MAES AWYR ANGLE
CYFEIRNOD GRID: SM 860018
ARDAL MEWN HECTARAU: 112
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n gorwedd ger pegwn gorllewinol penrhyn de Sir
Benfro sy’n cynnwys adfeilion maes awyr Angle sydd wedi cael eu
hadfer. Mae’n gorwedd o fewn plwyf Angle, sydd yn ôl pob tebyg
yn gydamserol â Maenor ganoloesol Angle. Roedd y faenor yn un o
arglwyddiaethau canol Arglwyddiaeth Penfro yn cynrychioli 2 ffi marchog.
Roedd yn rhan o gyfran de Clare o Arglwyddiaeth Penfro pan gafodd ei rhannu
ym 1247, ond mewn perthynas â materion gweinyddu, parhaodd i fod
yn rhan o Benfro. Roedd y faenor o’r 14eg ganrif yn cynnwys 2 ½
gweddgyfair o dir. Erbyn 1613, roedd yn nwylo Iarll Essex. Yn y pen draw,
daeth Angle o fewn Ystad helaeth Cawdor o dan y teulu Campbell o faenor
Castell Martin. Ym 1805, caffaelwyd yr ystad gan John Mirehouse o Brownslade.
Cyn agor y maes awyr ym 1942, roedd y dirwedd yn cynnwys caeau. I’r
gogledd, roedd y caeau hyn yn cynnwys lleiniau caeëdig o system caeau
agored flaenorol pentref Angle. I’r de, roedd y caeau yn fawr ac
yn rheolaidd, yn perthyn i North Studdock a Hubberton, ill dwy yn ffermydd
ôl-ganoloesol a sefydlwyd yn rhannol dros yr hen gaeau agored, ond
sydd o bosibl yn cynnwys clostir newydd yn rhannol. Defnyddiwyd awyrennau
ymladd yn Angle er mwyn diogelu cludwyr môr Iwerydd yn ystod y rhan
olaf o’r daith o America. Bu’r awyrennau hefyd yn ymosod ac
yn streicio llongau o’r tir o amgylch arfordir gogledd Ffrainc.
O ganlyniad i’w leoliad gweddol anghysbell, daeth y maes awyr yn
ganolfan hyfforddi ac ymchwil a datblygu. Lleolwyd yr Uned Datblygu Rheolaeth
Arfordirol ym meysydd awyr Angle a Dale. Caeodd maes awyr Angle o fewn
pum mlynedd i ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys ffermdir
a adferwyd o faes awyr Angle o’r Ail Ryfel Byd. Dymchwelwyd holl
adeiladau’r maes awyr o fewn yr ardal hon (defnyddir rhai adeiladau
o’r Ail Ryfel Byd fel adeiladau fferm yn yr ardal gyfagos) a heblaw
am adrannau bach, symudwyd y rhedffyrdd a’r ffyrdd concrid. Adferwyd
y tir yn borfa ac fe’i rhennir gan gloddiau a ffensys gwifren.
Mae’r gwaith o adfer y tir wedi cymylu’r ffin rhwng y maes
awyr a’r ffermdir o’i amgylch, er bod natur y gwaith adfer
yn galluogi i safle’r maes awyr blaenorol gael ei leoli.
Ffynonellau: Map degwm plwyf Angle 1842; Charles 1992; Ludlow 1997a;
Cynllun AE 492 MOD
|