Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

LLECYN ARFORDIROL DALE I SAIN FFRAID

CYFEIRNOD GRID: SM 789069
ARDAL MEWN HECTARAU: 207

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n cynnwys llecyn arfordirol cul ym mhlwyfi Dale, Marloes a Sain Ffraid. Yn hanesyddol, bu’r llecyn arfordirol hwn yn dir ymylol erioed, y tu hwnt i ffiniau tir amaethyddol. Yn y gorffennol, fe’i defnyddiwyd fel tir pori garw, ond ei brif swyddogaeth erbyn hyn yw gweithredu fel coridor ar gyfer Llwybr Arfordir Sir Benfro, wedi’i leoli rhwng tir amaethyddol a ffiniau clogwyni’r môr. Fodd bynnag, mae’r ardal hon yn cynnwys sawl cyn safle anheddu. Mae’r rhain yn cynnwys Gateholm Island sydd â hanes hir o anheddu: cynrychiolir y cyfnod anheddu pwysicaf gan gyfres o gytiau â waliau tyweirch y gellir eu dyddio i’r cyfnod Rhufeinig ac i gyfnodau ôl-Rufeinig, a chaer bentir o’r oes haearn yn Great Castle Head, a ailddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod canoloesol fel capwt Maenor Dale, ac yn ddiweddarach fel safle amddiffyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oes llawer o leoliadau sy’n addas ar gyfer glanio cychod bach ar hyd y rhan hon o glogwyn arfordirol. Yr eithriadau yw Westdale Bay, Traeth Marloes a Martin’s Haven. Y lleoliadau hyn a oedd yn gwasanaethu fel mannau hwylio ar gyfer y berfeddwlad amaethyddol, ond nid adeiladwyd unrhyw geiau neu lanfeydd ffurfiol yn unman.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys llecyn tua 20 km o hyd o glogwyn arfordirol uchel o garreg galed wedi’i orchuddio â band cul o rostir, prysgwydd a thir garw. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro ar hyd yr ardal gyfan hon. Er mai llecyn cul iawn o dir ydyw, weithiau dim ond metr neu ddau o led, mae’r ardal hon yn wahanol iawn i’r tir amaethyddol sy’n cydffinio â hi, ac am rannau maith, nid oes cysylltiad rhwng y caeau amaethyddol a’r llecyn arfordirol. Yn ei hanfod, nodweddir tirwedd hanesyddol y llecyn arfordirol gan ei safleoedd archeolegol niferus ac amrywiol. Y rhai amlycaf a phwysicaf o’r rhain yw sawl caer bentir o’r oes haearn, megis Tower Point, Wooltack Point, a Great Castle Head a ailddefnyddiwyd yn y cyfnod canoloesol. Mae Gateholm Island hefyd o bwysigrwydd mawr gyda’i safleoedd yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod ôl-Rufeinig. Mae safleoedd eraill sy’n sefyll yn cynnwys odynau calch o’r 19eg ganrif, gyda thair ohonynt yn rhestredig â gradd II, ac amddiffynfeydd milwrol arfordirol o’r 20fed ganrif. Hefyd, ceir cyfoeth o archeoleg gladdedig gan gynnwys nifer o weithfeydd carreg fflint cynhanesyddol, a’r enwocaf yw Nab Head, a mynwent ganoloesol gynnar yn Sain Ffraid. Ni cheir unrhyw adeiladau preswyl yn yr ardal hon.

Mae hon yn ardal nodedig a diffiniedig iawn. Môr neu dir fferm sy’n ffinio ag ef.

Ffynonellau: Crane 1994; Edwards a Lane 1988; Ludlow yn Crane sydd i’w gyhoeddi; Murphy ac Allen 1997 ac 1998