Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PENFRO

CYFEIRNOD GRID: SM 986015
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 288

Cefndir Hanesyddol
Lleolir Penfro ar bentir hir o Galchfaen Carbonifferaidd ym mhen un o’r nifer fawr o gilfachau a geir ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau. Nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn o anheddiad ar y safle cyn sefydlu’r Castell a’r dref Normanaidd, ond dengys y ffaith i ddarnau arian Rhufeinig gael eu darganfod yn yr 1880au fod y Rhufeiniaid wedi bod yn yr ardal. Hefyd, mae’r modd yr aeth Roger de Montgomery yn syth i Benfro ym 1093 i sefydlu ei gastell yn awgrymu bod canolfan weinyddol Gymreig ar y safle cyn dyfodiad y Normaniaid. Rhoddwyd i Benfro ei siarter yn rhoi statws tref iddi cyn 1135. Fodd bynnag, mae’n debyg bod anheddiad wedi dechrau ffurfio gerllaw’r castell o 1093 ymlaen. Roedd bathdy yn y dref erbyn 1130. Ffynnodd y dref a thyfodd yn gyflym. Lleolid dwy eglwys o fewn cwmpas muriau’r dref a safai Priordy Monkton y tu allan i’r de. Erbyn yr 16eg ganrif roedd y dref yn dirywio. Er mai hi oedd y dref sirol ar ôl i Sir Benfro gael ei chreu ym 1536, ymddengys mai rôl deitlog oedd gan Benfro yn bennaf a chyflawnid llawer o’r swyddogaethau gan Hwlffordd. Fodd bynnag, sefydlwyd tollty ym Mhenfro ym 1599 ar ôl i ddeddfwriaeth forwrol gael ei had-drefnu, er mai ychydig o longau a gofrestrwyd i’r dref. Ymddengys ei bod wedi gweithredu yn fwy fel canolfan fasnachol na doc. Mynegodd Donovan, ac yntau’n ysgrifennu ym 1806, y gobaith y gallai porthladd Penfro ‘un dydd dyfu’n bwysig’. Chwalwyd y gobeithion hyn gan dwf Aberdaugleddau, Doc Penfro a Neyland. Er hynny, galwai llongau hwylio o bryd i’w gilydd yng nghei Penfro. Yr olaf i alw yno oedd ‘Kathleen & May’ a ymwelai’n rheolaidd â Chei’r Gogledd hyd at y 1960au. Adeiladwyd strwythurau megis pontydd, argaeau, melinau a cheiau ar wahanol adegau yn ystod hanes Penfro. Cyfeiriwyd at bont yn siarter y dref a chredir mai cyfeiriad at bont y gogledd ydyw. Ceir y cyfeiriad cyntaf at felin ym 1199. Tybir y safai’r felin yn agos at bont y gogledd. Erbyn 1678, roedd y felin yn felin yd lanwol sylweddol a oedd wedi’i hadeiladu o gerrig, a gweithredai’r bont fel argae ar gyfer pwll y felin. Parhaodd y felin hon i weithio tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond fe’i llosgwyd ym 1956, a dymchwelwyd ei gweddillion ym 1968. Lleolir ail felin, y cyfeirir ati mewn adroddiadau o’r 14eg ganrif, ar ochr ddeheuol y castell. Daeth y rheilffordd i Benfro ym 1863, pan agorwyd gorsaf i’r dwyrain o’r dref, o fewn un o’r maestrefi cynnar a ddangosir ar fap Speed dyddiedig 1611.

Hefyd yn yr ardal hon mae craidd cyn-ystad Bush ar lan ogleddol Afon Penfro, sydd bellach yn ysgol uwchradd a chartref preswyl. Roedd ty a gerddi wedi’u sefydlu yma erbyn 1772, pan y’u dangoswyd ar fap o’r ystad. Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o’r 19eg ganrif batrwm tebyg.

Ar wahân i dai ac adeiladau eraill yn agos at y bont, ni fu fawr ddim datblygiadau cyn yr 20fed ganrif ar lan ogleddol Afon Penfro gyferbyn â’r dref. Dengys mapiau cynnar o’r ystad yn dyddio o’r 19eg ganrif dirwedd o gaeau rheolaidd a ffermydd. Roedd y sefyllfa yn debyg i’r de ac i’r dwyrain o’r dref ganoloesol. Yn y tair ardal hon – sef yr ochr ogleddol i Afon Penfro, y llethrau sy’n wynebu’r gogledd i’r de o’r dref a’r rhai i’r dwyrain o’r dref – y cafwyd datblygiadau tai, gan gynnwys ystad o dai cyngor a thai preifat. Cynhwysir tai i’r gorllewin o Monkton yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penfro. Yn forffolegol mae’r tai hyn yn debyg i ddatblygiadau yn dyddio o’r 20fed ganrif, ond trwy archwilio mapiau o’r 19eg ganrif dangosir, rhwng 1841 a 1859, i batrwm grid o leiniau tai gael ei osod sy’n dal i fod yno. Erbyn 1859, roedd tai wedi’u hadeiladu ar lawer o’r lleiniau ac roedd eraill yn barod i’w datblygu.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal drefol ac mae’n cynnwys canol Penfro ynghyd ag ardaloedd adeiledig cyfagos megis Monkton a Kingsbridge. Adeiladwyd craidd hanesyddol Penfro ar esgair isel o galchfaen sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin. I’r gogledd ac i’r gorllewin o’r esgair hon ceir Afon Penfro sy’n afon lanwol (ond a argaewyd bellach) ac i’r de ardal o dir corslyd (a adferwyd yn rhannol erbyn hyn ac sydd o dan feysydd parcio). Castell Penfro ar ben gorllewinol yr esgair hon yw’r elfen amlycaf o’r dref gyfan. Datblygodd y dref yn raddol tua’r dwyrain o’r castell, ar hyd un brif stryd hir, ac mae’n bosibl bod dwy set o waliau amddiffynnol wedi’u hadeiladu ar ei chyfer cyn i’r waliau presennol gael eu hadeiladu ar ddechrau’r 14eg ganrif. Mae gweddillion y waliau yn dal i amgylchynu craidd hanesyddol y dref, sy’n cynnwys dwy eglwys blwyf ganoloesol, sef eglwys y Santes Fair ac eglwys Sant Mihangel. Datblygodd eglwys Sant Mihangel fel eglwys blwyf y tu allan i’r waliau (a marchnad) y tu hwnt i amddiffynfeydd a godwyd ar gyfer y dref mewn cyfnod cynharach. Yn y bôn mae’r craidd hanesyddol yn cynnwys y stryd hir sydd â siopau, busnesau a thai a adeiladwyd mewn lleiniau tir bwrdais yn perthyn i’r oesoedd canol ar bob ochr iddi. Mae llawer o’r adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif ac maent yn cynnwys strwythurau deulawr a thrillawr a adeiladwyd yn yr arddull Sioraidd. Mae’r rhain yn cyfrif am y mwyafrif o’r 103 o adeiladau rhestredig yn y dref. Fodd bynnag, ceir tai a strwythurau cynharach a diweddarach, gan gynnwys rhai seleri cromennog o ddiwedd y cyfnod canoloesol a rhes o dai tref yn dyddio o’r 17eg ganrif ar Westgate Hill. Mae ceiau a rhai warysau wedi’u hadeiladu o gerrig a leolir i’r gogledd o’r castell yn dyddio o’r 19eg ganrif. I’r de-orllewin o’r castell mae eglwys ganoloesol Monkton yn darparu ail ffocws ar gyfer yr anheddiad. Mae’r tai yma yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yn bennaf. I’r gorllewin o bentref Monkton mae ystad fawr o dai cyngor a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif. Safai melin lanwol gynt ar y bont dros Afon Penfro. Ar wahân i warysau a cheiau ni fu fawr ddim datblygiadau i’r gogledd o’r afon tan yr 20fed ganrif. Lleolir ystadau tai mawr yma bellach, ac adeiladwyd ysgol uwchradd a chanolfan chwaraeon ar ran o hen ystad Bush. Ceir tai yn dyddio o’r 19eg ganrif i’r dwyrain o’r dref hefyd, gan gynnwys teras o fythynnod unllawr. Ymhellach allan i’r dwyrain ac i’r de ceir ystadau tai mawr a godwyd yn yr 20fed ganrif.

Mae Penfro yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig iawn ac mae’n wahanol i’r tir ffermio cyfagos. I’r gogledd-orllewin, dim ond ychydig o gaeau sydd rhwng cyrion y dref ac ystadau tai Doc Penfro. O fewn ychydig o flynyddoedd bydd y ddwy dref hyn yn ffurfio un cytrefiad bach.

Ffynonellau: Boon 1986; Carradice 1992; Lilley 1995; Ludlow 1991; Ludlow 1993; Map Degwm Eglwys y Santes Fair, Penfro 1841; Map Degwm Eglwys Sant Mihangel, Penfro 1841; Map Degwm Monkton 1841; Map Degwm Eglwys y Santes Fair, Penfro 1841; Map Degwm Price 1986; Soulsby 1983; PRO D/ANGLE/115; PRO/D/BUSH/6/26; PRO D/BUSH/6/27; PRO D/BUSH/6/144; PRO D/BUSH/6/145