|
HERBRANDSTON
CYFEIRNOD GRID: SM 866088
ARDAL MEWN HECTARAU: 782
Cefndir Hanesyddol
Lleolir yr ardal gymeriad hon ar lan ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau,
ym mhlwyfi Herbrandston a Robeston West. Gellir uniaethu’r mwyafrif
o’r ffermydd a’r deiliadaethau gyda maenorau canoloesol, a
fu’n rhan o broses gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth yn dilyn chwalu
Iarllaeth Penfro ym 1247. Roedd y rhan fwyaf o plwyf Herbrandston yn aelod
o Farwniaeth ganoloesol Castell Walwyn, a oedd yn cynnwys 2¾ gweddgyfair
a oedd yn eiddo i’r farwniaeth ‘drwy wrogaeth’. Mae’r
anheddiad, y ‘Villa Herberandi’ canoloesol yn amgylchynu eglwys
y plwyf a oedd yn eiddo i Briordy Awstinaidd Hwlffordd. Mae Robeston West
gan fwyaf yn gyd-amserol â Maenor ganoloesol Robeston, aelod o Arglwyddiaeth
Haverford nad yw’n debygol o fod wedi cael ei sefydlu tan y 14eg
ganrif; yn ystod y 16eg, Perrotts dylanwadol Haroldston a’i daliai.
Cysylltir eglwys y plwyf â safle treflan grebachog Robeston. Roedd
Rickeston yn cynnwys ¼ ffi marchog, a ddelid yn uniongyrchol o
Ieirll Penfro fel eu cyfran hwy o’r arglwyddiaeth. Roedd St Botolph
wedi’i leoli ym Maenor Pill, a roddwyd i Briordy Tironaidd Pill
yng nghanol y 13eg ganrif gan ei arglwydd, ynghyd â rhandir yn Robeston.
Roedd y capel yn St Botolph (St Budoc) yn eiddo i’r priordy ac ymddengys
fod ganddo hawliau claddu; o ganlyniad, mae’n bosibl iddo gael ei
sefydlu cyn y Goncwest Anglo-Normanaidd. Nid adlewyrchir yr amrywiol berchenogaethau
hyn mewn unrhyw drefniadau deiliadol gwahanol, a chafwyd patrwm amgáu
unffurf. O’r 18fed ganrif, pan syrfewyd y mapiau graddfa fawr am
y tro cyntaf, mae hanes tirwedd yr ardal hon yn debyg i ardal Hoaten –
Hasguard i’r gorllewin. Dengys y mapiau hyn dirwedd amaethyddol
bron yn union yr un fath â thirlun heddiw. Mae gerddi mawr, yn aml
gyda pherllannau a pharciau wedi’u sefydlu a chaeau mawr rheolaidd
eu siâp. Mae tarddiad y dirwedd hon yn ansicr, ond mae gwreiddiau
nifer o’r ffermydd mwyaf yn yr Oesoedd Canol, a fu unwaith o bosibl
yn bentrefannau amaethyddol â systemau caeau agored. Gallai’r
caeau agored hyn fod wedi’u hamgáu tua diwedd yr Oesoedd
Canol neu’n gynnar yn y cyfnod modern a’r pentrefannau wedi’u
troi’n ffermydd mawr, unigol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon i’r dwyrain o
Sandy Haven ar lwyfandir, yn gorwedd rhwng 30m 60m, wedi’i rannu
gan sawl dyffryn bach. Ar wahân i glystyrau bach o goetir yn rhai
o’r dyffrynnoedd a’r lleiniau cysgodi hyn, a phlanhigion eraill
a blannwyd ger y tai, mae’n dirwedd heb goed. Defnyddir y tir fel
cymysgedd o dir âr a phorfa wedi’i gwella. Nid oes llawer
o borfa garw neu dir diffaith. Mae patrwm y caeau yn cynnwys clostiroedd
mawr. Cloddiau o bridd â gwrychoedd sy’n eu gwahanu. Yn gyffredinol,
mae’r gwrychoedd yn cael eu cynnal yn dda, ond mae ambell un wedi
tyfu’n wyllt ac mae bylchau’n ymddangos mewn rhai eraill.
Ar wahân i bentref Herbrandston, ffermydd gwasgaredig yw patrwm
yr anheddiadau. Mae ffermydd yn fawr, ac yn wir, mae tai llawer ohonynt
yn blastai, neu arferent fod yn blastai – Neuadd Roberston, Neuadd
Rickerston, St Botolphs a Neuadd Herbrandston – ond, mae anheddau
llai yn bresennol hefyd. Mae ffermdai llai yn gyffredinol yn dyddio o’r
18fed ganrif a’r 19eg ganrif ac wedi’u hadeiladu o garreg,
â thoeau llechi, yn ddeulawr, gyda’r mwyafrif o enghreifftiau
yn y traddodiad Sioraidd. Mae rhai anheddau gwasgaredig o’r 19eg
ganrif ac o’r 20fed ganrif yn bresennol. Fel arfer, mae cyfresi
sylweddol o adeiladau allan o gerrig yn bresennol gyda’r ffermydd
mwy, yn aml wedi’u gosod o amgylch buarth. Mae gan Neuadd Herbrandston
a St Botolophs enghreifftiau da o adeiladau fferm o ansawdd da, ac mae’r
olaf yn cynnwys tri adeilad rhestredig Gradd II. Hefyd, mae gan y mwyafrif
o ffermydd gasgliadau o adeiladau allan o ddiwedd yr 20fed ganrif. Yn
gyffredinol, mae gan y ffermydd llai adeiladau allan hen a modern llai
sylweddol. Mae Herbranston yn bentref cryno. Mae ei ganol, sydd wedi’i
chanolbwyntio o amgylch eglwys ganoloesol y Santes Fair, yn parhau i gadw
peth o’i thras amaethyddol, gyda thai deulawr wedi’u rendro
â sment a bythynnod unllawr yn dyddio o’r 19eg ganrif –
y ddau fath yn y traddodiad brodorol – wedi’u gosod o amgylch
llain bychan. Mae tai o’r ugeinfed ganrif yn bresennol hefyd, gyda
datblygiadau mwy sylweddol ar gyrion y pentref. Lleolir tafarn ac ysgol
hefyd yn y pentref. Mae adeiladau eraill yn yr ardal yn cynnwys eglwys
ganoloesol St James yn Robeston West. Nid yw safleoedd archeolegol unigol
yn rhan fawr o’r dirwedd hanesyddol. Serch hynny, ceir bryngeiri
o’r oes haearn, beddrod siambr neolithig, carneddi wedi’u
llosgi o’r oes efydd a sawl llecyn lle daethpwyd o hyd i arteffactau
cynhanesyddol yn yr ardal.
Mae ffiniau’r ardal i’r gorllewin yn erbyn mornant llanwol
Sandy Haven ac i’r de yn erbyn clogwyni dros y môr a phurfa
olew wedi’u diffinio’n amlwg. Mae rhan o ffin ddwyreiniol
yr ardal lle y rhed ochr yn ochr â’r burfa olew, hefyd wedi’i
diffinio’n amlwg. Fodd bynnag, mae’r ddiffiniadau i’r
gogledd ac i’r dwyrain yn llai amlwg; yma, mae parth o newid, yn
hytrach na ffin ag ochrau caled.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Herbranston 1839; Jones 1996; Ludlow 1998;
Ludlow 2002; LlGC R K LUCAS COLL Rhif 16; Owen 1918; PRO D/RKL/1194/1,
2, 6, 11, 12, 15, 16 ac 18; PRO HPR//21/3; PRO D/RKL/932; Map degwm Plwyf
Robeston West 1843
|