Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

HOATEN – HASGUARD

CYFEIRNOD GRID: SM 835092
ARDAL MEWN HECTARAU: 2557

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad hanesyddol fawr ar ochr ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau, ym mhlwyfi Hasguard, Marloes, Sain Ffraid a Chastell Walwyn a leolwyd ym Marwniaeth ganoloesol Castell Walwyn. Mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o blwyf Llanismel, sy’n gydamserol yn fras ag Isarglwyddiaeth Llanismel a oedd yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Gellir cysylltu’r mwyafrif o ffermydd a thirddaliadaethau heddiw â maenorau canoloesol, a oedd yn rhan o broses gymhleth o rannu ac isffeodu yn dilyn rhannu Iarllaeth Penfro ym 1247. Mae ffermydd Mullock a Bicton yn olynwyr deiliadaethau ar wahân, yn Isarglwyddiaeth Llanismel, yn cynrychioli yr ½ ffi marchog a ddelid o Arglwyddiaeth Penfro gan Arglwyddi Dale o 1247 o leiaf. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd Great Hoaten a Little Hoaten yn ¼ ffi marchog yr un, a ddelid o Lanismel, pan aseswyd rent y cyntaf yn £4 3 s 10¼ d. Cynrychiolai Sandy Haven ¼ ffi marchog, a ddelid o Lanismel. Hefyd, delid y capwt ei hun o Farwniaeth Castell Walwyn ym mhentref Castell Walwyn, gyda’i gastell amddiffynfa gylch ac eglwys plwyf, 1 ffi marchog yn Hasguard (gerllaw eglwys y plwyf a chlastir), ½ ffi marchog yn Sain Ffraid a 9/10 ffi marchog yn Ripperston. Daliai gwahanol unigolion y maenorau hyn, tra arferai Butterhill fod yn eiddo i Briordy Hwlffordd. Fodd bynnag, nid oedd yr amryfal berchenogaethau yn arwain at wahanol gytundebau deiliadaeth, a chafwyd patrwm unffurf o gaeau wedi’u hamgáu. Erbyn yr 17eg ganrif, roedd nifer o’r deiliadaethau hyn wedi’u caffael gan deulu Allen a ddaethant yn rhai o brif dirfeddianwyr yr ardal. Dengys mapiau cynharaf yr ardal hon, sy’n dyddio o ganol y 18fed ganrif, dirwedd sydd bron yn union yr un fath â thirwedd heddiw. Erbyn hynny, roedd bron i bob fferm wedi’i sefydlu a thirwedd y caeau mawr rheolaidd wedi’u gosod allan. Roedd tirddaliadau’n helaeth, a’r ffermwyr yn amlwg yn gyfoethog oherwydd gallai llawer ohonynt fforddio comisiynu mapiau ystad a oedd yn darlunio holl fanylion eu hystadau, gan gynnwys gerddi, perllannau a pharciau. Mae’r sefyllfa wedi newid ychydig dros y ddwy ganrif a hanner ddiwethaf, fel y dangosir yn y mapiau ystad, mapiau degwm a mapiau Arolwg Ordnans o’r 19eg ganrif. Nid yw tarddiad y dirwedd o’r 19eg ganrif a’r dirwedd fodern yn eglur. Mae’n bosibl bod y pentrefannau canoloesol wedi creu systemau caeau agored a oedd wedi’u llwyrfeddiannu yn ddeiliadaethau unigol a’r tir wedi’i amgáu yn y cyfnod canoloesol hwyr neu’n gynnar yn y cyfnod modern. Nid yw grwp o ffermydd bach i’r gorllewin o Lanismel – Fferm Whiteholm, Slatehill, y Gann yn cydweddu â’r patrwm hwn ac ymddengys fel petaent wedi cael eu llunio o dir comin, efallai yn y 18fed ganrif, oherwydd dengys mapiau cynnar o’r 19eg ganrif y rhain fel deiliadaethau bach cymharol newydd. Hefyd, mae enwau ffermydd West Lodge a Newfoundland yn dangos tarddiad hwyr tebyg, ac ni chrybwyllir yr un ohonynt tan y 18fed ganrif. Sefydlwyd Kensington Place gan berchenogion maenor Sain Ffraid yn y 19eg ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fawr a leolir rhwng arfordir dyfrffordd Aberdaugleddau ac arfordir Bae Sain Ffraid. Yn ei hanfod, mae’n llwyfandir rhwng 30m a 60m a ddyrennir gan ddyffrynnoedd bach, cul. Mae’n dirwedd amaethyddol, ac ar wahân i glystyrau bach o goed collddail ar rai o ochrau mwyaf serth y dyffryn, ambell goeden mewn gwrychoedd a lleiniau cysgodi o amgylch anheddiadau, mae fwy neu lai’n gwbl ddigoed. Mae ffermio’n ddwys iawn, o dir âr a thir pori wedi’i gwella, heb lawer o dir garw neu dir wedi ei danddefnyddio. Mae caeau’n fawr ac yn rheolaidd, ac fe’u ffinir gan uchelgloddiau â gwrychoedd arnynt. Mae gwrychoedd yn gyffredinol wedi’u cynnal yn dda, ac o ganlyniad i natur wyntog yr ardal, prin yw’r rhai sy’n tyfu’n wyllt. Mewn lleoliadau mwy agored, mae’r gwrychoedd yn isel iawn ond maent yn fwy sylweddol yn rhai o’r dyffrynnoedd mwyaf cysgodol. Tuag at Fae Sain Ffraid, ceir ambell wal â mortar, ond mae’r rhain yn brin iawn. Ffermydd gwasgaredig yw patrwm yr anheddu. Yn gyffredinol, mae ffermydd ac adeiladau allan yn fawr, sy’n adlewyrchiad o gyfoeth amaethyddol cymharol yr ardal hon yn y gorffennol a’r presennol. Defnyddir carreg bron yn gyfan gwbl yn yr annedd hyn a’r adeiladau fferm hyn. Mae gan yr adeiladau hyn doeau llechi wedi’u torri â pheiriannau, er bod ambell enghraifft o doeau teils carreg, yn bosibl o darddiad lleol yn goroesi. Mae nifer o’r tai wedi’u rendro â sment, ond mae ambell enghraifft o waliau â llechi yn bresennol, yn arbennig yn yr ardaloedd sydd fwyaf agored. Mae’r mwyafrif o’r tai’n ddeulawr ac yn meddu ar nodweddion sy’n awgrymu eu bod wedi’u hailfodelu neu wedi’u hadeiladu ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif yn y traddodiad Sioraidd. Fodd bynnag, mae gan nifer o’r tai nodweddion sy’n dangos tarddiad cynharach, megis Fferm Sandy Haven. Mae tai sylweddol iawn yn yr ardal hon megis plasty Butterhill o’r 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif sy’n hanner adfail, y ty tebyg yn Pearson â’i ardd â wal yn mynd o’i chwmpas, a’r ty ym Mharc Windmill sy’n rhestredig â gradd II. Mae ffermdai llai ac anheddau hyn eraill yn bresennol ac maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif ar y cyfan, gydag enghreifftiau yn y traddodiad brodorol a Sioraidd bonedd. Mae pentrefan Sandy Haven yn yr ardal hon, â sawl ty o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Yn wreiddiol, roedd Sandy Haven yn bentrefan bach pysgota/adeiladu cychod, er nad oes unrhyw gei na glanfa ffurfiol. Fel arfer, mae amrywiaethau sylweddol o adeiladau allan o garreg i’w gweld gyda’r ffermydd mwyaf, yn aml wedi’u gosod o amgylch buarth. Mae casgliadau mawr o adeiladau fferm o ddiwedd yr 20fed ganrif yn nodwedd ddiffiniol o’r dirwedd. Mae rhai ffermydd wedi ailddefnyddio strwythurau milwrol o’r Ail Ryfel Byd fel adeiladau allan megis siediau awyrennau wedi’u hailadeiladu. Yn gyffredinol, mae gan y ffermydd llai adeiladau allan hen a modern llai sylweddol. Ni cheir unrhyw glwstwr anheddu yn yr ardal ac nid oes llawer o dai modern. Eithriad yw’r tai o’r 20fed ganrif yng Nghastell Walwyn. Ar wahân i eglwys ganoloesol St James a Chastell Walwyn â’i dwr sylweddol, nid yw adeiladau crefyddol yn elfen fawr o’r dirwedd hanesyddol. Fodd bynnag, mae gwerth nodi eglwys adfeiliedig St Peters yn Hasguard sy’n rhestredig â gradd B, a chapel bach o’r 19fed ganrif ar un o ragnentydd mornant Sandy Haven. Dim ond rhan fechan o’r dirwedd hanesyddol yw’r safleoedd archeolegol unigol ond maent yn cynnwys caerau o’r oes haearn, meini hirion o’r oes efydd, beddrodau crwn a thomenni wedi’u llosgi, nifer o weithfeydd carreg fflint cynhanesyddol, ac olion melin wynt ym Mharc Windmill o’r cyfnod ôl-ganoloesol.

Mae’r ardaloedd sydd i’r gorllewin, i’r de ac i’r dwyrain o’r ardal hon wedi’u diffinio’n gyffredinol dda wrth iddi ffinio ag ardaloedd cymeriad sy’n cynnwys elfennau cwbl wahanol, ac eithrio i’r de ger ardal Llanismel lle nad oes ffin amlwg. Yn yr un modd, i’r gogledd mae’r ardal hon yn ymdoddi i ardaloedd nad ydynt wedi eu diffinio eto.

Ffynonellau: Charles 1992; Jones 1996; Map degwm Plwyf Marloes 1843; LlGC MAP 7575; Nash 1986; Owen 1911; Owen 1918; PRO D/ER/3/6; PRO/D/RKL/1194/14 ac 17; PRO HDX/80/66; Map degwm Plwyf Llanismel 1839; Walker 1950; Map degwm Plwyf Walwyn 1842