arfordir.

Meysydd Agored a’r broses o’u hamgáu
Yn ystod y cyfnod canoloesol câi bron yr holl dir ffermio o fewn yr ardal gofrestr ei amaethu mewn cyfundrefnau maes agored (a elwir hefyd yn feysydd isranedig neu’n feysydd comin). O dan y system hon delid tir fel cymuned, ac ar wahân i glostiroedd bach a phadogau yn gysylltiedig â ffermydd, roedd clostiroedd yn brin, a rhennid y tir yn lleiniau neu’n gyfrannau o fewn meysydd agored mawr. Gorweddai tir comin heb ei amaethu a thir diffaith y tu hwnt i’r meysydd agored. Gall patrwm rhai o’r cyfundrefnau maes agored, o leiaf, fod yn gynnar. Gall patrwm unionlin ffiniau ym mhenrhyn de Sir Benfro ddyddio o’r cyfnod cynhanesyddol, a gellir gweld bod o leiaf un fynwent ganoloesol wedi’i gosod drostynt.

Yn agos at ddyfrffordd Aberdaugleddau, oherwydd dwysedd uchel y boblogaeth, câi’r rhan fwyaf o’r tir ei amaethu ac felly byddai tir diffaith a thir comin wedi cynnwys darnau bach o dir. Yn draddodiadol, ni châi lleiniau o fewn meysydd agored eu rhoi i ffermwyr, ond caent eu cylchdroi’n flynyddol. Fodd bynnag, erbyn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif rhoddwyd yr hawl i amaethu rhai lleiniau o fewn y meysydd agored i ffermwyr unigol. Drwy gyfnewid lleiniau gellid casglu nifer o leiniau cyffiniol. Proses syml oedd hi wedyn i daflu gwrych o amgylch y lleiniau a oedd wedi’u casglu at ei gilydd. Drwy’r broses hon trawsnewidiwyd y meysydd a ddelid fel cymuned yn systemau o feysydd a ddelid yn breifat, sy’n dal i fodoli.

Mae dogfennau canoloesol a diweddarach yn cyfeirio yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at feysydd agored, ond y mapiau o’r ystadau yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a’r mapiau degwm dyddiedig tua 1840 sy’n darparu’r dystiolaeth orau o’u maint a’u cymeriad. Fel y disgrifiwyd uchod, mae cydberthynas gref rhwng lleoliad pentrefi a meysydd agored. Ymddengys yn dra thebygol i’r meysydd gael eu sefydlu pan sefydlwyd y pentrefi yn y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Ceir amrywio o ran pryd yr amgaewyd y meysydd agored a pha mor gyflym y gwnaed hynny. Yn Rosemarket, er enghraifft, disgrifiodd Howells (1955-56) sut yr oedd amgáu meysydd agored ar ddiwedd yr 16eg ganrif gan landlord barus wedi arwain at droi tir âr yn dir pori ac at ddiboblogi’r pentref. Erbyn hyn nid oes fawr ddim tystiolaeth yn y dirwedd bresennol o feysydd mawr, eithaf rheolaidd o amgylch Rosemarket o’r meysydd agored a fu yno gynt. Mae’n debyg yn ystod yr un cyfnod i feysydd agored eraill gael eu trawsnewid i greu’r meysydd mwy o faint a welir heddiw, megis yn Uzmaston, Rhoscrowdder a Lawrenni. Ymddengys mai yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yr amgaewyd y mwyafrif o’r meysydd agored hyn, er i ffermio yn seiliedig ar feysydd agored mewn rhai enghreifftiau prin barhau hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Ceir enghraifft o amgáu meysydd agored yn hwyr yn Great Honeyborough lle y dangosir tirwedd amaethyddol o feysydd agored llawn weithredol ar fapiau o’r ystad. Mae’r broses o amgáu rhai meysydd agored wedi gadael ei hôl yn glir ar y dirwedd fodern a cheir, er enghraifft, barseli o lain-gaeau cul yn Llanismel, Waterstone, Houghton, West Williamstone, Trenewydd Caeriw a Cosheston.

Caeau a ffiniau caeau
Pennir siâp a maint caeau gan ffactorau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymhleth. Fel y nodwyd uchod, llain-gaeau cul yw canlyniad y broses o amgáu cyfundrefnau maes agored, proses a gyflawnwyd bob yn dipyn o’r 17eg ganrif i’r 19eg ganrif. Gall caeau rheolaidd mawr fod wedi deillio o amrywiaeth o brosesau gwahanol anghysylltiedig. Er enghraifft, gall caeau ystadau bach, preifat a sefydlwyd yn yr 16eg ganrif neu’r 17eg ganrif ar dir a oedd wedi bod yn gaeau agored ymddangos yn debyg i systemau caeau ffermydd a gerfiwyd allan o dir comin ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Mae’n debyg i’r caeau afreolaidd bach â phocedi o goetir a geir yn Martletwy, Landshipping, Cei Cresswell, ac i ryw raddau Hook, ddatblygu yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif pan adeiladwyd bythynnod ac y cerfiwyd allan dyddynnod ar dir comin neu dir amaethyddol cymharol wael y maes glo gan bobl a ddenwyd i’r ardal gan y diwydiant glo a oedd yn datblygu. Er bod amrywiaeth hynod o ran siâp a maint caeau, mae’r mathau o ffiniau yn hynod o gyson ar draws tirwedd dyfrffordd Aberdaugleddau i gyd. Amgaeir bron yr holl gaeau gan gloddiau pridd neu gloddiau o bridd a cherrig â gwrychoedd ar eu pennau. Ceir eithriadau, ond maent yn brin. Er enghraifft, ceir waliau â morter arnynt yn Lawrenni (sy’n gysylltiedig ag ystad Lawrenni), yn West Williamston, a phen gorllewinol pellaf Penrhyn Castellmartin. Ceir rhai waliau sych hefyd, yn West Williamston, er enghraifft.

Ffermydd ac ystadau ôl-ganoloesol
Dechreuodd ffermydd lle y delid y tir o dan ddeiliadaeth unigol, h.y.heb fod yn rhan o gaeau agored na thir comin, mewn un o nifer o ffyrdd gwahanol. Tua diwedd y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod modern newydd sefydlwyd ffermydd i ffwrdd o greiddiau pentrefi ar dir a oedd wedi’i lwyrfeddiannu ac wedi’i amgáu o lain-gaeau agored. Neu, wrth i gysyniad perchenogaeth breifat o dir ymledu sefydlwyd ffermydd newydd ar yr hyn a fu gynt yn dir comin ar gyrion tir âr. Mae’n debyg mai’r ddau ddull hwn sy’n gyfrifol am y mwyafrif o’r ffermydd gwasgarog, llai o faint. Mae hefyd yn bosibl i un fferm mewn pentref neu drefgordd dyfu cymaint fel mai hi oedd y prif ddaliad ac yn y pen draw yr unig ddaliad. Digwyddodd y broses hon dros lawer o ganrifoedd ac mae’n debyg mai’r dyma’r ffordd y dechreuodd llawer o’r ystadau bach a’r ffermydd mawr, megis Liddeston, Jordanston a Robeston Hall.

Yn achos y ddau ddull cyntaf mae’r dirwedd a grëir yn un o ffermydd gwasgarog, cymharol fach wedi’u gosod mewn patrwm o gaeau rheolaidd o faint canolig. Mae ystadau bach a ffermydd mawr yn tueddu i fod wedi’u lleoli ar y tir ffermio bras tua’r gorllewin o’r ddyfrffordd ac fe’u cysylltir yn aml â chaeau mawr, rheolaidd. Mae’r adeiladau (a ddisgrifir isod) sy’n perthyn i’r ystadau hyn yn aml yn edrych yn hen iawn, a chanddynt weithiau elfennau canoloesol neu o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, neu maent yn strwythurau Sioraidd a/neu Fictoraidd. Yn ogystal â’r adeiladau sydd wedi goroesi, mae parodrwydd perchenogion yr ystadau bach i gomisiynu arolygon drud ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn dangos pa mor gyfoethog oeddynt. Dengys y mapiau a ddeilliodd o’r arolygon hyn, megis y rhai o St Botolph’s a Robeston Hall fod gan eu heiddo erddi â waliau o’u hamgylch, gerddi blodau a pherllannoedd. Mae’r ffermydd bach, y ffermydd mwy o faint a’r ystadau bach gwasgarog hyn yn ffurfio elfen bwysig yn nhirwedd hanesyddol dyfrffordd Aberdaugleddau.

Parciau a gerddi
Yn ymestyn dros yr ardal gyfan bron ym mhen Aberdaugleddau, rhwng afon Cleddau Ddu ac afon Cleddau Wen, ceir parciau ac ystadau ôl-ganoloesol, gan gynnwys Parciau Pictwn a Slebets sy’n ymestyn dros dir sy’n graddol ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau. Ceir parciau a gerddi llai o faint o fewn yr ardal gofrestr ond yn yr un modd maent wedi’u cyfyngu i safleoedd mwy cysgodol o fewn y rhan ddwyreiniol hon o’r ardal. Nid yw dwy o’r gerddi llai o faint hyn, yng Nghoedcanlas a Landshipping, i’w gweld bellach, ond fe’u nodwyd trwy ffotograffau a dynnwyd o’r awyr. Sefydlwyd y ddwy yn yr 17eg ganrif a gerddi yn arddull y Dadeni oeddynt yn debyg o ran eu maint i enghreifftiau mwy enwog yn Lloegr, ac roedd ganddynt gyrtiau a therasau ffurfiol nodweddiadol. Yn debyg i Bictwn a Slebets maent yn ymestyn ar draws tir sy’n graddol ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau.

Crëwyd parc ffurfiol yng Nghastell Pictwn ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Roedd y parc hwn hefyd yn arddull y Dadeni, ond cafodd ei ailfodelu ar raddfa fawr yn y traddodiad Rhamantaidd yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, pan sefydlwyd belfedir ar yr hen fwnt. Er bod gan y gerddi elfennau yn dyddio o’r 18fed ganrif, cyflawnwyd llawer o’r gwaith plannu yn yr arddull pictiwrésg tua 1800 ac fe’u haddaswyd gan waith plannu mwy diweddar. Mae tirwedd y gerddi, y parcdir, y coetir a ffermydd yr ystad yn dal i fodoli ar y cyfan gerllaw ym Mharc Slebets, a osodwyd tua’r un pryd. Mae llawer o’i elfennau yn dal i fodoli hefyd, ac mae ganddo erddi ffurfiol gan gynnwys terasau yn edrych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae strwythurau eraill sy’n gysylltiedig â Phictwn a Slebets, megis blociau stablau, porthdai a gerddi â waliau o’u hamgylch yn nodweddion amlwg a nodedig yn y dirwedd, tra bod dwy fferm y plas a phentref y Rhos yn rhoi i’r ardal hon nodweddion pensaernïol cadarn ystad.

Mae parciau llai o faint yn cynnwys Upton Castle, a leolir yn yr un modd ar dir sy’n graddol ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau. Mae’n cynnwys gardd a pherllan â wal o’u hamgylch, gardd goed, terasau ffurfiol a chapel canoloesol. Fe’i rheolir bellach gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae ar agor i’r cyhoedd. Lleolir Plasty Boulston a fferm y plasty o fewn gweddillion tirwedd parcdir tebyg, mewn lleoliad tebyg ar flaen traeth ac mae’n cynnwys pysgodlynnoedd, planhigfeydd, porthdy, a chapel canoloesol adfeiliedig. Lleolir parciau llai o faint, yn ymestyn dros safleoedd tebyg, o amgylch yr hen blasty yng Nghastell Lawrenni, sydd bellach yn ardal bicnic, a Neuadd Cosheston.

Y ddyfrffordd, llongau a masnach ar hyd yr arfordir
Cydnabuwyd ers amser maith yr angorfa ddwr dwfn ardderchog a ddarperir gan ddyfrffordd Aberdaugleddau. Fe’i defnyddiwyd fel man byddino gan yr Eingl-Normaniaid i oresgyn Iwerddon, fel glanfa gan Owain Glyndwr a Harri Tudur i ymosod ar Gymru, ac fel angorfa gysgodol ar gyfer Llynges Prydain yn y 18fed ganrif. Lleolir dwy o brif drefi/dau o brif borthladdoedd Cymru yn ystod yr oesoedd canol ac yn fwy diweddar, sef Hwlffordd a Phenfro, ar y rhannau uchaf o’r ddyfrffordd. Roedd y tollty rhanbarthol wedi’i leoli ym Mhenfro ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, sicrhaodd lleoliad anghysbell y ddyfrffordd a phoblogaeth fach yr ardal na wireddwyd ei photensial fel porthladd tan y chwyldro diwydiannol ar ddiwedd yr 17eg ganrif ac yn ystod y 18fed ganrif. Lleolir llawer o bentrefi yn dyddio o’r cyfnod canoloesol ar hyd y ddyfrffordd, ond mae’n ddadlennol nodi bod y mwyafrif o’r rhain wedi’u lleoli o fewn caeau i ffwrdd o’r lan, sy’n dangos mai amaethyddiaeth nid gweithgarwch glan môr oedd prif ffynhonnell eu hincwm. Byddai gweithgarwch pysgota, masnachu ar hyd yr arfordir ac adeiladu cychod ar raddfa fach wedi’i gyflawni o’r nifer fawr o gilfachau bach, ond ymhlith y pentrefi mae’n debyg mai dim ond Dale ac Angle, y lleolir y ddau ymhell i’r gorllewin, oedd ag economi glan môr cryf. Erbyn 1700, glo o byllau yn Landshipping, Cresswell, Hook a Llangwm oedd y prif allforyn o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Datblygodd llawer o geiau bach i wasanaethu’r diwydiant hwn. Mae’r nifer fawr o odynau calch a geir ar hyd y lan yn dystiolaeth bod masnachu ar hyd yr arfordir yn dod yn fwyfwy pwysig. Yn wir, prin yw’r gilfach nad oes ganddi odyn galch. Erbyn diwedd y 18fed ganrif arweiniodd yr angen am dref yn agos at angorfeydd dwr dwfn i wasanaethu llongau mawr a darparu porthladd ar gyfer llongau post o Iwerddon at sefydlu tref Aberdaugleddau. Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach sefydlwyd iardiau llongau’r Llynges a thref Doc Penfro. Disgrifir y trefi hyn, ynghyd â Neyland, isod. O ganlyniad i ddyfodiad y rheilffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif bu lleihad yn lefel y gweithgarwch masnachu ar hyd yr arfordir, ond parhaodd llongau bach i alw yn Hwlffordd, Penfro a cheiau eraill i mewn i’r 20fed ganrif, a datblygodd Aberdaugleddau a Neyland yn borthladdoedd pysgota pwysig. Ar wahân i danceri olew sy’n gwasanaethu tair purfa olew a adeiladwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif, cychod pysgota yn Aberdaugleddau a’r fferi i Iwerddon sy’n rhedeg o’r hen ddociau yn Noc Penfro, nid oes fawr ddim traffig masnachol ar y ddyfrffordd. Agorwyd dau farina, yn Aberdaugleddau a Neyland, a defnyddir llawer o’r glanfeydd a’r ceiau diwydiannol bellach gan gychod hamdden.

Cysylltiadau
Yn hanesyddol y ddyfrffordd a fu’r wythïen gysylltiadau bwysicaf bob amser o fewn yr ardal hon. Fodd bynnag, roedd llwybrau cynnar dros y tir. Y pwysicaf o’r rhain oedd y ‘Ridgeway’, llwybr ar draws esgair penrhyn de Sir Benfro, a redai ar hyd crib yr esgair o galchfaen rhwng Angle yn y gorllewin a Dinbych-y-Pysgod yn y dwyrain. Mae’r crynhoad o safleoedd cofebol cynhanesyddol ar hyd y llwybr hwn yn awgrymu ei fod yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol, o’r cyfnod neolithig o bosibl, ac mae’r system o gaeau unionlin sy’n nodwedd mor gadarn yn yr ardal hon yn echelinol ar ei linell. Prin y Rhufeiniwyd y rhan hon o Sir Benfro, a gorweddai’r brif ffordd Rufeinig o’r dwyrain i’r gorllewin gryn bellter i’r gogledd o’r ardal hon. Ymddengys fod ffordd bresennol yr A40 yn dilyn llwybr canoloesol o bwys, ac mae Pont Canaston sy’n cario’r ffordd dros ben afon Cleddau Ddu yn dyddio o’r cyfnod canoloesol. Gellir olrhain rhai llwybrau cynnar eraill o fewn y dirwedd. Er enghraifft, lleolir Hwlffordd – a oedd yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru erbyn diwedd y cyfnod canoloesol – lle y mae 12 ffordd a lôn yn croestorri, y mae’n debyg bod y mwyafrif ohonynt yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, tra gall llwybr, nas defnyddir bellach, yn arwain trwy blwyf Mynwar i fferi Slebets ddyddio o’r cyfnod canoloesol hefyd.

Ailosodwyd y llwybr canoloesol o dan yr A40 yn rhannol, fe’i sythwyd, ac fe’i trowyd yn ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif, a gwnaed yr un peth i’r A4075 rhwng Pont Canaston a Chaeriw. Fodd bynnag, pan ddatblygwyd yr ardal yn ddiwydiannol yn y 19eg ganrif ac y sefydlwyd porthladdoedd masnachol Aberdaugleddau a Doc Penfro dyna’r adeg y gosodwyd y pwysau mwyaf ar ei chysylltiadau. Gwnaed cryn dipyn o waith, yn y 1830au, i wella’r ffordd rhwng Caerfyrddin a Doc Penfro, yn dilyn arolygon a wnaed gan Thomas Telford. Ar ben hynny cynlluniwyd rheilffordd ym 1845, sy’n ddyddiad cymharol gynnar. Fodd bynnag, o ganlyniad i oedi nid adeiladwyd llinell i Aberdaugleddau tan 1863, fel cangen o linell Neyland a adeiladwyd ym 1856, ac ni chafodd Aberdaugleddau wasanaeth rheilffordd tan 1864. Mae’r ddwy linell hon yn dal yn weithredol. Adeiladwyd nifer o linellau cangen, i’w defnyddio gan berchenogion preifat, ar ôl hynny i gysylltu’r harbwrs, y dociau a’r purfeydd â’r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae rhai o’r rhain yn dal i gael eu defnyddio.

Coedwigoedd a choetir
Roedd hanner dwyreiniol yr ardal gofrestr, yn y rhannau uchaf o ddyfrffordd Aberdaugleddau, wedi’i orchuddio â choed toreithiog yn ystod y cyfnod hanesyddol, ac mae llawer ohono yn dal i fod heddiw. Mae’r coetir hwn bob amser wedi’i reoli’n drylwyr. Gallai coetir a reolid yn gywir ddarparu pren ar gyfer adeiladu adeiladau a llongau, rhisgl ar gyfer cyffeithio crwyn a lliwio, a phrysgwydd ar gyfer tanwydd a golosg. Lleolir rhai o’r lleiniau coediog hyn – fel heddiw – ar lethrau serth dyffrynnoedd nad oedd iddynt fawr ddim gwerth economaidd arall. Roedd coedwigoedd eraill yn lleiniau helaeth ar dir agored. Cofnodwyd Coedwig Ganoloesol Arberth, er enghraifft, ar ddechrau’r 12eg ganrif, pan oedd o dan reolaeth y brenin a rhoddwyd ei choed i unrhyw un a fwriadai ymsefydlu ym Mhenfro i wneud ei annedd bren ohonynt. Rhoddwyd Coedwigoedd Mynwar i Farchogion Sant Ioan yn Slebets mewn grant o’r 13eg ganrif. Mae George Owen yn cofnodi bod llawer o’r coetir, erbyn 1594, wedi’i dorri i lawr trwy ‘asartio’ a bod tir ffermio wedi’i sefydlu dros leiniau o dir a fu gynt yn goediog. Ymddengys i faenor Newhouse, er enghraifft, gael ei chreu yn hwyr ac iddi gael ei sefydlu fel asart o Goedwig Arberth, gan arglwyddi Mortimer o Arberth ar ddiwedd y 13eg ganrif. Rhestrodd Owen ‘ y coedwigoedd gorau heb eu torri’ a oedd ar ôl bryd hynny, y mae llawer ohonynt yn dal i fod yn goediog heddiw. Cynhwysai’r coedwigoedd hyn, ar yr ochr orllewinol i ddyfrffordd Aberdaugleddau, goedwigoedd Benton, Llangwm, Hook a Little Milford, ar yr ochr ogleddol goedwigoedd Boulston, Pictwn, Pickle a Toch, ac ar yr ochr ddwyreiniol, Goedwig Arberth (a oedd yn dal i gael ei gweinyddu ymhell i mewn i’r 17eg ganrif), Canaston, Mynwar, Coedcenlas, Creseli, Nash ac Upton. Roedd rhai o’r rhain yn bocedi bach o goetir, a ddisgrifir fel ‘coedwigoedd yn perthyn i wahanol fonheddwyr a oedd yn ddigonol i ddarparu tanwydd ar gyfer eu tai a rhai coed ar gyfer adeiladau’.

O dan y cyfryw ‘fonheddwyr’ yr ymgorfforwyd rhannau o’r coetir hwn, fel nodwedd economaidd ac addurniadol, yn y parciau a’r ystadau a leolid ar hyd y ddyfrffordd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, er enghraifft ym Mharc Pictwn, Parc Slebets a Pharc Upton Castle. Mewn cyferbyniad llwyr, symbylodd y coetir trwchus ym Mynwar a Canaston bobl i sefydlu diwydiannau yn gynnar o fewn yr ardal. Cododd George Mynne, y rhoddwyd iddo yr hawl i gymryd coed o’r coedwigoedd, ffwrnais chwyth yn llosgi golosg yn Canaston ym 1635. Sefydlwyd gefail haearn yn Blackpool erbyn 1760, pan gadarnhaodd ei phrydles fod gan y perchennog ‘yr hawl i dorri coed yng Nghoedwig Canaston o fewn pedair milltir i’r efail’. Roedd y diwydiannau wedi dirywio erbyn dechrau’r 19eg ganrif, yn bennaf oherwydd bod y coed wedi’u dihysbyddu. Ym 1794 nododd Hassell fod y rhan fwyaf o’r coetir yn goed derw, a’i fod yn cael ei reoli at ddibenion cynhyrchu golosg a rhisgl ar gyfer cyffeithio crwyn, ond bod coed da ar gyfer cynhyrchu golosg yn mynd yn brinnach. Ym 1811 cofnododd Fenton fod coed wedi’u torri i lawr ar raddfa fawr. Yn wir, dengys mapiau o’r ystad y darnau hynny o goetir a oedd wedi’u torri i lawr, wedi’u teneuo ac wedi’u prysgoedio’n ddiweddar. Yn ystod yr 20fed ganrif plannwyd coed coniffer mewn lleiniau mawr o’r hyn a fu gynt yn goetir collddail. Mae llawer o’r coetir hwn bellach yn perthyn i’r Comisiwn Coedwigaeth, ac fe’i rheolir fel Coedwigoedd Canaston a Mynwar.

Trefi yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar ddeg
Ni fu cynnydd yn y cyflenwadau a ddeuai ar dir i gyd-fynd â’r cynnydd yng ngweithgarwch llongau ac mewn gweithgarwch economaidd arall. Yn arbennig, roedd y ffaith nad oedd anheddiad mawr yn agos at angorfeydd dwr dwfn, nac unrhyw bierau na glanfeydd i wasanaethu llongau mawr, yn broblemau mawr. Mor gynnar â 1764, cydnabu William Hamilton fod problem, ond bu’n rhaid aros tan 1790 nes y pasiwyd Deddf Seneddol yn rhoi caniatâd i: ‘wneud a darparu Ceiau, Dociau, Pierau ac adeiladau eraill a sefydlu Marchnad â Ffyrdd a Rhodfeydd priodol’. Dyma ddechrau tref Aberdaugleddau a osodwyd yn ei phatrwm grid nodedig. Pan adleolwyd iardiau llongau’r llynges o Aberdaugleddau i safle newydd ar lan y ddyfrffordd gyferbyn sefydlwyd tref newydd. Doc Penfro oedd y dref newydd hon ac, yn debyg i Aberdaugleddau, fe’i gosodwyd yn yr un ffordd mewn patrwm grid. Mae’r strydoedd llydan, a’r tai deulawr teras a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr a’r bythynnod unllawr, yn rhoi cymeriad nodedig i’r dref. Erbyn canol y 19eg ganrif arweiniodd y lefel gynyddol o weithgarwch economaidd a phoblogaeth a oedd yn tyfu at ddatblygu Neyland. Sbardunwyd datblygiad y dref pan agorwyd terminws rheilffordd ym 1856. Yn wahanol i Aberdaugleddau a Doc Penfro, tyfodd Neyland yn organig ac ymledodd y tai i fyny o’r ddyfrffordd a’r rheilffordd. Bu’n rhaid i bob un o’r tri anheddiad ‘ail?greu’ eu hunain er mwyn addasu i amgylchiadau a oedd yn newid. Cafodd y penderfyniad i gau’r iardiau llongau yn Noc Penfro ym 1926 a’r broses raddol o gau safleoedd milwrol ers yr Ail Ryfel Byd effaith fawr ar y dref, ac fe’u dilynwyd gan gyfnodau o farweidd-dra. Mae’r dirywiad yn y diwydiant pysgota ers canol yr 20fed ganrif wedi cael effaith debyg ar Aberdaugleddau a Neyland. Erbyn hyn mae gan y tair tref ‘economi gymysg’, yr adlewyrchir eu llwyddiant yn y datblygiadau tai a seilwaith yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a welir yn yr aneddiadau ac ar eu cyrion.

Amddiffynfeydd arfordirol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif
Ar wahân i ddau flocdy yn dyddio o’r 16eg ganrif, mae amddiffynfeydd Aberdaugleddau yn dyddio o gyfnod pwysig o adeiladu o tua 1850-1875 drwodd hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Cyn hynny, roedd tirfesurwyr milwrol a lleygwyr wedi tynnu sylw sawl gwaith at ba mor ddiamddiffyn y byddai dyfrffordd Aberdaugleddau pe ymosodid arni o’r môr. Comisiynwyd adroddiadau a chymeradwywyd cynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd, ond oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol neu economaidd, nis gweithredwyd erioed, neu fe’u stopiwyd yn fuan ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau. Bu’n rhaid i hyd yn oed y rhaglen enfawr o adeiladu amddiffynfeydd a weithredwyd rhwng 1850-75 gael ei haddasu sawl gwaith tra bod y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen oherwydd datblygiadau technolegol. Erbyn diwedd y 19eg ganrif i bob diben nid oedd angen y system hon.

Rhoddwyd cryn ystyriaeth i’r mater o amddiffyn dyfrffordd Aberdaugleddau ar ôl i ddociau’r llynges gael eu hadleoli o Aberdaugleddau i Ddoc Penfro ar ddechrau’r 19eg ganrif. Cynigiwyd cadwyn newydd o geyrydd ar hyd ymylon y ddyfrffordd, ond ni wnaed fawr ddim ar wahân i atgyfnerthu Pater Fort yn yr iardiau llongau newydd yn Noc Penfro, ac adeiladu barics amddiffynadwy y tu allan i’r dref, a dau dwr gynnau o bob tu i’r iardiau llongau. Roedd aber y ddyfrffordd wedi’i hamddiffyn bryd hynny ac adeiladwyd pedair caer yn ystod y 1850au: West Blockhouse, Dale Point, Thorn Island a Stack Rock. Adeiladwyd ceyrydd yn South Hook, Hubberston, Popton a Chapel Bay ar ôl i adroddiad gael ei gyflwyno i’r Senedd ym 1858. Mae pob un o’r safleoedd hyn wedi goroesi, ac mae’r mwyafrif ohonynt mewn cyflwr da. Ychwanegwyd dwy fagnelfa enfawr wrth aber y ddyfrffordd ym 1901-04.

Parhaodd y fyddin i ddefnyddio’r mwyafrif o’i safleoedd a adeiladwyd yng nghanol y 19eg ganrif hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar ôl hynny, a defnyddiwyd y magnelfeydd mawr a adeiladwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif tan ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben. O’r Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen adeiladwyd safleoedd newydd, yn aml ar raddfa enfawr: sefydliad at ddibenion gosod ffrwydron ar longau tanfor gerllaw Chapel Bay Fort, safle arbrofol ar gyfer gosod ffrwydron ar longau tanfor, barics a sefydliad profi torpidos ym Mhennar, magnelfeydd a setiau o chwiloleuadau yn Soldier’s Rock, magnelfa yn Kilroom, storfa olew yn Llanreath, depo ffrwydron yn Blackbridge a lleolwyd nifer o setiau o chwiloleuadau, magnelfeydd gwrthawyrennol, gosodiadau gynnau peiriant, yn ogystal â gwylfeydd a safleoedd ar gyfer gwylwyr ffrwydron ar hyd yr arfordir. Yn Noc Penfro, yn yr hen ddociau, sefydlwyd gwersyll ar gyfer awyrennau môr ym 1930. Chwaraeodd awyrennau yn gweithredu allan o’r gwersyll hwn rôl allweddol wrth amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o’r gorllewin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Caeoedd y gwersyll ym 1956. Mae dwy sied awyrennau môr wedi goroesi, yn ogystal â llawer o’r safleoedd milwrol yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Y diwydiant glo
Mae Edward (1950 a 1963) a Connop Price (1994-95) wedi astudio diwydiant glo Sir Benfro. Y prif ardaloedd glofaol yn Sir Benfro oedd Freystrop, Hook, Pictwn a Landshipping, ac roedd porthladdoedd yng Nghei Black Hill, Cei Little Milford, Cei Hook, Cei Lower Hook, Cei Sprinkle, Pwll Llangwm, Fferi Landshipping, Cei Landshipping, Cei Lawrenni a Chei Cresswell. Tan tua 1600, bu diwydiant glo Sir Benfro yn gweithredu ar raddfa fach iawn. Parhaodd i ddatblygu ond yn araf, ac mae’n debyg i’r mwyafrif o’r pyllau gael eu gweithio yn dymhorol gan ffermwyr a gweithwyr fferm. Er hynny, erbyn 1700 glo oedd y prif lwyth a gludid ar longau o Sir Benfro. Ym 1800, cododd Syr Hugh Owen y peiriant ager cyntaf yn y maes glo yn Landshipping. Datblygwyd technoleg newydd a’i gwnaeth yn bosibl i gloddio’n ddyfnach am lo a chanlyniad hynny oedd llai o byllau mwy o faint. Erbyn 1934, roedd Sir Benfro yn cynhyrchu 42,000 o dunelli o lo, a chyflogai un pwll, sef Hook, dros 130 o ddynion ym 1938. Ym 1947, gwladolwyd diwydiant glo Prydain a datganwyd bod maes glo Sir Benfro yn aneconomaidd a chaeodd pob un o’r pyllau. Heddiw ar wahân i geiau yn Fferi Landshipping, Cei Cresswell a Lawrenni prin yw olion ffisegol y diwydiant glo. Fodd bynnag, gwelir dylanwad parhaol amlycaf y diwydiant glo ar Sir Benfro yn y patrymau anheddu pendant a nodweddir gan fythynnod a thai mewn clystyrau llac a bythynnod a thai gwasgaredig ar draws y maes glo. Mae llawer o’r anheddau gwreiddiol wedi diflannu, ond mae’r patrwm anheddu yn elfen gref o’r dirwedd hanesyddol yn Hook, Freystrop, Landshipping a lleoliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo.

Y diwydiant olew
Mae Ken McKay yn Pembrokeshire County History Vol IV yn rhoi disgrifiad da o’r diwydiant olew. Oherwydd y galw am gynhyrchion olew a oedd yn prysur gynyddu yn ail hanner yr 20fed ganrif adeiladodd nifer o gwmnïau olew mawr burfeydd ar lannau dyfrffordd Aberdaugleddau. Roedd gan Aberdaugleddau ddwy fantais dros leoliadau eraill: angorfa ddwr dwfn ar gyfer llongau’r dydd a oedd yn mynd yn fwy ac yn fwy o faint; a llawer iawn o dir ffermio i adeiladu arno. Esso oedd y cwmni cyntaf i adeiladu ym 1957 ac fe’i dilynwyd gan derfynfa BP ym 1961, Texaco ym 1963, Gulf ym 1966 ac Amoco ym 1970, ac ar ddechrau’r 1960au comisiynwyd Gorsaf Bwer Penfro a losgai olew. Mae purfa Esso, terfynfa BP a’r orsaf bwer wedi cau bellach. Cafodd y gweithfeydd enfawr hyn effaith fawr iawn ar y dirwedd hanesyddol. Rhoddwyd i bob un ei ardal gymeriad ei hun, am fod y gwaith o’u hadeiladu wedi dileu, i bob pwrpas, yr holl elfennau blaenorol o’r dirwedd, ac maent yn dra gwahanol i’r ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol gerllaw. Cafwyd effaith fawr ar forlun dyfrffordd Aberdaugleddau hefyd, a cheir glanfeydd hir yn ymwthio i’r hyn a fu gynt yn ddwr agored. Effeithiwyd ar ardaloedd cymeriad eraill hefyd, ac nid yn unig gan yr effaith weledol y mae’r purfeydd yn ei chael ar eu tirweddau. Er enghraifft, arweiniodd gofynion o ran seilwaith at adeiladu Pont Cleddau yn uchel dros y ddyfrffordd, ac adeiladwyd tai ar gyrion pentrefi a threfi i ddarparu ar gyfer poblogaeth a oedd yn prysur dyfu.

Twristiaeth a hamdden
Bu rhannau o Sir Benfro yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid ers dros ddau gan mlynedd, ond nid ardal dyfrffordd Aberdaugleddau, am nad oes unrhyw gyfleusterau na thraethau tywodlyd hawdd eu cyrraedd yn yr ardal. Mae’r sefyllfa wedi gwella ers yr Ail Ryfel Byd, ac yn arbennig ers dynodi Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1952, er bod nifer yr ymwelwyr yn isel o gymharu â’r niferoedd mawr sy’n heidio i’r traethau tywodlyd ar hyd arfordir de Sir Benfro. Mae hwylio a chwaraeon dwr eraill yn weithgareddau hamdden poblogaidd a darperir ar eu cyfer gan farinâu yn Neyland ac Aberdaugleddau, cyfleusterau yn Dale a Lawrenni a nifer fawr o lithrfeydd a cheiau y gellir lansio cychod ohonynt. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n denu llawer o bobl i’r ardal, yn rhedeg ar hyd pennau clogwyni a glan rhan orllewinol y ddyfrffordd. Ymhlith atyniadau eraill y mae Castell Penfro, Castell Caeriw, Plasty Pictwn a’i gerddi, a phlastai a gerddi hanesyddol eraill. Yn aml mae ymwelwyr yn aros y tu allan i’r ardal mewn lleoedd megis Dinbych-y-Pysgod, Saundersfoot, yr Aber Bach ac Aberllydan, ond ceir tai yn cynnig gwely a brecwast a bythynnod gwyliau ar hyd y ddyfrffordd. Mae’n debyg y bydd y galw cynyddol am lety o safon yn arwain at addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes, megis hen adeiladau fferm, yn gartrefi gwyliau. Ceir safleoedd gwersylla a charafannau hefyd yn Dale, Angle a Llangwm. Mae’r diwydiant ymwelwyr yn dal i fod ar raddfa fach ac, ar wahân i safleoedd megis y marinâu, nid yw’n rhan fawr o’r dirwedd hanesyddol.

Adeiladau Deunyddiau
Mae bron yr holl dai a strwythurau a godwyd cyn 1900 wedi’u hadeiladu o gerrig ac mae ganddynt doeau llechi. Calchfaen carbonifferaidd a ddefnyddiwyd gan mwyaf, ac adeiladwyd rhai strwythurau o hen dywodfaen coch. Daeth y calchfaen a’r tywodfaen hyn o chwareli lleol. Llechi wedi’u mewnforio a ddefnyddiwyd i doi’r strwythurau hyn, er bod gan rai adeiladau fferm deils cerrig lleol. At ei gilydd mae tai a bythynnod gweithwyr a ffermdai llai o faint wedi’u rendro â sment tra bod ffermdai mwy o faint, tai boneddigion, eglwysi a chapeli heb eu rendro. Dim ond cerrig mandyllog o ansawdd gwael, y mae angen eu rendro, a oedd ar gael i adeiladu tai ar waelod yr ysgol gymdeithasol. Wrth gwrs mae eithriadau i hyn. Mae tai allan ffermydd bron yn ddieithriad wedi’u hadeiladu o gerrig moel. Nid oes yr un enghraifft o’r bythynnod wedi’u hadeiladu o bridd ac wedi’u toi â gwellt a ddisgrifir gan ysgrifenwyr yng nghanol y 19eg ganrif wedi goroesi. Yn wir, mynychter tai wedi’u hadeiladu â cherrig yw agwedd ddiffiniol y dreftadaeth adeiledig o fewn y rhan hon o Sir Benfro, a thynnwyd sylw at hyn mor gynnar â’r 16eg ganrif. Ar ôl 1900, defnyddir amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau. Mae brics yn disodli cerrig fel y prif ddeunydd adeiladu, ac yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif dechreuwyd defnyddio concrid, dur ac asbestos.

Pensaernïaeth frodorol ddomestig wledig
Mae’r prif fath o dy neu ffermdy gwledig a adeiladwyd cyn 1900 yn dyddio o ddau neu dri degawd ar y naill ochr neu’r llall i’r flwyddyn 1850 a gellir eu disgrifio’n fras fel adeiladau yn yr arddull brodorol Sioraidd. Maent yn adeiladau deulawr a chanddynt dair ffenestr grom a drysau ffrynt wedi’u gosod yn y canol, ffenestri mawr wedi’u gosod yn gymesur a simneiau o faint cyfartal yn y talcen. Ceir enghreifftiau o dai yn y traddodiad mwy brodorol sydd â chynllun a drychiad anghymesur, ffenestri bach, un simnai fawr ac un simnai fach, ac sydd ag un llawr a hanner yn ogystal â dau lawr, ond nid ydynt yn gyffredin. Ymddengys fod y tai brodorol yn perthyn yn fras i’r un ystod o ddyddiadau â’r rhai yn y traddodiad Sioraidd. Mae’n werth pwysleisio bod y gwahaniaethau rhwng y ddau fath hyn o dai yn rhai main iawn a’u bod wedi’u gosod ar fath cyffredin sylfaenol o dy. Mae’r math sylfaenol hwn o dy yn gyffredin i bob dosbarth cymdeithasol ac economaidd, ac mae graddoliadau o ran maint yn ogystal â manylion pensaernïol yr adeiladau yn darparu cliwiau pwysig o ran dosbarth economaidd-gymdeithasol y deiliad. Gellir cyffelybu’r ddau fath o dy a thai mewn rhannau eraill o Gymru, er bod tai yn y traddodiad brodorol yn fwy cyffredin na’r rhai yn yr arddull Sioraidd mwy boneddigaidd mewn mannau eraill.

Mae tai unllawr a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr hefyd yn amlygu’r agwedd gymdeithasol ar bensaernïaeth. Fe’u ceir mewn mannau eraill yn ne-orllewin Cymru, ond nid ydynt mor niferus ag ydynt o amgylch glannau dyfrffordd Aberdaugleddau. Yma fe’u ceir mewn cyd-destunau trefol (gweler isod) a gwledig, ac fe’u hadeiladwyd ar gyfer gweithwyr trefol, gweithwyr mewn diwydiannau gwledig a gweithwyr amaethyddol. Ceir ychydig o enghreifftiau yng nghyd-destun aneddiadau anffurfiol, sgatwyr ar dir comin efallai, sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo. Mae gan y tai unllawr hyn dair ffenestr grom a drws ffrynt sydd wedi’u gosod yn y canol. Ceir enghreifftiau o dai ar wahân, tai pâr a thai teras. Mae enghreifftiau trefol yn y traddodiad mwy boneddigaidd tra bod eu cefndryd gwledig yn y traddodiad brodorol. Fel y nodwyd, adeiladwyd rhai ar gyfer gweithwyr fferm, ond lleolir y mwyafrif yn hen ardal lofaol Cresswell, Martletwy a Landshipping ac mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu naill ai gan y perchen-ddeiliad neu ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant glo. Mae’n debyg eu bod yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif.

Ers canol yr 20fed ganrif hyd at ei diwedd mae’r broses o foderneiddio llawer o adeiladau hyn ac adeiladu llawer o anheddau newydd mewn amrywiaeth o ddeunyddiau wedi trawsnewid treftadaeth bensaernïol y dirwedd wledig. Mae hyn yn arbennig o amlwg yng nghanolfannau trefol agos Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro lle y mae pentrefi megis Hook, Llangwm a Llanismel yn aneddiadau a adeiladwyd yn ystod yr 20fed ganrif yn bennaf a chanddynt graidd hanesyddol bach.

Tai ystadau, tai mwy o faint a phensaernïaeth fonheddig
Yn wahanol i bensaernïaeth frodorol ddomestig sydd wedi’i chyfyngu’n bennaf i’r 19eg ganrif ac i gyfnodau diweddarach, mae’r stoc o dai ystadau, tai mwy o faint a phensaernïaeth fonheddig o fewn yr ardal hon yn ymestyn yn ôl dros nifer o ganrifoedd, a cheir enghreifftiau o’r cyfnod canoloesol drwodd i’r 19eg ganrif. Lleolir tai caerog canoloesol, nad oes unrhyw un yn byw ynddynt bellach, megis Castell Coch (Mynwar) ac Eastington (Rhoscrowdder) o fewn yr ardal hon, yn ogystal â dau o dy mawr de-orllewin Cymru; sef Castell Pictwn a Phlasty Slebets. Mae’r cyntaf, castell canoloesol sydd wedi’i addasu gryn dipyn, a’r ail, plasty ‘yn arddull castell’ sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, yn sefyll mewn parcdir helaeth yng nghanol ystadau enfawr. Fodd bynnag, mae llawer o’r tai ystad a’r tai mwy o faint yn llawer llai mawreddog. Dechreuodd rhai megis Coedcanlas, gerllaw Lawrenni, sydd ag elfennau lled-ganoloesol, fel capwt maenor ganoloesol, tra bod eraill, megis Sandy Haven gerllaw Llanismel, strwythur trawiadol a chanddo elfennau yn dyddio efallai o’r 17eg ganrif neu o gyfnodau cynharach, wedi dechrau o bosibl gyda phroses o gaffael tir ac adeiladu ystadau ar ddechrau’r cyfnod modern. Yn wir, y broses hon o adeiladu ystadau o’r 16eg ganrif ymlaen a arweiniodd at adeiladu llawer o’r tai mwy o faint. Cadwyd rhai tai, megis yn Sandy Haven a Choedcanlas, ond ailadeiladwyd llawer ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif yn yr arddull Sioraidd bonheddig, megis plasty Butterholl gerllaw Llanismel, sydd bellach yn lled-adfeiliedig, a’r ty trillawr trawiadol yn Nhrefwrdan. Parhaodd y patrwm hwn o adeiladu ystadau i mewn i’r 19eg ganrif pan oedd tai mawr yn yr arddull Sioraidd, megis yn Nhrewaren gerllaw Llanismel, yn dal i gael eu hadeiladu a gerddi yn dal i gael eu gosod.

Lleolir y mwyafrif o’r tai ystad a’r tai mwy o faint hyn ar dir ffermio bras ar y naill ochr a’r llall i ddyfrffordd Aberdaugleddau ac fe’u cysylltir â systemau o gaeau rheolaidd mawr.

Adeiladau fferm
Mae’r mwyafrif llethol o’r adeiladau fferm a adeiladwyd cyn 1900 wedi’u hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio yn ôl pob tebyg i ddegawdau canol y 19eg ganrif. Mae adeiladau fferm cynharach sydd wedi goroesi yn gysylltiedig fel arfer ag ystad, megis y rhesi ardderchog o adeiladau sydd wedi’u gosod o amgylch buarth Fferm Plasty Pictwn. Am fod ffermydd ystad yn meddu ar fwy o erwau roedd angen adeiladau fferm mwy o faint arnynt, a chaniataodd y cyfoeth a grëwyd adeiladu adeiladau gwell. Gallai’r ystadau mwy cyfoethog fforddio ffermydd plas â rhesi helaeth o adeiladau allan mewn trefniant ffurfiol yn aml o amgylch buarth fel ym Mhictwn. Ar ystadau llai o faint mae adeiladau fferm o ansawdd da yn aml wedi’u trefnu o amgylch cowrt iard neu mewn trefniant lled-ffurfiol â’r prif dy, er enghraifft, y rhes ardderchog o adeiladau yn Neuadd Herbrandston. Mae’r mwyafrif o ffermydd yn fwy syml, ond fel arfer mae ganddynt un neu ddwy res o adeiladau fferm, weithiau mewn trefniant lled-ffurfiol â’r ty. Prin yw’r enghreifftiau o resi bach unigol o adeiladau wedi’u cysylltu â thai, ac mae hynny’n cadarnhau’r ddamcaniaeth bod cyfoeth amaethyddol yr ardal hon yn gymharol uchel. Am fod adeiladau allan ar y mwyafrif o ffermydd yn cynnwys ysguboriau i storio grawn ac adeiladau anifeiliaid, fe’u hadeiladwyd pan arferid economi yn seiliedig ar bori anifeiliaid a ffermio tir âr. Fodd bynnag, mae ysguboriau ar ffermydd gweddol fach yn llai o faint yn gymesur â maint cyffredinol eu hadeiladau fferm na’r rhai ar ffermydd mwy o faint, sy’n awgrymu bod ffermio tir âr yn elfen lai pwysig yn economi’r fferm. Dengys ysguboriau mawr iawn mewn ardaloedd pori yn bennaf bellach, megis yr ysgubor adfeiliedig anferth yn Sisters’ House, Mynwar, fod ffermio tir âr ar un adeg yn elfen bwysig o’r economi ffermio.

Ers tua 1900, cyflwynwyd amrywiaeth fawr o ddeunyddiau adeiladu, gan gynnwys brics a haearn rhychog. Mae’n debyg bod adeiladau fferm o haearn gwrymiog yn dyddio o ganol y 19eg ganrif ar un adeg yn nodwedd gyffredin yn y dirwedd amaethyddol, yn arbennig siediau gwair pengrwn, ond erbyn hyn dim ond ar ffermydd llai o faint y maent wedi goroesi. Erbyn hyn mae gan y mwyafrif o ffermydd sy’n gweithio gasgliadau mawr o adeiladau fferm o ddur, concrid ac asbestos sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Mae cyflwr yr adeiladau fferm hyn a adeiladwyd o gerrig yn amrywio’n fawr. Mae’r mwyafrif mewn cyflwr da, ond mae nifer sylweddol yn dirywio, yn arbennig lle nad yw’r ffermydd yn cael eu gweithio bellach; addaswyd nifer llai yn anheddau.

Adeiladau domestig trefol
Mae’r ddau fath gwahanol o drefi, a gynrychiolir gan drefi canoloesol Penfro a Hwlffordd, a threfi Doc Penfro ac Aberdaugleddau yn dyddio o’r 19eg ganrif, yn cynnwys mathau cyferbyniol o adeiladau domestig. Nid oes odid ddim pensaernïaeth ddomestig drefol yn hyn na 1700 wedi goroesi, ond ym Mhenfro a Hwlffordd mae tai Sioraidd deulawr, trillawr a phedwar llawr yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn tystio i gyfoeth y dref yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd ‘economi gymysg’ y ddwy dref hyn at amrywiaeth fwy eang o ffurfiau pensaernïol: tai teras o’r 19eg ganrif, eiddo masnachol/domestig yr ardal siopa yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai ac adeiladau eraill a godwyd drwy gydol yr 20fed ganrif. Mae gan dref Aberdaugleddau rai tai Sioraidd cain yn ogystal â llawer o adeiladau diweddarach, ond Doc Penfro sydd â’r nodwedd bensaernïol fwyaf nodedig o unrhyw dref yn ne-orllewin Cymru. Yma ceir terasau o dai gweithwyr (unllawr a deulawr) o bob tu i strydoedd llydan wedi’u gosod mewn patrwm grid sy’n dyddio o ddechrau a chanol y 19eg ganrif. Mae’r terasau o dai deulawr yn y traddodiad Sioraidd, a cheir mwy o fanylion ar y tai ‘fforman’ mwy o faint ym mhen y strydoedd. Fodd bynnag, graddoliadau mewn maint ac nid mewn manylion sy’n dynodi’r gwahaniaethau yn y tirlun cymdeithasol. Wrth groesffordd tua chanol y dref mae adeiladau pen y terasau yn codi i dri llawr. I’r de o’r brif dref ym Mhennar, ceir terasau o dai neu fythynnod gweithwyr unllawr o bob tu i strydoedd llydan. Ceir y math hwn o dy teras yn dyddio o’r 19eg ganrif mewn trefi eraill megis Penfro ac mewn cyd-destunau gwledig yn agos at ddyfrffordd Aberdaugleddau, ond ni cheir niferoedd mor fawr unrhyw le arall yn ne-orllewin Cymru. Y trefi agosaf yn ddaearyddol sy’n cyfateb iddynt o ran nifer y math hwn o dy teras a geir ynddynt yw rhai o drefi de Iwerddon.

Eglwysi a chapeli
Mae eglwysi canoloesol yn rhoi cymeriad nodedig iawn i dirwedd hanesyddol dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae gan y mwyafrif ohonynt dyrau uchel o gerrig y gellir eu gweld o bellter mawr, ac yn aml gellir gweld tri neu ragor o unrhyw fan ffafriol ar hyd y ddyfrffordd. Arweiniodd dwysedd y boblogaeth ganoloesol, a ffurfioldeb ei system faenoraidd, at batrwm o blwyfi bach, pob un ag eglwys fawr ac ambell waith hefyd un neu ragor o gapeli anwes fel y bodolai gynt yn Angle, Caeriw, Dale, eglwysi’r Santes Fair a Sant Mihangel ym Mhenfro, Slebets a Steynton. Dechreuodd rhai eglwysi plwyf presennol fel capeli anwes. Mae gan yr eglwysi yr un forffoleg nodedig. Arweiniodd argaeledd Calchfaen Carbonifferaidd a gloddiwyd yn lleol at dechneg adeiladu ar raddfa enfawr, yn defnyddio cerrig o ansawdd, lle’r oedd llawer o’r lle y tu mewn i’r eglwys yn gromennog, sy’n dyddio fel arfer o’r 14eg ganrif hyd at yr 16eg ganrif. Mae eglwysi i’r de o ddyfrffordd Aberdaugleddau fel arfer yn gromennog a chanddynt un neu ragor o gelloedd, ac fel arfer mae ganddynt dwr gorllewinol ac aleau croes â ‘coridorau sgiw’ yn arwain i mewn i’r gangell. Fel arfer lleolir cynteddau ar yr ochr ddeheuol ac maent yn gromennog, ac yn aml maent yn cynnwys tystiolaeth bod siambrau pyrth eglwysi annatod ar y llawr cyntaf yno gynt. Mae cytiau clychau gorllewinol sgwâr mawr, yn ffurfio tyredau bach, yn nodwedd anarferol sydd wedi’u cyfyngu i bob pwrpas i’r rhanbarth (gweler Mynwar a Cosheston). Mae eglwysi i’r gogledd o’r ddyfrffordd yn debyg, ond maent yn symlach fel arfer, ac yn aml nid oes ganddynt y cromenni, yr aleau croes na’r twr. Fodd bynnag, ceir cilfachau côr ymwthiol ar y naill ochr a’r llall i fae dwyreiniol y gangell a bedyddfeydd ymwthiol yng nghorff yr eglwys ym aml yn yr eglwysi hyn. Mae’r nodweddion diffiniol hyn wedi’u cyfyngu bron yn gyfan gwbl i’r rhanbarth hwn (gweler y ddwy nodwedd hyn yn Herbrandston, Hubberston a Johnston). Ceir tair eglwys dref aleog fawr yn Hwlffordd ac un ohonynt, sef eglwys y Santes Fair, yw’r eglwys blwyf fwyaf yn y sir a’r eglwys anfynachaidd orau o ran ansawdd yng ngorllewin Cymru. Mewn cyferbyniad, mae’r ddwy eglwys dref ym Mhenfro yn gymharol fach. Mae gan eglwys Caeriw dwr yn arddull de-orllewin Lloegr yn dyddio o tua 1500. Mae gweddill yr eglwysi yn yr ardal hon at ei gilydd yn rhai gwledig, ac yn fwy ‘nodweddiadol’. Mae’r mynwentydd yn Angle a Chaeriw yn cynnwys capeli angladdol anarferol o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ceir nifer o eglwysi caeëdig, gwag neu adfeiliedig, er enghraifft Boulston, Hasguard, Newton North, Pwllcrochan, Paterchurch (Doc Penfro), Slebets (yn dyddio o’r 19eg ganrif) ac Upton.

Roedd pum ty mynachaidd pwysig yn yr ardal hon cyn y goresgyniad. Mae Priordy Pill, un o ddibyniaethau’r abaty Tironaidd yn Llandudoch, y Priordy Awstinaidd yn Hwlffordd, ac eglwys Marchogion Sant Ioan yn Slebets wedi goroesi i raddau amrywiol, er nad oes unrhyw dystiolaeth o’r adeiladau confensiynol ar y safle diweddarach wedi goroesi. Mae’r Priordy Benedictaidd yn Monkton, Penfro, wedi goroesi fel eglwys blwyf (fel y gwnaeth Slebets am gyfnod byr), ond nid oes unrhyw dystiolaeth ar wyneb y ddaear o’r freiardy Dominicaidd yn Hwlffordd.

Mae llawer o aneddiadau cnewyllol canoloesol o fewn yr ardal wedi’u clystyru o amgylch eu heglwysi, er enghraifft yn Angle, Herbrandston, Llangwm, Rosemarket a Chastell Gwalchmai, ond ceir aneddiadau eraill, megis Caeriw a Llanismel, a leolir gryn bellter o’r eglwys, sy’n awgrymu bod yr eglwysi yn sefyll ar safleoedd cynharach. Ar ben hynny, mae’n amlwg bod rhai safleoedd eglwysig yn dyddio’n wreiddiol o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Rhoscrowdder oedd safle un o saith ‘ty esgob’ Dyfed cyn y goresgyniad ac mae’n cynnwys yr hyn a all fod yn gapel-y-bedd dros fedd sant. Mae safleoedd capeli o ddechrau’r cyfnod canoloesol yn cynnwys o bosibl y capel ar ben y clogwyn yn Angle a’r capel rhydd yng Nghoedcanlas, tra bod nifer o Henebion Cristnogol Cynnar yn y rhanbarth, gan gynnwys y rhai yn eglwysi Llanismel a Steynton (a Johnston efallai). Lleolir cistfynwentydd yn agos at yr eglwysi yn Sain Ffraid a Llanismel.

Mae’r gwaith a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adeiladu ac adnewyddu eglwysi wedi cael effaith gymharol fach. Ailadeiladwyd ac adleolwyd eglwys Slebets ym 1840, ond mae’r eglwys newydd bellach yn wag. Adeiladwyd eglwysi newydd, ar gyfer plwyfi newydd, yn Aberdaugleddau a Hundleton, tra ailadeiladwyd eglwys Sant Mihangel ym Mhenfro. Fodd bynnag gwasanaethid trefi newydd Aberdaugleddau a Doc Penfro gan nifer o gapeli anghydffurfiol.